Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XLIV.] AWST, 1865. [Ctf. rv. CYNIFER O ALWADAU. §R oedd yn brydnawn clir ac iachus yn niwedd mis Rhagfyr, pan ddychwelodd Mr. Andrews o'i swyddfa i ganol cysuron tân glo dysglaer, a chadair fraich esmwyth, yn ei barlwr gartref. Newidiadd ei esgidiau aui bâr o slippers, taflodd ei hun yn ôl yn ei gadair, ac edrychai i fyny ac oddiamgylch fel dyn wrth ei fodd. Eto, wrth sylwi yn fanwL gellid gweled fod cwmwl bychan ar ei ael. Beth allai fod y mater? Hyn ydoedd, a dyweyd y gwir yn blaen. Yr oedd goruchwyliwr un o'r Cymdeithasau Crefyddol wedi galw gydag ef yn èi swyddfa, ac wedi dangos iddo trwy gy- mhellion rhesymol y dylasai ddyblu ar ei dansgrinad blynyddol arferoL "Mae y bobl yn meddwl, mi dybiwn," meddai wrtho ei hun, "fy mod i wedi fy ngwneyd o arian. Pyma y pedwerydd achos y flwyddyn hon y buwyd yn gwasgu arnaf i ddyblu fy nhan- sgrifiadau atynt. Ac y mae y flwyddyn wedi bod yn gostus iawn i mi gyda phethau teuluaidd—celfi, carpedau, lleni, ac ni wn i ddim faint o bethau. Wn i ddim, yn sicr, sut y callaf roddi un geiniog yn ychwaneg mewn tansgrifiadau. Heblaw hyn, J nliau y bechgyn a'r merched; ac y maent yn dyweyd y rhtid i J>od un o honynt gael cymaint arall wedi i ni symud i'r tŷ hwn. Mae yn «nmheus genyf a wnaethum yn iawn wrth ei adeiladu." Pel hyn y J>u yn siarad âg ef ei hun, ac yn meddwl, ac yn