Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR.—Gorỳhenaf iq/, 1893. 77 Bywgraffiadau. GhA.isr 3D. EMr,-sr3sr :E-çr.A 2>rs.. Cerddorion Cymreig—Ameyw. Da. Evan Dáyies, Abertawe (1826—1872). Rhif 64. Ganwyd y gŵr galluog hwn Mehefin 26ain, 1826, yn y Gelli—ffernidy yn mhlwyf Llanycrwys, Sir Gaerfyrddin. Cafodd fanteisioa addysg dda; yn 1842 enillodd ysgoloriaeth gwerth 40 punt y flwyddyn yn nihrif-ysgol Glasgow. Graddiodd yno yn M.A., ac yn 1858 derbyniodd y gradd ychwanegol 0 L1.D. Pennodwyd ef yn brif-athraw y Coleg Normalaidd newydd yn Aberhonddu ; yn mhen tua 5 mlyn- edd rhoddwyd y coleg i fyny, ond cynhaliodd yr ysgol yn mlaen ei bun fel ysgol ramadegol, a'r hon a symudodd wédi hyny i Abertawe. Yn 1867 newidiodd yr ysgol am y gyf- raith, ac yr oedd dyfodol dysglaar yn agor o'i fiaen, ond cymerwyd ef ymaith yn sydyn, Awst, 1872. Ymhoffai mewn cerddoriaeth erioed, a gwnaeth wasanaeth pwysig i'r gelfyddyd—yn enwedig yn ei hagwedd uchaf—yn Aber- tawe a'r cyíchoedd. Cynhaliai ddosbai thiadau canu, sef- ydlodd gymdeithas gorawl, yr hon a fu yn dra blodeuog, a rhoddodd gyfle i'w gydwladwyr i glywed rhai o brif gantor- ion y deyrnas. Arweiniodd y canu hefyd yn y capel yn Heol y Castell am flynyddau, ac wedi hyny ar ol agoriad y capel (cynulleidfaol) newydd yn Walter's Road. Gwasan- aethai yn fynych fel beirniad cerddorol, a'r unig gẃyn a glywsom ni yn ei erbyn oedd ei or-duedd i ranu gwobrau— deallwn iddo untro gario y duedd hon mor bell, a rhanu y wobr rhwng y gaith côr a gystadleuai! Ceir ysgrif hir a galluog—ond rhy ganmoliaethus—ar " Ystorm Tiberias," ar ddechreu yr hen argraffiad, a ymddangosodd gyntaf yn y Dysgedydd. ' Cymerodd ran flaenllaw yn nglŷn âg Eistedd- fod Genhedlaethol Abertawe yn 1863, ac efe a arweiniai gôr yr Eiateddfod yn rhifo tua 400 0 gantorion. Rees Lewis-ŵs Ebrill (1828—1880). Rhif 65. Brodor o ardal Brynmawr oedd y cerddor adnabyddus hwn, a mab i dad cerádorol yr hwn a arweiniai y canu yn nghapel Nebo, Penycae (Mynwy). Dysgodd y mab elfenau cerddoriaeth yn bur ieuangc, ac hefyd i chwareu y grythen, ar ba un y daeth wed'yn yn bur alluog. Ysgolfeistr ydoedd wrth ei aíwedigaeth, a bu yn astudio am tua dwy flynedd yn y brif-ddinas, lle y cafodd fanteision i loewi ei wybodaeth a'i amgyffredion cerddorol yr un pryd. Oddiyno dychwel- odd i Gymru, a bu yn cadw ysgol am dymhor yn y Blaen- au, o ba le y symudodd i Gaerdydd, ac yno y bu fyw am y gweddill o'ì ddyddiau. Yma collodd ei briod, a gadawyd ef gyda chwech 0 blant bychain ; daeth yr ysgolion byrddol i'r dref, y rhai a effeithiasant lawer ar ysgolion " preifat;" bu llawer o gystudd yn y teulu, a daeth afiechyd i ymaflyd yn y penteulu; digalonodd hyn oll ef yn ddirfawr, ac onibae am garedigrwydd ei gyfeillion, y mae lle i ofni y buasai ei sefyllfa yn un resynus. Ni wnaeth neb fwy, os cymaint, dros gerddoriaeth yn Nghaerdydd nng ef yn ei ddydd. Ar- weiniai y canu yn nghapel y Tabernacl (Bedyddwyr); sef- ydlodd gymdeithas y Philharmonic, yr hon a berfformiodd amryw 0 r prif weithiau; ac yr oedd ganddo hefyd gerddorfa o dan ei ofal. Cyfansoddodd lawer, ond ychydig a gyhoedd- odd, a'r unig ddarn o'i eiddo sydd yn adnabyddus i ni yw yr anthem " Arglwydd, gollwng,' a ddaeth allan yn y Oerdd- orfa (rhif 76-7)— darn melodus a thlws ddigon, ond gwas- garog ac hyttach cyffredin. Bu yn ei fwriad hefyd am flynyddau i gyhoeddi llyfr tônau at wasanaeth ei enwad, ond ni ddaeth dim o hono. Tua'r tro olaf y darfu i ni ei wel'd, dywedodd ei fod wedi bod yn casglu y defnyddiau am flyn- yddau, ond bellach na ddeuai'r bwriad byth i ben. Yr oedd y cwbl drosodd—mnitas vanitatum, a chalon y cerddor ar fin, os nad wedi, tori! Bu yn feirniad mynych yn Eistedd- fodau y Deheudir, a daeth un, os nad dwy, o'i ferched i'r amlwg fel cantoresau tra addawol. Bu farw, Rhagfyr 14eg, 1880. _ „ __ Robert Stephen—Moelwynfab (1830—1879). Rhif 66. Yr oedd y cerddor hwn yn nai i'r Parch. E. Stephen, a ganwyd ef yn y Llan, Ffestiniog. Fel ei ewythr enwocoach, nid yw dydd ei enedigaeth genym, ond bedyddiwyd yntau yn yr un eglwys a'i ewythyr—eglwys St. Michael—lonawr 17eg, 1830. Ychydig 0 fanteision gafodd pan yn ieuango; heddgeidwad ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn byw am flynyddau yn ardal y Bontnewydd (Caernarfon), wed'yn symudodd i Gonwy, ac yno y bu farw, Rhagfyr 16eg, 18/9. Ei weithiau gwobrwyedig cyn belled ag y gwyddom yw y gân fechan " Beth yw siomiant," " Yr Arglwydd sydd ry- felwr," buddugol yn Eisteddfod Bethesda, 1864; y mae y naill a'r llall wedi eu cyhoeddi. Ceir anthem arall o'i eiddo yn Ngolud yr Oes, rhif 13—" Arglwydd pâr i mi wybod fy niwedd;" un arall yn y Gyfres Gerddorol; a chyhoeddodd Requiem ar ol y diweddar Barch. John Hughes, Caernarfon. Ceir hefyd ddwy o'i dônau yn Ngherddor y Cysegr, ac un yn Llyfr y Psalmau ; ond y darn a geidw ei enw ar gôf yw vr " Alarch," canig a gyhoeddwyd yn y Cerddor Cymreig ; bu llawer o ganu ar hon, a diau y bydd cryn lawer eto, o herwydd y mae yn gyfansoddiad gwir dda; nwyfus, melod- us, ac amrywiaethol, ac yn dra phortrè'ol o'r testyn. Yr oedd arddull Moelwynfab yn bur wahanol i eiddoeiewythr; nid ymestynai at yr hyn oedd yn ddwfn ac arddunol, ond yn hytrach at symledd a naturioldeb. William Owen, Porthmadoö (1830-1865). Rhif 67. Ganwyd y cerddor galluog hwn yn Nhremadog, Mai lleg, 1830; ychydig ŵyr ei gydwladwyr yn gyffredin am dano, ond diau ei fod yn un o gerddorion mwyaf gwybodus ei ddydd, a lled debyg pe yr estynasid ei f y wyd, y buasai wedi ein cynysg- aeddu â rhagor o gynyrchion a brofent ei hawl i le uchel yn mysg ein cerddorion. Masnachydd coed ydoedd wrth ei alwedigaeth, ond bu yn chwareu yr organ am rai blynyddau yn eglwys y plwyf. Yn 1851 derbyniodd wobr am anthem yn Eisteddfod Bethesda, yr hon a argraffwyd gyda'r cyfan- soddiadau buddugol eraill; yr oedd hefyd yn ail-fuddugol yn un o Eisteddfodau y Cymrodorion Dirwestol yn Merthyr; ac yn un o'r cystadleuwyr ar " Weddi Habbacuc" yn Eis- teddfod Madog (1851). Cyfansoddodd lawer o wahanol ddarnau, ond gydag eithrio yr uchod, rhyw un dôn yn Nghaniadau y (Jysegr a'r Teulu, ac anthem " Wrthafonydd Babilon," yw yr oll ag sydd yn gyhoeddedig cyn belled ag y gwyddom. Dengys ei ysgrif ar " Felodedd, amrywiaeth," &c, yn y Cerddor Cymreig, rhif 48, a'r cyfeiriadau at Sebastian Bach ynddi, yn nghyd â'r llythyr o'i eiddo a gy- hoeddwyd genym yn Y Cerddor, ei fôd yn Uenor da, ac yn feddyliwr. Bu farw Awst 2U, 1865, a cheir anthem fudd- ugol yn goffadwriaeth iddo—" Dyddiau dyn sydd fel glas- welityn "—gan Gwilym Gwent, yn y Cerddor Cymreig, rhif 64-5, ac yn y Sol-ffa yn Y Cerddor, rhif 25. Dayid Jones (Bewi WylltJ. Rhif 68. Nid ydym yn gwybod dim am fanylion bywydygẃrhwn —pa bryd ac yn mha le y ganed ef, pa le y bu yn byw, na'r pryd na'r lle y bu farw—dim, ond iddo gyhoeddi casgliad o âônau cynulleidfaol üdgorn Seion yn Aberystwyth yn 1859, ac mai " Caernarfon" yw y lle a rôddir ar ol ei enw, ac ar waelod y Rhagdraith. Oes rhai o'n darllenwyr yn Nghaer- narfon, neu uurhyw fan arail, a all roddi i ni ryw fanylion pellach ? Fe gyhoeddwyd y llyfr yn yr un flwyddyn a'r Llyfr Tônau, feì y gwelir, ond y dyddiad wrth y naill yw Chwefror 4ydd, ac wrth y llall Ebrill 30ain, felly fe gan- fyddir fod y ddau Wyllt wedi gweithio yn annibynul. Cyn- wysa y casgliad 142 o dônau, yn eu mysg rai gan Ambrose Lloyd, Owain Alaw, Eos Llechyd, ac ereill; yn nghyd â nifer luosog gan y golygydd ei hun—ceir cynifer a 22ain wedi eu " cyfansoddi i'r gwaith hwn " yn yr un flwyddyn, yn annibynol o rai buddugol yn dwyn yr un flwyddiad; gormod o odro'r awen mewn un flwyddyn, y mae arnom ofn, Mr. Dd. Jones! Y mae y tônau, fel rheol, yn arddangos chwaeth dda, a cheir yn y casgliad rai ydynt bellach yn bobl- ogaidd—yn eu plith " Bavaria "—ond rywsut ni adawodd yr " Udgorn " nemawr effaith ar ei ol. Gan fod rhês luosog o danysgrifwyr ar ddiwedd y llyfr, yr ydym yn gobeithio i'r awdwr gael ei ddigolledu serch hyny. W. J. Hüghes, B.A. (1833^1879). Rhif 69. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Penuch-Roe, ger Llanelwy, yn mis Rhagfyr, 1833. Cafodd fanteision addysg da, a daeth yn ysgolhaig gwych. Bu yn athraw mewn ysgol ramadegol yn Enniskillen, Iwerddon, am nifer o flyn- yddau; wed'yn mewn swydd gyffelyb yn Harleston, Norfolk, ac yn organydd yr eglwys; oddiyno symudodd i fymeryd gofal yegol ramadegol Lfanrwst, íle y bu am rai íynyddau, ac y» olynol i hyny sefydiodd yagol gyffelyb yn.