Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XLIII.] GORPHENAF, 1865. [Ctp. IV. CYFLOG Y FAM. (AGA ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog," meddai merch Pharaoh brenin yr Aipht wrth Jochebed, pan es- tynai ei baban tri mis oed i'w fam ei hun i'w fagu. Y peth a olygai merch Pharaoh ydoedd rhoddi arian yn dâl am fagu y plentyn; ond derbyniai y fam gyflog well ae uwch na hono. Yr oedd yn derbyn cyflog gan mil mwy yn y llawenydd a fwyn- hâi wrth ei fagu—yn nghariad ei phlentyn tuag ati—yn y gwas- anaeth a wnaeth ei phlentyn wedi hyny i waredu pobl yr Ar- glwydd o'u caethiwed—ac yn y bendithion y mae yr Arglwydd yn arfer roddi bob amser i'r mamau sydd yn magu eu plant i fyny yn ei addysg a'i athrawiaeth ef. Bob tro y mae yr Arglwydd yn gosod plentyn yn nwylaw tad a m am, y mae yn dywey d wrthynt,u Megwcn ef i mi, a minn au a roddaf i chwi eich cyflog." Mae hwn yn ymddiried mawr. Campwaith Duw yw y plentyn, yn gorff ac yn enaid; ac y mae i barhâu byth! Y mae cael gofal dygiad i fyny enaid anfarwol yn fwy ymddir- ied na chael llywodraeth un o deyrnasoedd y ddaear. Ac nid oes dim yn hanes y byd yn fwy amlwg na bod yr Ar- glwydd yn gofalu am y gyflog non yn ol y gwaith a gyflawnir. Nü yw un amser yn attei cyflog mamau äa, ac y mae y gyflog hono mewn gwerth uwch nag aur ac arian. Os cymerodd Hannan drafferth fáwr i fagu ei phlentyn Samuel i'r Arglwydd, wele y bachgen hwnw wecü ei dayrchafu i fod yn farnwr ar holl Israel