Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

14 Y CERDDOR—Chweftor laf, 1896. EIN CERDDORION. ( R H I F 2 . ) Me, CADWALADR ROBERTS, Tanygeisiau. GANWYD yr arweinydd llwyddianus hwn yn y flwy- ddyn 1854, felly y mae yn awr yn anterth ei ddydd. Trigai ei ri'eni y pryd y ganed ef, yn nhý capel yr Anuibyn- wyr, Tanygrisiau, ond yn mhen tua blwyddyn symudasant i dyddyn byehan o'r enw Aelgocb, wrth odreu'r Moel- wyn. Arfaethent roddi iddo y goreu a allent o hyny o fanteision addysg oeddent o fewn cyihaedd, ond dyrys- wyd eu bwriadau; cymerwyd y tad yn glaf, ac ymaith oddiwrth ei deulu ar ol cryn nychdod, felly, ihaid oedd i'r hogyn deng-mlwydd oed wneyd a allai ar y fferm, ac wed'yn yn fuan yn y chwarel—11 e yr \chwanegwyd at bryderon oeddent yn ddigon tryinion eisioes, drwy iddo gyfarfod â damwain ddifrifol, ond trwy fedrusrwydd y meddyg adnabyddus, Dr. Roberts, Isallt, a ffafr Rhag- luniaeth, gwellhaodd—er mwyn cynoithwyo ei í'am i fagu y rhelyw o'r plant; pedwar mewn nifer. O hyn yn mlaen, nid yw prif linellau ei hanes, ond hanes miloedd o fechgyn y chwareli, a'r rhai ydynt yn mysg y puraf a'r glewaf a feddwn fel cenedl. Bellach, yr oedd pob gobaith am gael addysg arbenig ar ben, ac yn ei eiriau ef ei hun, nid oedd yn awr ond " rboddi'r ysgwydd o ddifrif wrth olwyn cer- byd yr amgylchiadau," gan ymdrechu addysgu ei hun oreu y gallai; a hyny a wnaeth. Nid oedd unrhyw duedd at gerddoriaeth yn neb o deulu y tad, na dim yn eiddo y fam, ond eu bod yn dra hoff o ganu ; a darlJen oedd ei blèser penaf yntau hyd nes yr ymunodd â chôr y capel—yn ei 18fed mlwydd oed. Ar ymfudiad yr hen arweinydd, Mr. John Jones, i Batagonia yn 1874, appwyntiwyd ef yn olynydd—yn unol â chynghor ei rag- flaenydd, ond er ei syndod ef ei hun. Teimlai yn dra ofnus a phrydeniB, ond ymroddodd at waith y swydd yn egni'ol, a dilynwyd ei ymdrechion gyda'r canu cynulleidfaol â llwyddiant o'r cychwyn. Gwnaeth ei oreu i astudio llyfr- au egwyddorawl; nid gyda'r amcan lleiaf i dd'od yngyfan- soddwr, ond er mwyn ei wneyd yn fwy cymhwys fel arweinydd. Yr oedd Eisteddfodau yn dra lluosog yn Ffestiniog yr adeg hono, "a rhaid oedd i minau a'r côr," fel y dywed, " fyn'd i gymeryd rhan yn y brwydrau cerddorol hyn." Ond colli a wnaent bob tro. O'r diwedd, penderfynodd yr ar- weinydd i ail-ffurfio ei gôr yn hollol; drwy wneyd i bob aelod fyn'd o dan arholiad, ac er nad oedd y prawf ond syml, methodd llawer; a'r hyn a achosodd gryn deimlad. Ar ol y didoli, nid oedd yn aros ond rhyw 40 o leisiau, tra'r Nadolig â'i chystadleuon yn mron wrth y drws. Yn Eis- teddfod flynyddol yr Annibynwyr, cynygid tair gwobr gôr- awl, a'r darnau oeddent •• Yr Arglwydd yw fy Mugail " (J. Thomas), •' Yr Alarch " (Moelwynfab), " Byd o erlid- iau " (D. Emlyn Evans), awdwr y darn olaf yn beirniadu. Cipiasant y tair gwobr. Dyma wers ac addysg i eraill; yn lle beio'r beirniaid, &c, aeth yr arweinydd at wreiddyn y drwg; ac yn lle ymddiried mewn nifer, profodd fod côr bach o leiswyr da, yn fwy effeithiol na chôr lluosog o rai cyniysg o dda a drwg. 0 byny allan, dilynodd llwyddiant di-dor yn mron ymdrechion y côr ar faes cystadleuaeth, pa lai oeddent yn bur lluosog, gan fod cynifer o Eisteddfodau yn cael eu cynal ar y pryd. Rhagdybiai hyn oll lafur caled i'r arweinydd, gan mai yehydig allent ddarüen ceiddoriaeth, yn enwedig o'r merched ; ond sieryd ef yn uchel am eu ffyddlondeb â'u trwyadledd hwy, unwaith y meistrolent eu rhan. Y mae hefyd yn datgan ei ddyled i'r beirniaid hyny—nas enwn yma—fu yn cystadlu danynt o dro i dro, " beirniadaethau manwl ac addysgiadol" pa rai fuont " o gynorthwy mawr iddo." " Nothing succeeds like success," ac fel yr oedd y côr yn llwyddo, cynyddai ei rif, fel ag y mae yn bresenol yn cyn- wys tua chant a haner o aelodau ; bellach, ihaid i bob un feddu nid yn unig lais cymeradwy, ond hefyd fod yn alluog i ddarllen yn dda; o ganlyniad, nid oes angen flwdanu gyda dysgu'r gwahanol ranau i'r Ueisiau, a galluogir yr arweinydd i roddi y ìhan fwyaf o'i sylw a'i amser i ofyn- ion uchaf caniadaeth gôiawl. Gydag eithrio y cyfeilydd, Sol-fl'a yw y Nodiant a ddefnyddir yn awr drwy y côr. Yr enw gwreiddiol oedd " Côr Tanygrisiau," ond er's cryn amser bellach aduabyddir ef fel " TJndeb Côrawl Blaenau Ffestiniog." Ar ol enill yr oll a ellid yn Ffestiniog a'r ardal, yr oedd yn naturiol i'r arweinydd a'i fyddin gerdd- gar ddyheu am fydoedd eraill i'w gorchfygu; ac yn y flwyddyn 1882, cymerasant eu hymgyrch gyntaf i Golwyn Bay, lle y llwyddasant i enill un o'r ddwy wobr. Oddiar hyny y maent wedi cystadlu chwech-ar-hugain o droion— yn aflwyddianus chwe' gwaith ; llwyddiant rhanol, yrun ni- f©r ; a'r gweddill—bedair gwaith-ar-ddeg—yn llwyddianus. Y mae gan Mr. Roberts hefyd gôr o feibion o dan ei ofal —" Y Moelwyn Male Voice Party," neu o'i rydd-gyfieitbu i'r Gymraeg (ac os yw Ffestiniog yn unpeth, y mae yn Gymraeg!) Côr Meibion y Moelwyn. Y mae hwn eto wedi bod jn llwyddianus, o'i ddechreuad i fyny hyd dra- noeth y Nadolig diweddaf, pryd y buddugoliaethodd yn Eisteddfod Caer. Er byny, nid yn maes cystadleuaeth yn unig y mae ein gwrthddrych yn llafurio. Gallwn gyfeirio yn neillduol at y perfformiad roddwyd gan y côr o " Ystorm Tiberias" yn Eisteddfod Dalaethol 1891—y perfformiad cyntaf o'r oratorio wedi ei diwygio, yn nghyd â cherddorfäeth Mr. Emlyn Evans. Ac nid yw zêl Mr. Roberts gyda'r canu cynulleidfaol un iotyn yn llai nag oedd yn y dyddiau gynt; yn yr addoldy y perthyn iddo llafuria yn ffyddlawn a chyson, a rhydd y gerddorfa fechan sydd yno (pymtheg o offerynau) lawer o gynorthwy i'r gwasanaeth cyhoeddus. Llafuria hefyd yn mysg eglwysi Annibynol y cylcb. i