Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT Y PLANT. U pedwar cyfaill mor garedig ag anfon geiriau ddef- nyddir mewn gwahanol rannau o Gymru am y gair Saesneg " Girî." Rhydd Meirionwr ym Morgan- nwg nifer o eiriau. Dywed,—" Arferir ym Meirionnydd dri o eiriau. Mewn rhai mannau, clywir y gair ' hogen ; ' mewn mannau ereill, ' geneth ' ydyw'r gair glywir ; tra y ceir mewn rhai mannau drachefn y gair ' lodes.' " Rhydd yr un gohebydd nifer o eiriau ddefnyddir yng ngwahanol rannau sir Forgannwg, sef,—" croten," " crotes," " losgron," " hogen," " geneth," " merch," " roces," "meuden." Enfyn un o'r Ynys (sef Ynys Môn), y geiriau " hogan," a " lodes," fel yn cael eu defnyddio yno ; ac ychwanega fod y gair " hogia,"—y ltìosog am " hogyn,"—yn cael ei ddefnyddio am y gair " plant; " ac os bydd eisieu dynodi'r rhyw, dywedir " hogia merched " a " hogia lancia." Evan R. Parry a rydd i ni nifer o eiriau arferir yn y Gogledd, sef " geneth," " hogen," " lodes," " menyw," " mun ; " rhydd hefyd y gair " croten " o'r De. Enfyn Ioan o sir Gaernarfon y gair " hogan." Mae y gohebydd hwn yn holi ynghylch y gair " tylino " (ìcneading). Mae arno eisio gwybod ei darddiad, ac yn gofyn a oes rhagor o eiriau Cymraeg i ddynodi y gorchwyl angenrheidiol yma. Felly, byddai yn ddyddorol cael atebion i'w ofyniadau. Gwen. Defnyddir yr ymadrodd " blue stocking " am ferch sydd yn fwy hoff o lyfrau a dysg na'r cyfíredin o'i chwiorydd, ac yn enwedig pan mae'r hoffter yma at lyfrau mor eithafol ynddi fel y mae yn colli nodweddion arbenig merch. Weithiau, defnyddir yr ymadrodd yn goeglyd am un nad ydyw mewn gwirionedd yn malio fawr mewn dysg a llyfrau, ond ei bod yn ceisio dwyn ei hun i gyhoeddusrwydd drwy honni ei bod. Dywedir i'r enw ddod i arferiad oddiwrth glwb llenyddol, yr hwn oedd yn agored i ferched. Byddai un o'i aelodau gwrywaidd mwyaf amlwg yn arfer gwisgo hosanau gleision bob amser. Feallai y dywedwch nad oedd hynny reswm yn y byd dros alw y merched oedd yn perthyn i'r clwb wrth yr enw di-ystyr " Hosanau Gleision." Enid. Ni raid i chwi ddigio wrth eich cyfaill Seisnig am ddweyd am danoch,—" She's a brick." Nis gallai roddi canmoliaeth uwch i chwi, oherwydd mae yn cyfleu pob rhinwedd all bachgen ysgol feddwl am dano. Hwyrach y carech wybod pa fodd y daeth yr ymadrodd i arferiad, er, feallai, nad oedd y bachgen hwnnw a'ch galwodd felly yn gwybod ei darddiad, ond cewch weld mor uchel oedd y tarddiad hwnnw. Unwaith, yn hen nyddiau hanes, aeth rhyw ŵr i weld Sparta, ac wrth edrych o'i amgylch, gofynnodd i'r cadfridog oedd gydag ef lle yr oedd muriau Sparta, y rhai yr oedd wedi clywed cymaint am danynt. Ar hynny, cyfeiriodd y cadfridog ei law at rengau ei filwyr, a meddai,—" Dyma furiau Sparta, a phob dyn yn fric." A ydych yn gweld y cysylltiad, Enid ? Er mwyn cadw'r muriau yn gadarn yr oedd yn angenrheidiol i bob un o'r priddfeini byw hynny fod yn fìlwr dewr a gwneyd ei ddyledswydd heb wyro. 10