Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhií. XL.] EBRILL, 1865. [Cyt. IV. BLWCH YR AEGLWYDD. fAE llawer o'n darllenwyr ieuainc yn cadw blwch i drysori y ceiniogau a'r sylltau y maent yn gynnilo. Gwyddom am rai yn dewis poced y tad neu y fam yn fanc cynnilo. Mae eraill â'u "Ghristmas Box;" ac eraiÜ yn eu gosod bob yn swllt, neu goron, neu bunt, yn manc y Post office, neu fanciau cynnilo y trefi. Gwaitb da yw arfer plant o'u mebyd i wneyd hyn. Y mae yn llawer gwell na'u gadael i wario pob ceiniog a gaffont ar deganau dibwrpas, a melusion afiach. Gwyddomjim rai plant wedi dyfod gyfranddalwyr (shareholders) ymysg cwmnioedd cyfrifol, a y gyda'u harian eu hunain, cyn eu bod yn bum mlwydd oed. i peth o'r fath yn foddion rhagorol i gynnyrchu ysbryd cyn- nildeb mewn plant yn eu dyddiau ooreuol. Eto mae perygl ynglŷn à hyn. Hawdd yw myned o un clawdd i'r UalL Mae yn beth digon posibl arwain plentyn yn y cyfeiriad hwn i roddi ei holl fryd ar arian, ac i feddwl mai dyben mawr bywyd yw eu casglu. Y perygl yw meithrin ysbryd ariangar a chybyddlyd yn y plant. Mae anghen dylanwad cyferbyniol i fan- tofi y galon, a'i chadw yn ei lle. Mae digon o anghen hyn, yn wir, ar rai mwy na phlant; oblegid y mae ariangarwch wedi dr- fod yn farn ac yn felldith i lawer calon, a llawer cynnulleidfa. Ond y ffordd i wella yw dysgu yr iawn ysbryd i'r plant.