Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. Y GTO EIRA. YPLANT. Arhoswch am fuuud i mi ofyn cwestiwn i chwi. A ydych wedi rhoddi eich enw i'r dosbarthwr at y flwyddyn nesaf, gael i chwi fod yn sicr o gaeí rhifyn Ionawr yn ei bryd ? A ydych yn darllen Cymru ? Mae rhifyn cynta'r flwyddyn yn ddwbl, a'i bris yn swllt. Y llynedd gwerthwyd. pob rhifyn yn union wedi iddo ymddangos. Bydd rhifyn dwbl 1907 yn fwy gwerthfawr nag erioed. W. D. L. Diolch. Byddwn yn dra diolchgar i athrawon ysgolion elfennol Cymru pe'r anfonent i mi (1) rai o'r gwersi barotoant, (2) awgrymiadau sut y galíaf eu helpu, (3) eu hanghenion. Amryw. Y mae gennyf liaws mawr o fywgraffìadau plant, rhai o honynt yn dyner a tharawiadol iawn. O'm rhan fy hun, rhown un neu ddau ohonynt ym mhob rhifyn. Ond rhaid i mi ufuddhau i deimlad mwyafrif mawr fy narllenwyr, a rhoi dim ond y goreu'n unig. John, Ty'r Caeel. Dr. Phülips Brooks, un o bregethwyr yr Amerig, oedd y siaradwr cyflymaf glywais i erioed. Dywedir y parablai 200 gair bob munud, weithiau ychydig danodd ac weithiau ychydig drosodd. G-well gen i lai o eiriau, a'u dweyd yn fwy pwyllog, yn enwedig wrth addoh. Ffrindiau'r Plant. Bydd arnoch eisiau anrheg i'w rhoddi i blant at y Nadolig. Beth feddyliech chwi o un o'r rhain,—Cymru'r Plant am 1906 wedi ei rwymo'n brydferth (1/6); Llyfr Del, ystraeon a darluniau (l/-), gyhoeddir gan Hughes a'i Fab, Wrexham. Neu " Hwiangerddi Cymru," gyda darluniau prydferth, gan Winifred Hartley (1/2. R. E. Jones, Conwy). Neu " Tro trwy'r Wig," llyfr swynol am adar a blodau, gan R. Morgan (1/- Swyddfa lymru, Caernarfon). Bydd yn dda gan y plant sydd wedi dilyn Capten Cook yn erthyglau dyddorol Mr. W. James, glywed fod cofadail i'r mordeithiwr enwog wedi ei dadlennu Hydref 8, ger Poverty Bay. Ar y spotyn hwnnw y glaniodd Capten Cook gyntaf yn New Zealand. Ymunai y ddwy genedl,—y Prydeiniwr a'r Maori,— yn y gwaith. Glan Cymerig. Diolch am y carol Nadohg prydferth " Plygeiniol Gerdd." Gwelaf ei fod i'w gael oddiwrth y cyfansoddwr, R. V. Botwood, organydd Eglwys Crist, y Bala, am geiniog y copi. Dylid ail godi yr hen arfer dda o ganu carolau.