Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

M^M^^Ì^MW^W^ì Rhip. LXXII.] RHAGFYR, 1867. [Ctf. VI. LLYTHYR Y CASSIAD BACH. tR ydym yn ddyledus i Mrs. Lewis, gynt o Cassia, am y llythyr anwyl a ganlyn oddiwrth fachgen bach naio mlwydd oed, o fryniau Cassia. Nid yw ein holl ddarllenwyr yn gwybod fod y Parch. William Lewis, a Mrs. Lewis, sydd yn awr yn byw yn Wrexham, wedi bod yn genadwyr yn India am tuag ugain mlynedd, ac iddynt fod yn foddion yn llaw yr Arglwydd i ddwyn'llawer o'r paganiaid hyny i garu ac i bregethu yr Iesu. Mae y cenadwr a'i briod ffyddlawn yn awr yn cyfieithu y BibL a llyfrau eraill, i iaith y Cassiaid, ac yn dal gohebiaeth ymlaen â'r Cristionogion sydd yn byw yn y wlad bellenig hono. (Dyna gipolwg i chwi yn y darlun ar y coed, a'r tai, a'r trigolion yn India). Mae y llythyr canlynol wedi ei ysgrifenu gan fab ieuanc i U Jartha, un o bregethwyr brodorol y wlad, yr hwn a fu farw yn ddiweddar o'r cholera. Enw y plentyn yw Wilüam Lewis, wedi ei enwi felly o barch i'n cenadwr ffyddlawn, ac yr oedd wedi ei ddysgu gan ei rieni i alw ei dad a'i fam ar Mr. a Mrs. Lewis. Ys- grifenodd y llythyr yn yr iaith Gassiaeg, a chyfieithodd Mrs.