Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TRYSORFA Y PLANT. Rhif. XLVI.] HYDREF, 1865. [Cn. rv. FEL Y TAD Y BYDD Y TEULU. |jK AIR mawr y w y gair Tad ; teiinlad rhyfedd yw teimlad tad; ÇHJíj a chyfrifoldeb pwysig yw cyfrifoldeb tad. Y gallu mwyaf o c5 eiddo y byd hwn, er da neu er drwg, yw tad. Y mae yn trosglwyddo ei hunan, mewn ystyr, i eneidiau a chymeriadau ei blant, a'r tylwythau dyfodoL Mae dylanwad mawr, a mawr iawn, gan y fam; ond ar un olwg mae dylanwad y tad yn llawer mwy. Efe sydd â'r llaw flaenaf i grëu ysbryd ac awyrgylch yr holl deulu. Dwg y plant ddelw a 8awyr cymeriad y tad gyda hwynt i Ainerica, neü Australia, neu pa le bynag yr elont. "Fel y tad y bydd y teulu," sydd frawddeg o bwys mawr i'r neb a'i hystyrio. "Asglodyn ydyw o'r hen floeyn," meddai un gŵr yn y Senedd, wrth wrando William Pitt yr ieuengaf yn ar- eithio. ("He is a chip of the old block.") "Na," meddai Burke, "yr hen flocyn ei hun ydyw." Nid yw hyn yn fwy gwir mewn dim nag ydyw mewn moesoldeb a chrefydd. Os bydd y tad yn dduwioî, yn^gydwybodol i'w broffes, a'i fryd yn nghyfraith yr Arglwydd, deg i un nad adgynnyrchir yr unrhyw ysbryd yn y teulu. Ond os bydd y tad yn ddifater, yn esgeulus, yn dorwr Sabboth, yn gablwr, neu yn feddwyn, bydd yn cynneu tân fydd yn Uosgi wedi iddo ef adael y byd. " Y tadau," medd y prophwyd, "oedd yn cynneu tân, a'r plant yn casglu cynnud." Pa dân bynag a gynneua y tad, bydd y plant yn sicr o gasglu cynnud iddo.