Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JtptJpMiM am $,%ftm. Yn Swnt y Mor. (TJn o ddarluniau''r Llenor, gan H. Owen, Abermaw.) Y Llenor. Llyfr V. Kosciuszko, y gwladgarwr Pwylaidd; Swn y Môr; Y Llenor Cymreig ; Dewi Wyn; " Ar Môr nid oedd mwyacli;" Arteithio ; Athron- iaeth wladol Machiavelli, — dyna destynau rhifyn Ionawr. Cynhwysha'r rhifyn hefyd fugeilgerdd o waith Glaslyn. O ran darluniau ac ymddanghosiad, nid oes gan yr un wlad gylchgrawn tlysach. Hughes a'i fab, Gwrecsam. Cymru. Dechreua'r ddegfed gyfrol gyda rhifyn Ionawr. Cynhwysa,—'' Sioned yn y finishing school" gan Winnie Parry; Gorsedd y Beirdd, gan J. Morris Jones; Islwyn, gan D. Davies, Ton ; Daniel Owen, gan y Parch. J. Owen y Wyddgrug; Llywelyn Fawr; Cartref Ceiriog (darluniau) ; Ehys Goch Eryri (darluniau) ; Enwogion Morgannwg ; Cwch Abermenai ; a lluaws o erthyglau gan y Parch. M. D. Jones, Carneddog, J. M. Howell, E, Bryan, W. J. Parry, &c. Y wyneb- ddarlun fydd,~"Wedi llawer blwyddyn," a bydd y rhifyn yn dryfrith o ddarluniau ereill. Swyddfa Cymru, Caeruarfon ; pris swllt; pob rhifyn dilynol, chwe cheiniog. Wales, am Ionawr. Cynhwysa erthyglau gan y Prifathraw J. Viriamu Jones, Alfred Thomas, Mynorydd, Edward Owen, y Barnwr David Lewis, E. Wüliams y Drefnewydd, a llawer ereill, ar bynciau cenhedlaethol o ddyddordeb mawr i Gymru. Ý mae argraff hwn yn dlos iawn, ac y mae'n dryfrith o ddarluniau. Hughes a'i fab, Gwrecsam, chwe cheiniog y mis. Hanes Niwbwrch. Gan Owen Williamson, Glau Braint, Dwyran, Mon. Llyfr bychan dyddorol iawn yw hwn ; ac y mae gwaith manwl arno, fel y gwyr pawb ey'n adnabod mab Bardd Du Mon. Byddai'n werth i lawer un ei ddarllen, fel cynllun i ysgrifennu hanes ei blwy ei hun.