Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CERDDOR.—Awst 21I, 1897 9i sydd fwyaf. Yr oedd eu bywyd, eu hamgylchion, a'u personoliaeth mor hollol wahanol. Am dano ef ei hun, pa hwyaf y mae'n byw, mwyaf yw ei edmygedd 0 Mozart. Pan yr oedd yn ieuangach aeth trwy gyfnod caled o Schu- manniaeth, ond darfu i Schumann roddi ffordd yn raddol i Mozart. E. Cymanfa Ganu Sir Gaernarfon. Yk oedd y gymanfa hon yn gyfyngedig i Gyfarfod Misol Arfon. Wrth gwrs, yn y Pafilion y cynhaliwyd hi, Gorphenaf laf. Llywyddwyd gan y Parch. Henry Rees Davies, y Cysegr, a Mr. Bryn Roberts, A.S. Ar- weinydd am y dydd, Mr. D. Jenkins, Aberystwyth. Yr oedd y gerddorfa—89 mewn rhif—yn cael eu blaenori gan Mr. T. Shaw, Lerpwl. Rhifai y cantorion rhwng pump a chwe' mil; ac y mae yn glod i ben a chalon yr arwein- yddion lleol eu bod wedi gwneyd eu gwaith mor drwyadl. Canwyd rhai o'r tônau yn hynod 0 afaelgar,—"Dole," "Builth," " Adgyfodiad," "Pembroke," "Regent Square," " Ludwig," " Ellers," a " Tanymarian "; am " Amsterdam " a " Llanllyfni," yr oedd y cynghaneddiad fabwyeiadwyd wedi eu difetha, ac am y gyntaf o'r ddwy, yn wir y mae y gogoniant wedi ymadael. Canwyd yr anthemau " Cer- wch yr Arglwydd " (Sullivan), " Gwel uwchlaw cymylau amser" (J. H. Roberts), " Haleliwia i'r Goruchaf" (Beethoven), a " Teilwng yw yr Oen " (Handel); ac yn ystod y cyfarfodydd cafwyd cân gysegredig yn y prydnawn a'r nos gan Mrs. Kate Morgan Llywelyn, Dowlais, yn hynod 0 effeithiol. Credwn fod hyn yn beth y dylai y pwyllgor ei fabwysiadu, a phe caem ein ffordd, buasem wedi gofalu mewn pryd i gael dwy gân gysegredig wedi eu cyfeilio gyda'r gerddorfa. Un peth arall ag y dymunem ei weled yn ychwanegol at y ddwy gân, fyddai darn i'r gerddorfa ar ei phen ei hun yn y prydnawn a'r nos, er mwyn yn gyntaf i'r bobl gynefino â'r gerddorfa, ac yn ail, rhoddi ychydig seibiant i'r lleisiau. Yr ydym yn sicr na fu dim gwell canu yn Nghymru erioed nag a gafwyd yn y gymanfa hon, ac yr oedd astudrwydd y dorf fawr yn gosod bri ac anrhydedd arnom fel cenedl. Jf n jfÄ e m 0 r í a m ♦ Mk. GRIFFITH ANTHONY, A.C., Cwmbwrla. Ganwyd Mr. Anthony yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, yn 1846, ond symudodd ei dad i Cwmbwrla, pan oedd y bachgen yn ieuangc iawn. Gweithiodd yn ffyddlawn gydag achos Iesu Grist yn y lle, ac yn enwedig gyda cherddoriaeth. Yn gyntaf oll, dangosodd lafur mawr i sicrhau iddo ei hun y safle a gafodd mewn cerddoriaeth. Pan yn parotoi ar gyfer yr arholiad am yr A.C., yr oedd yn gweithio yn galëd mewn gwaith haiarn, ac er ei fod yn lluddedig gan lafur corphorol, eto daliodd ar bob cyfle a gawsai i enill gwybodaeth gerddorol, ac yn y flwydd- yn 1878 enillodd yr A.C. Wedi iddo gyrhaedd hyn, gwnaeth ei oreu i greu awydd mewn eraill o'i gwmpas. Defnyddiodd y cwbl i leshau eraill; ac y mae yma lawer j7n y dosbarth hwn sydd wedi codi i fod o was- anaeth mawr i gerddoriaeth, yn ddyledus i Mr. Gnffith Anthony am gynyrchu ynddynt yr awydd cyntaf yn y cyfeiriad hwn, a'u gosod ar ben y llwybr. Gellid dweyd ei fod yn dad i lawer mewn cerddoriaeth. Yr oedd yn ddyn diymhongar a llednais ei ysbryd, ac yn meddu ar barch dwfn i wasanaeth Duw yn y byd. Yr oedd yn arfer dweyd am gerddoriaeth, ei bod yndebyg i'r deml, ond caniadaeth y cysegr oedd y cysegr Sancteiddiolaf, yr oedd gymaint a hyny yn agosach at Dduw. Ac 0 herwydd ei fod wedi meddwl felly, tyfodd parch dwfn a diamheuol ynddo at ganiadaeth. Yr oedd ganddo hefyd chwaeth grefyddol i wneyd dewisiad iawn o ddefnyddiau ar gyfer y gwahanol gyfarfodydd a gynhaliwyd 0 bryd i bryd yn ei gapel ei hun. Rhwng y gwasanaeth a wnaeth yn y cylch hwn fel cerddor, wrth gadw dosbarthiadau canu yn y gwahanol eglwysi, ac hefyd fel blaenor parchus yn eglwys Babell enillodd iddo ei hun barch mawr, ac yr oedd iddo air da gan bawb, gan eu bod yn hollol argyhoeddedig ei fod yn gwasanaethu Crist a'i gyd-ddynion o'i galon. Cafodd gystudd trwm. Bu'n wael am yn agos i dair blyn- edd, a dioddefodd lawer, ond yn hollol dawel a dirwgnach ; ac ar brydnawn Sul, Mehefin 13eg, ymadawodd am wlad well, oddiwríh ei lafur at ei wobr. Y dydd Iau canlynol daeth tyrfa yn nghyd i dalu y warogaeth olaf iddo, drwy hebrwng ei weddillion marwol i Gladdfa Aberafon. Dyma restr o'i gyfansoddiadau :—Anthemau—'1 Ceis- iwch yr Arglwydd," " Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn," " 0 angeu, pa le mae dy golyn?" "Mae bwlch yn y mur," "Cenwch yn llafar," "A llef a ddaeth allan," " Clywch mor bur yw'r lleisiau"; Cantodau —" Dy- muniad yr holl Genhedloedd," "Y dwfr glân"; Tôn— "Cwmbwrla"; Tônau i bldnt—" Ochenaid pechadur," " Yn yr anial," " Dewch at Iesu." Congl yr Hen Alawon. ALAW AMERICANAIDD. DOH EJ2. :si |d :- :d |d :- :m Js :- :s |s :- :m jr :- :r |r :- :d |n :- :d |1,:- :s, |d :- jr :- :r |r :d :r jd :- jl :- :t Id1:- :1 |s :- d |d :- :n |s :-:- ln :- :d - |- :-||s jl :-:l|l:-:s ;n |pi :- :d jm :- :d |la 2— :si ••//• jd :- :d |d :- :m |s :- :- |n :- :d jr :- :r |rjd :r jd :-|| Canwyd yr alaw uchod yn Rhuddlan beth amser yn ol gan hen ŵr 89 oed, ac yr oedd yntau wedi ei dysgu gan ei dad tua 80 mlynedd yn ol. Y geiriau a genid oedd, " O, pwy yw hon sy'n d'od yn hy P" A allrhai o'n darllenwyr ein cynysgaeddu â geiriau dirwestol ar yr alaw ? Bwrdd y Golygwyr. Meirionfab.—Diolch; ond yr oedd un arall wedi ei der- byn yn flaenorol, a'i chysodi. At ein Darllemoyr yn America.—Yn ein rhifyn nesaf cyhoeddwn feirniadaeth ar gynghaneddiad "Talwrn," fel yr ymddangosodd yn Nyreal y Corau, Hydref, 1861, a beirniadaeth y tônau yn Eisteddfod ddiweddar TJtica, fel y cyhoeddwyd hi yn y Dryc/i, Ionawr 21, 1897, ochr yn ochr. Gwell fuasai genym beidio ymwneyd rhagor a'r mater, o herwydd fel yr hysbyswyd gan ein " Goheb- ydd Neillduol" pan yn galw sylw ato gyntaf, nid dybenion personol oedd mewn golwg; ac o ganlyniad ni chyfeiriwyd genym at feimiad Eisteddfod Utica, na'r Eisteddfod ei hun, wrth eu henwau. Ond yn ngwyneb yr hyn sydd wedi ymddangos yn y