Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XXXIX.] MAWRTH, 1865. [Cyp. IV. STORI ADA. GAN EI MAM. "0 enau plant bychain a rhai yn sugno j perfteithiaist foliant." fAE yr hanes hynod a ganlyn wedi ei ysgrifenu gan fam yr eneth, yr hon sydd yn dewis peidio cyhoeddi ei henw. Ni fwriadwyd yr hanes ar y cyntaf ond i gylch bychan o gyf- eillion, ond niynwyd rhoddi cyhoeddusrwydd iddo. Mae yn ddigon posibl y bydd gwatwarwyr yn gwawdio yinadroddion duwiol ac addfed y plentyn, ac anghredwyr yn awgrymu mai wedi ei dysgu i'w hadrodd ydoedd. Ond tystia y fam nad oedd yr un o ymadroddion Ada wedi eu dysgu iddi. Nid oeddent ond ffrwyth yr hyn a ddysgwyd iddi gan yr Ysbryd Glân. Ni chlywyd hi erioed yn arfer geiriau wedi eu cymeryd i fyny, heb synwyr ynddynt. Ni chlywyd hi erioed yn gofyn mewn gweddi am beth nad oedd arni ei eisieu, ac y gwyddai fod arni ei eisieu. Peth hawdd yw dysgu ffurf gweddi i blentyn, ond nis g41 neb ond Duw gynnyrchu dymuniad yn y galon am y pethau yr ydys yn gweddîo am danynt. Unig ymgais yr ysgrifenydd yw gwneyd yn hysbys ei waith Ef yn yr eneth anwyl hon, " er mawl gogon- iant ei ras Ef." Ganwyd Ada yn Mehefin, 1857. Y peth cyntaf wyf yn gofio mewn cysylltiad â'i bywyd ysbrydol ydoedd pan oddeutu blwydd