Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

98 Y CERDDOR.—Meáì la/, 1897 EIN CERDDORION ItHIF 20. ) Mr. OWEN GRIFFITH (Eryr Eryri). GANWYD gwrthddrych ein hysgrif yn Penyllyn, ger Cwmyglo, plwyf Llanrug, Awst y 12fed, 1839. Enw ei dad oedd Griffith Owen, yr hwn ar un adeg a fu yn ar- wain y Seindorf yn Llanrug. Llafuriodd gryn lawer gyda chaniadaeth mewn gwahanol ardaloedd, a chyfansoddodd amryw dônau ac anthemau. Yn Eisteddfod Lerpwl tua'r flwyddyn 1842, bu yn gyd-fuddugol â'r diweddar Richard Millsargyfansoddialawgymwysi'w threfnui Seindorf Bres. Collodd y tad ei iechyd, a bu yn ngafael y darfodedigaeth am amser, hyd ei farwolaeth yn 36 mlwydd oed. Bu afìechyd y tad a'i farwolaeth gydmarol ieuangc yn anfant- ais fawr i'r mab i gael un- rhyw fath 0 addysg, fel mai yr unig help gafodd yn y cysylltiad hwn oedd yr Ysgol Sabbothol, sefydliad ag y mae llawer o'n dynion goreu yn wir ddyledus iddi. Nid hk y bu yr Eryr cyn ruyned i sŵn y canu; ac ymunodd gyda chôr y Waunfawr, y pryd hyny dan arweiniad y diweddar Mr. Pierce WüliamB (tad Doctor Lloyd Williams, Llanberis). Bu yr hen ar- weinydd hwnw yn hyfforddi llawer ar Mr. Griffith, hyd nes iddo dd'od yn ddigon galluog i arwain parti ei hun, ac enillasant y wobr yn Eis- teddfod Caernarfon, 1862. Yn yr un Eisteddfod cafodd ei barti haner y wobr am bedr- awd. Yn y flwyddyn 1866 rhoddodd Mr. Pierce Williams i fyny arweinyddiaeth y côr, aphenodwyd Mr. 0. Griffith i gymeryd ei le. Ymunodd y côr âg Undeb Côrawl Dirwestwyr Eryri, yr hwn oedd dan arweiniad y diweddar Ieuan Gwyllt; a bu côr y Waenfawr yn ffyddlon i'r undeb hwnw tra fu mewn bod. Yn yr adegau hyny cystadleuodd y côr laweroedd 0 weithiau ; ond i fyny ac i lawr yr oedd yn aml. Yn y cyfwng hwn ymwelodd y diweddar Eos Morlais â'r ardal, a bu ysbrydiaeth yr Eos wrth arwain, yn adfywiad i'r côr a'r arweinydd. Yn y flwyddyn 1872 aethant i Eisteddfod Gadeiriol Penygroes ; enillasant y wobr, er fod pedwar côr yn cystadlu. Yn yr un flwyddyn gwnaed y côr yn Gôr TJndebol y Waenfawr a Llanberis. Collasant yn Eisteddfod Caergybi, ond yn Eisteddfod Bettws-y-coed enillasant,—pump o gôrau yn cystadlu. Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanberis yn 1873, ac enillasant ddwy o'r prif wobrau, pan yr oedd pomp côr yn yr ymdrechfa ar y naill, a chwech yn y llall. Ar ol y fnddugoliaeth bon, daeth awydd arnynt i fyned i'r Eisteddfod Genhedlaethol yn yr Wyddgrug, ac er iddynt golli, cawsant £10 0 anrheg gan Gymmrodorion Llundain, am eu hymddygiad teilwng yn ngwyneb yr annghydfod ystyried yn perthyn i Gymru. Yr oedd Mr. 0. Griffith yn foddlon iddynt fod ac i gael canu yn y gystadleuaeth, tra yr oedd y côrau eraill o Gymru yn gwrthwynebu. Dangosodd ddoethineb a gras sydd. yn rhy brin 0 lawer yn lluaws o'n harweinyddion. Ar ddiwedd yr ymryson, cyf- lwynwyd tlws aur i arweinydd un o'r côrau, pan y sylw- odd Mynyddog, " Wel, dyna ymrafael wedi terfynu yn dlws, onide!" a bu y mwysair yn gymhorth pellach i dawelu y ffrwgwd. Bu y côr yn Eisteddfod Genhedlaethol Bangor yn 1874, ac er nad oedd Mr. Griffith yn arwain ar y dydd, efe oedd wedi bod yn parotoi y côr; ond colli wnaethant er cael arwein- ydd dieithr, ac aeth y wobr i Gaernarfon. Yn 1875 aeth- ant i Eisteddfod Genhedlaethol Pwllheli, ac enillasant y brif yn nghyd a'r ail wobr. Collasant yn Nghaernarfon (1879), gan i'r côr fyn'd allan o diwn; enillasant yn Mhorthaethwy, ac hefyd yn Eisteddfod Genhedlaethol Birkenhead, gwobr £150 a thlws aur. Yr oedd hon yn gystadleuaeth bwysig, gan mai dyma y tro cyntaf i gôr- au y De a'r Gogledd gyfarfod a'u gilydd. Yr oedd y brwd- frydedd yn fawr, a'r rhan fwyaf yn disgwyl mai i'r De y buasai y wobr yn myned. Yr oedd pryder arweinydd Waenfawr a Llanberis yn fawr, a gwnaeth ei oreu i berswadio aelodau y côr i beidio myn'd i glywed côrau y De yn ystod y gystadleu- aeth, a chyn i dro'r Waen- fawr ddyfod, rhag ofn iddynt ddigaloni, 0 herwydd nid oeddent erioed wedi eu clyw- ed. Yr oeddem yn bresenol yn Eisteddfodau Pwllheli a Bir- kenhead, a dyma y tro cyntaf ini weled Mr. Griffith. Yr oedd yr oruchafiaeth yn yr olaf yn goron ar ei holl ym- drechion, ac fel cad-lywydd doeth trodd o'r neilldu fel arweinydd mewn cystadleu- aeth. Credwn y dylasai ddal atti'n hwy gyda'r côr, fel ag i berfformio rhai o'r prif weithiau; ond ychydig 0 gefnogaeth a dderbyniai gan y caiitoiion a phersonau unigol yn nglŷn â gwaith mor anrhydeddus. Yr ysfa gystadleuol sydd yn difa defnydd- yddioldeb lluaws o'n cantorion yn barhaus. Y mae'r Eryr wedi bod yn arwain aml i Gymanfa Ganu yn y Gogledd, ac wedi bod yn beirniadu llawer yno, a pheth yn y Deheudir hefyd. Nid ydyw chwaith wedi bod yn ddisylw gyda cbyfansoddiant. Y mae un o'i gan- euon " Y Baban diwrnod oed " wedi bod yn bur boblog- aidd. Gwelsom anthem o'i waith, " Da, was da a ffydd- lon" sydd yn meddu ar lawer 0 allu a chrebwyll; hefyd cân arall ar destun pruddaidd, fel ag efallai na fyddai siawns iddi gael y sylw a ddylai fel cân gyhoeddus. Wrth ddarllen hanes ein gwrthddrych, y mae yn an- hawdd cael gwell engraifft 0 self help, ac y mae yn un o'r cymeriadau hyny sydd wedi gwneyd gwaith ardderchog i ganiadaeth, ac wedi dyrchafu chwaeth y cantorion yn ardal y chwareli yn gyson a distaw. Da genym ddeall oi fod yn rhoddi pob cynorthwy i'r arweinyddion yn y cylch yn gododd yn nghylch pa un a ddylai côr Birkenhead gael ei nglŷn â phob math 0 gyfarfodydd; a chan nád ydyw eto