Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. ■^ —Dyma'r hen air Gaelic yr holwch am dano, edi ei droi i'r Gymraeg i ehwi,— Tair oes ci, oes ceffyl ; Tair oes ceffyl, oes dyn ; Tair oes dyn, oes earw ; Tair oes carw, oes eryr ; Tair oes eryr, oes derwen. Hannah.—Mae'r enw Arkwright yn dod oddi wrth ark,—cist, a wright,—un yn gwneyd rhyw wrthrych ; megis yn y gair wheelwright y cewch enw gwneuthurwr olwynion. Yn Sir Efrog, lawer blwyddyn yn ol, yr oedd yr arkwright yn wr a chryn alwad am ei wasanaeth. Yr oedd gan bob teulu gist neu ark wedi ei gwneyd o dderw i gadw y bara, ac yr oedd gwneyd cistiau o'r fath yn grefft arben- nig, a gelwid ei dilynwyr yn arlcwrights. HoCtYN Bach. — Nis gwn paham y gelwir cynffon y wningen a'r ysgyfarnog yn flag. Ond, fel y gwyddoch, mae ochr isaf y gynffon yn wyn ; a phan fydd Bunny yn arogli perygl, mae yn gwneyd yn wyllt am ei thwll, ac fel mae yn rhedeg, mae yn dal ei chynffon yn syth i fyny nes mae yn fnachio'n wyn ar ei hol. Mae hyn yn arwydd i'rlleill fod perygl wrth law. Feallai mai dyma paham y mae yn cael ei galw yn flag. BeŴ feddyliech chwi, Hogyn bach ? Cyfarfod y Plant.—l.Credaf y buasai DringoW Ysgolynatebeichpwrpas i'r dim. Casgliad ydyw gan Mr. B. Jones, Trefeini, B. Ffestiniog, o ddadleuon ac adroddiadau i blant. Y cyhoeddwyr ydyw y Meistri Davies & Co., High Street, B. Ffestiniog, a'i bris ydyw chwecheiniog. 2. Y mae argraffìad newydd o Ddrych y Prif Oesoedd newydd ei gyhoeddi yn swyddfa Cymru, Caernarfon ; ei bris, swllt mewn llian, chwe cheiniog mewn amlen. Un o'ch Darllenwyr.—Nis gwn fod un gwahaniaeth ymarferol rhwng " ar ol " a " wedi." Arferir y naill neu y Uall, yn yr un ystyr yn union. Tad Bob.—Y mae rhamant, yn aml, y dull gore i ddysgu Hànës i blentyn. Dyna un amcan i ramant " Ifer " yny gyfrol hon. Fel chwithau, y mae plant yn cael blas arni, oherwydd fod ei geiriau yn syml a'r meddwl yn glir. Ar yr un pryd, dysgant, heb yn wybod, hanes yr ymdrech rhwng Iberiaid a Brythoniaid, cyn iddynt ymuno yn un genedl y Cymry. Ysgrifennir yr hanes gan y bardd enillodd gadair Eisteddfod Llundain. Bardd.—Paratoir y rhifynnau ymhell ymlaen llaw. Cedwir y gân i fis Hydref y flwyddyn nesaf.