Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

wn Cyf. I. TACHWEDD, 1*52. Rhif. 11. HANES C Y MR U. XI. EGLWYS Y CYMRY. YWEDAIS wrthych fod efengyl yr Iesu wedi dod i Bryden cyn y flwyddyn 200. Ni wyddom fawr am ddull ei chynnydd. Ond gwyddom ei bod wedi ennill nerth o ddydd i ddydd, a fod rhai dewr wedi rhoddi eu bywyd i lawr drosti. Er mwyn i chwi fedrü deall yn hawdd a chofìo'n dda, mi a rannaf hanes yr eglwys fel hyn,— I. Cyfnod y Tyfu. 200—300. Yn ystod y can mlynedd yma yr oedd yr efengyl yn ennill Pryden yn araf, fel y. mae'n ennill Madagascar neu Fryniau Casia neu lannau'r Congo heddyw. Medraf ddychmygu gweled rhyw bererin lluddedig yn teithio tua mynyddoedd Cymru, i ddweyd wrth eu trigolion am yr Iesu y tro cyntaf erioed. Ond nis gwn pwy oedd. Y mae'r hanes wedi ei golli, hwyrach am byth. II. Cyfnod y Trefnu. 300—400. Rhaid oedd cael undeb rhwng y Cristionogion. Acw, ar wastadedd Maelor, yr oedd teulu o fynachod hwyrach,—rhai wedi gadael y byd a'i bethau, er mwyn rhoddi eu holl amser i weddi a mawl. Yng Nghaer, fe allai, yr oedd milwyr Rhufeinig yn ymgyfarfod i ganu Salmau Dafydd. A thraw ymmynyddoedd Cymru, pwy ẁyr, yr oedd cynulleidfaoedd bychain, fel y rhai yr ysgrifennodd Paul ei lythyrau atynt, yn arfer cyfarfod â'u gilydd i son am y newyddion da. Bob yn ychydig, daeth y Cristionogion i wybod am eu gilydd trwy'r wlad, a chrwydrai'r esgobion,—sef y prif bregethwyr,— o ardal i ardal, o gynulleidfa i gynulleidfa. Y peth naturiol oedd