Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

V CERDDOR.—Ionawr laf, 1894. Adgofion am rai Oaneuon Seisnig. Ymddbngys cyfres 0 erthyglau dyddorol yn y Baily Tele- graph gan y llenor adnabyddus G. A. Sala, ar " Bfthau a welais, a phobl a adnabuais," ac yn eu plith un ar " Gan- euon ydynt yn d'od yn ol i mi." Y mae llawer o'r caneuon hyn yn anadnabyddus i ni yn yr oes hon, ac yn neillduol yn Nghymru, ond y mae yn ddiau lawer o'n darllenwyr yn adnabyddus â'r gân " Hi wisgai goron flodau," o ba un y C6ir cyfieithiad rhagorol yn ngweithiau Mynyddog. Am hon, dywed Mr. Sala :—" Y mae'n rhaid fod boneddigesau ieuaingc up-ío-date ydynt yn canu y faled hudolus ' She wore a wreath of roses.' Yr wyf yn cofio Mr. Thomas Haynes Bayley, cyfansoddwr y faled hyfryd, os hytrach namby-pamby hon, yn dda. Yr oedd Mr. T. H. Bayley yn ddandi, yr hwn a wisgai fenyg kid gwynion yn y dydd. Yr oedd yn ŵr bonheddig; wedi bod yn ddyn 0 ffortiwn; ond tybiwyf, ei fod fel Dogberry, yn un a gawsai golledion. Yr wyf yn gobeithio fod cyfansoddwr baledau Seisnig arall,heb eto fyn'd i lawr ar hyd afon Lethe. Hwn oedd George Linley, a'r hwn wyf yn gofio fel boneddwr iachus, canol- oed, tua 184— . . . . Yr oedd George Linley wedi bod yn gadben yn y cartrefiu milwrol.....O brin y credwyf ei fod yn gerddor ysgolheigaidd iawn ; ond daw ei felodion hyfryd • The Spirit of Love' a ' Constance' yn ol i mi beun- yäd yn ngwyliadwriaethau'r nos. Ni chafodd ei dalu'n hael iawn gan y cyhoeddwyr cerddorol am ei gyfansoddiad- au, y rhai oeddent bob amser yn boblogaidd.....Wel, gwerthodd Crouch ' Rathleen Mavoumeen' am bum' gini. Yn naturiol, dyg ' Eathleen' yn ol i'r meddwl adgofion am rai o faledau Samuel Loyer.....Yr oedd y Gwyddel talentog nid yn unig yn gerddor gorphenedig, ond yn fardd, yn nofelydd, yn arlunydd, a chraf-lunydd deheuig. .... Cyfansoddodd y gerddoriaeth i gân 0 r un teitl â'i nofel • ílory O'More,' ond nid oes ond ychydig bobl—hyd yn nod o Wyddelod fel y tybiwn—a ganant' Rory O'More ' y dydd- iau hyn. Ar y llaw arall, dylai ei ' Four-leaved Shamrock' barhau yn ei phoblogrwydd hyd yn awr." Joseph Hughes, y Plentyn-De/ynor. Y mae " child-wonders" cerddorol yn bur lluosog y dydd- iau hyn, a darllenir am aml i un o honynt yn hanes y byd, er mai anfynych, fel rheol, y tyfant i fod yn fwy na thipyn o ryfeddod am y foment; yr oedd Mozart fawr yn eithriad, ac y mae yn bosibl pe arbedasid bywyd yr hogyn ieu- angc Joseph Hughes—neu "Master Hughes" fel y gelwid ef—y buasai yntau wedi gwneyd ei farc i raddau mwy neu lai eglur a pharhaol. Yr oedd yn enedigol o'r Bala, ond ymfudodd ei ri'eni i Lundain pan nad oedd ef ond plentyn. Yn y flwyddyn 1833, a phan yn ei 6 mlwydd oed, aeth gyda i dad, Robert Hughes, am daith gerddorol yn Nghymru a Lloegr, a chyn ffarwelio â'i fam cyfansoddodd alaw dra theimladoí, i'r hon yr ysgrifenodd Tegid—un arall 0 blant y Bala—y geiriau hyn :— " 0, fy Mab! anwyl fab ! Paham mae dy ruddiau Heddyw yn ddagrau, 0 ! dywed paham ? Ni'th welais o'r blaen mewn cymaint gofidiau, Yr achos o'th flinder mynega i'th fam P O fy Mam! anwyl Fam ! yr wyf yn galaru Ẅrth feddwl ymadael â thi, 0 fy mam ! Er mwyn chwareu'r delyn trwy Loegr a Chyinru, Can's pwy fel tydi â'm cadwa rhag cam P Yn y flwyddyn 1835 yr oedd yn chwareu y delyn yn Eis- teddfod Llanerchymedd, pryd y gwnaed ef yn Ofydd gan Clwydfardd a Gwalchmai, y cafodd y ffugenw " Blegwryd ab Seisyllt," ac y cyfansoddwyd yr englyn hwn iddo :— " Gwlad Walia, gwel y delyn—mor wyched Yw yn mreichiau plentyn! Blegwryd yw'r blaguryn, Sẃn ei dant wna synu dyn. Anrhegwyd ef âg eurdlws, ar yr hwn yr oedd darlun 0 hono yn chwareu'r delyn 0 dan gysgod derwen, arch-dderwyd d yn sefyll o'r neilldu iddo, brigyn derwen yn ei law, a'r Awen yn gogwyddo tuag ato. Cyfieithwyd rhai o'r englyn- ion a wnaed iddo, i'r Saesneg, a chanwyd hwy yn yr awyr agored:— " Oh! bright and beauteous child of song, around thy magic fingers, Oh yes! the very life and soul of heaven's own music lingers; Thus, thus, wast thou created at once by power divine, By music's masters all untaught, arts' masters to out- shine. In music's science all unsfcill'd, thou didst her depths discern, To thee by bounteous Heaven was given, what others all must learn." Yr ydym ni yn Nghymru yn hen gyfarwydd â ffolinebau barddol o'r fath yna; fel rheol, nid ydynt ond dwl, ond weithiau y maent yn niweidiol hefyd yn eu heffeithiau, yn enwedig ar bobl ieuaingc, neu rai na feddant benglogau rhy gryfion; ond yn y Bala, yn 1836, gwnaed ef hyd yn nod yn destyn y Gadair!—Gwalchmai yn fuddugol. Rywbryd ar ol hyny ymfudodd i'r Amerig, a thra yn rhwyfo cwch ar un o'r llynoedd yno, syrthiodd yn ddamweiniol i'r dŵr, abodd- odd. Fel hyn daeth diwedd sydyn a galarus i'r holl obeith- ion a goleddid am y Cymro ieuangc talentog hwn. Yr ydym yn ddyledus am y manylion uchod i'r Oswestry Advertiser, am Fai lófed, 1889; nid yw y dyddiadau yn cytuno yn hollol â'r hyn a geir yn Mywgraffiaeth Oerddor- ion Cymreig (M. 0. Jones), ond y mae y ddau yn cyduno yn ddigon agos parth y ffeithiau. Dylem ychwanegu i Joseph Hughes gyhoeddi casgliad 0 alawon Cymreig wedi eu trefnu ganddo, ac yn cynwys hefyd rai darnau o'i eiddo ef ei hun. Yr ydym yn meddwl i'r gyfrol fod yn ein medd- iant flynyddau yn ol, ac os cofiwn yn iawn, nid oedd ond un fechan.—D. E. E. Y Tenor Sal. 1 Yb oedd y cwmni wedi cyrhaedd Havana, ac ar adeg gyf- I yng daeth i ben y tenor Brignoli mai iawn 0 beth fyddai | iddo fyn'd yn sâl. Danfonwyd meddyg at y tenor byd- : glodus, a'r hwn a fethodd a darganfod fod dim y mater arno, ond archwaeth ryfedd at facaroni, a thuedd gref at ysbaid o ddiogi—0 " dolcefar niente;" felly archodd ar fod i i'r tenor gymeryd ciniaw dda, ac yna yn yr hwyr i yrru i'r j chwareudy, pryd yn ddianmheu y byddai yn alluog i fyned | trwy ei ran gyda'i lwyddiant arferol. Yr oedd y tenor ! enwog yn hollol o'r un farn â'r meddyg parth y ginio, ond I ddim 0 gwbl parth yr haner arall o'i gynghor—y canu. Ar I ol deall hyn, danfonodd yr awdurdodau at Brignoli, gan I awgrymu mai gwell fyddai iddo gadw at ei ymrwymiad; ! ond ei atebiad oedd, nas gwyddai yr hwn a ymwelodd âg ef i ddim am ei selni, a'i fod yn fwy o gobler nag 0 feddyg. \ Mewn canlyniad, gorchymynwyd ar fod i feddyg arall o'r ! ysbytty milwrol, a dau was gydag ef, i ymweled a'r tenor- ! ydd. Ar ol i'r meddyg newydd deimlo curiadau ei waed, ! edrych i mewn yn fanwl ar ei dafod a'i wddf, ac archwilio ! ei lygaid, dywedodd yn ddwys, gan ysgwyd ei ben—" Yn | anffodus y mae yma ragarwyddion amlwg o'r dwymyn I felen, ond trwy ddodi 200 o elod ar yr ysgwyddau heb golli I amser, fe ellir attal y drwg 0 bosibl." "200 0 elod!' gwaeddai y tenor yn uchel, yn ei lais arianaidd chr, " yr ydych yn ffŵl, ac nid yn feddyg! Yr wyf yn berffaith iach!" "Na," ebai'r meddyg, " yr ydych yn sâl, ac nis gellwch ganu heno," gan roddi i'w weision ar yr un pryd gyfarwyddiadau yn nglỳn â'r driniaeth feddygol oedd i ddilyn. " Allan a chwi!" rhüai Brignoli," mi a ddangosaf i chwi pa un a ganaf heno ai peidio, a pha sut y canaf. ' A chanu a wnaeth yn well nag erioed. _______ Bywgraffiad. REES P. WILLIAMS, RHYMNL Yn ein nodiadau blaenorol ar yr hen gerddor hwn—rhifyn 54—darfu i ni ofyn a oedd rhywrai o'n darllenwyr a allent roddi i ni fanylion ychwanegol am dano, ac yr ydym dan rwymau i Mr. Jno. M. Jenfcins, organydd Eglwys St. Pedr, Blaina, Mynwy, am wneyd sylw caredig o'r cais. Ymddengys i Rees P. Williams gael ei eni yn Llangam- march (Brycheiniog)—lle bychan prydferth nid anadna- byddua i iynychwyr v "ffynhonau," neu i deithwyr ar linell y Gmtral Wales rhwng Llanwrtyd a Llandnndod,