Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. LXI.] IONAWR, 1SS7. Cyf. VI.] AT DDARLLEW7R IEüAINC Y DRYSORFA. ^EL, blant anwyl, beth yw eich meddwl am y flwyddyn newydd sydd ar wneuthur ei hymddangosiad—fydd wedi dechren cyn y cyrhaedda y Uinellau hyn y rhan fwyaf o honoch chwi ? A ydych yn meädwl rhywbeth mewn perthynas iddi ? A ydych yn cotio ac yn ystyried rhywbeth yn ei chylch, heblaw am-y dydd cyntaf o honi—" üydd Galan," pan yr ydych yn dysgwyl derbyn "Calenig" gan eich cyfeillion a'ch perthynasau ? Ÿ mae hyny yn eithaf da, yn wir; mawr lwyddiant i chwi yn y cyf- eiriad hwnw; bendithier chwi â chawodydd o anrhegion; gobeithio y bydd genych gôd lawn ar derfyn y dydd hwnw; ond gadewch i mi ddyweyd fod pethau eraill pwysicach i'w cofio a'u hystyried mewn perthynas i'r flwyddyn newydd. Aiff "Dydd Calan " heibio yn union, a'i fwyniantau a'i siomedigaethau (canys ni phrofasom ni Ddydd Calan erioed yn nyddiau ein mebyd heb fod ynddo rai siomau), ond bydd y flwyddyn i barhâu yn hir, pa un bynag a fyddwch chwi a ninnau fyw i'w threulio aÜan neu beidio. Yn awr, anwyl gyfeillion ieuainc, gadewch i ni nodi rhai o'r pethau y byddai yn dda, yn werthfawr, i chwi eu hystyried a'u penderfynu ar ddechreu y flwyddyn newydd, canys yr ydym yn cymeryá yn ganiatäol eich bod yn blant sydd yn awyddus i dyfu i fyny yn brydferthion cymdeithas, ac yn anrhydedd i grefydd, yn rhyw gymaint o ogoniant i enw Iesu Grist, yr hwn a fu farw dros- och, a'r hwn sydd yn eich gwahodd mor daer i ddyfod ato, gan addaw i chwi raa a bywyd tragywyddoL Yn gyntaf, Byddai yn dda i chwi gofìo fod yn bosibl mai y flwyddyn hon sydd i fod yn flwyddyn olaf eich bywyd—mai o fewn corff y flwyddyn hon y byddwch farw. Felly y bu j flwyddyn ddiweddaf i lawer, llawer o ddarllenwyr y Drysorpa oeddynt mor iach a chalonog a chwithau ychydig fisoedd yn 6L erbyn neddyw y maent wedi rhodio llwybr ar nyd yr hwn ni ddychwelant, mae y glaswellt yn tyfu ar eu beddau, a thragywyddoldeb yn gartref i'w heneidiau. Wel, hwyrach mai dyna fydd eich hanes chwithau —ẁwi «ydd yn darllen y Ilineliau hyn, cyn diwedd y flwyddyn hon : gadewch i ni geisio genych gofio hyn, fy mhlant; fe wna yr yetyriaeth gymhell a grymusu eich penderfyniadau da. Yn nesaf, Gan mai fel yna y mae yr achos, oni fyddai yn dda i chwi benderfynu yn awr, ar ddechreu y flwyddyn, i amcanu byw