Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYMRU'R PLANT. 361 YNYS TAHITI. O DDINODMDD I FRJ. VI. JOHN DAVIES. YMAE Cymry wedi dod yn enwog, ac wedi g-wneyd gwaith mawr, fel cenhadon. Trwy ddysgu am yr Iesu, y maent wedi newid bywyd gwledydd,—gwneyd yr anwar yn fwyn, dysgu dynion i drin y tir yn lle lladd eu gilydd, rhoddi hanes y g-wir Dduw i rai oedd yn addoli duwiau isel a ffiaidd a chreulon. Un o'r rhai hynny oedd John Davies, cenhadwr ynysoedd Môr y De. Ganwyd ef ym mwthyn Pen Dugwm, Llanfihangel yng Ngwynfa, sir Drefaldwyn, Gorffennaf 11, 1772. Gwehydd oedd ei dad ; ac ni chafodd y bachgen ond tri mis o ysgol. Yr oedd yn grefyddol er yn ieuanc ; ac ymysg ei hoff gyfeillion yr oedd Ann Thomas o Ddolwar (yr emynyddes enwog), a John Hughes (wedi hynny o Bont Robert). Darllennai lawer, yn enwedig hanes cenhadon, megis hanes y Morafiaid yn Greenland, a hanes Carey a Thomas yn yr India. Daeth yn un o ysgolfeistri Charles o'r Ba'la ; ac wedi cadw ysgol am beth amser, wele ef yn cynnyg ei hun yn