Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

86 V CERDDOR.—Awst laf ií EIN CERDDORION (RHIF 30. ) JOSEPH HUGHES, y Plentyn=Delynor. YMlS presenol yr ydyrn yn alluog i roddi darlun o'r cerddor ieuangc hwn, diolch i gwrteisrwydd un o berthynasau y bachgen-delynor a gollwyd i'w genedl yn moreu ei oes, a hono'n oes fwy addawol na'r cyffredin o gryn dipyn. Yn anffodus prin iawn yw y mater bywgraffyddol sydd genym at ein llaw, ae y mae'r ychydig hyny wedi ei wneyd yn hysbys fwy neu lai, yn ein colofnau eisioes. Y mae blwyddyn ei enedigaeth yntau yn ansicr, fel eiddo rhai pobl eraill; un awdurdod a ddywed iddo gael ei eni yn 1827, ond yn ol Mr. M. O. Jones— "Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig"— chwareuai mewn eisteddfod yn Llanerchymedd yn 1835, a phryd yr oedd, ebai ef, heb gyrhaedd ei 6 mlwydd oed, ac felly nis gall'sai fod wedi ei eni cyn 1829. Ymddengys mai ei le gen- edigol oedd y Bala, mai enw ei dad oedd Robert Hughes, ac i'r teulu symud i Lundain pan nad oedd y plentyn ond ieuangc iawn. Yn ol yr hyn a hysbyswyd i Mr. Nicholas Bennett, gan y diweddar del- ynor John Roberts o'r Dref- newydd, teiliwr oedd tad Joseph Hughes, yr hwn oedd yn medru chwareu'r clarinet yn bur dda, ac yn un oedd dra hoff o gerddoriaeth ac o gyf- eillach gwŷr y gân. Yn y flwyddyn 1833 aethei dad âg ef ar daith gerddorol trwy ranau o Gymru a Lloegr; a thua'r flwyddyn 1839—rhyw gymaint ar ol hyny o bosibl— aeth i'r Unol Dalaethau, a thra yn croesi'r afon Hudson, yn agos i Gaerefrog Newydd, neu pan ar lýn, medd rhai hanesion, syrthiodd i'r dwf r, drwy i'r cwch ddymchwelyd neu ryw ddamwain arall, a boddodd—pan nad oedd eto ond plentyn o ran oedran, er Ued debyg iddo ddatblygu'n gyflym mewn ystyr gerddorol, fel yw arfer plant o'r fath. Yny flwyddyn 1839, cyn iddo ymfudo i'r Amerig,cyhoedd- odd gasgliad o AlawonCymreigadrefnasid ganddo,ac yn eu plith rai darnau gwreiddiol o'i waith ei hun. Croniclir hefyd iddo gyfansoddi alaw o gryn deimlad, i'w fam, cyn ymadael â hi pan yn myned gyda'i dad ar y daith grybwyllir uchod; ac i Tegid ysgrifenu geiriau priodol i'r gân ar ol hyny. Dyna'r oll a wyddom am y naill a'r llall o'r cyhoeddiadau hyn, ond y mae argraff ar ein meddwl i'r casgliad o'r Alawon fod yn ein meddiant un adeg. Y mae y darlun uchod yn un a ddefnyddiwyd ar wyneb-ddalen darn cyhoeddedig o'i eiddo, yn dwyn yr ar-ysgrifiad a ganlyn :— The Celebrated Welch Air " Ar hyd y Nos " With yariations for the Harp, as performed before Their Majesties. Composed and most respectfully dedicated to His Boyal Highness Prince Geokge of Cumberland, by Master Hugiies. Yn Llaneichymedd (1835) gwnaed ef yn Ofydd, gan Clwydfardd a Gwalchmai—dau a fuont yn golofnau gor- seddol am flwyddi meithion wedi hyny— ac addurnwyd ef â'r ffug-enw "Blegurwyd ab Seisyllt"; ffugenw tra an- addas i blentyn rhyw 6 neu 8 mlwydd oed, onidte P " Blegurwyd yw'r blaguryn Sŵn ei dant wna synu dyn," ebai un o englynwyr y dydd am dano. Dywedir i rai o'r englynion wnaed iddo gael eu troi i'r Saesneg, ac iddynt gael eu canu yn yr awyr ag- ored. Wele ddwy linell fel esiampl: — " Jn music's scicnce al) unski]l'd, tliou didst lier dcptlis discern, To tliec by bounteous Heiiycn was given, what otLers _ all niiist learn." Yn ffodus, y mae " bounteous Heaven" yn ddoethach nag y myn ffolinebau y beirdd a gwageddau gorseddol ei gwneyd; ac nis gall'sai dim fod yn fwy niweidiol i fach- genyn na nonsense o'r fath hyn. Ar yr un pryd, an- rhegwyd y telynor ieuangc âg eur-dlws, yn dwyn darlun o hono ei hun yn chwareu ei offeryn o dan gysgod derwen, arch-dderwydd a brigyn o'r goeden dderwyddol yn ei law wrth ei ochr, a'r Awen yn gogwyddo tuag ato. I gwblhau y fusnes yn iawn, gwnaed y gŵr ieuangc yn destun y Gadair yn y Bala yn 1836, Gwalchmai yn fudd- ugwr. Nid eiddo'r plentyn druan mo'r bai am y pethau hyn, ond y rhai oedd yn blantos o'i gylch. Gan nad oes genym ond yr yrcfflamychiadau barddol hyn a'u cyffelyb paith ei dalent fel telynwr i'n cyfarwyddo, a'r rhai ydynt yn hollol ddiwerth mewn ystyr feirniadol, nac unrhyw ddarn o'i waith o'n blaen fel dangoseg o'i allu- oedd cerddorol, anmhosibl i ni ffuifio barn am ei gyr- haeddiadau, na'r addewid a gynwysent am y dyfodol; o herwydd nid yw "bounteous Heaven" er rhadloned yw, yn troi allan gerddorion nef-anedig ; byd y tyfu a'r dysgu yw hwn i'r galluocaf o blant dynion—" drwy chwys dy wyneb " yw y ddeddf fawr ddieithriad : felly yr oedd hyd yn nôd i Moaart ei hun, y cerddor mwyaf " nef-anedig " welodd y byd erioed hyd yn hyn. Yr oedd ef—Moaart—yn eithriad pellach, un o'r ych- ydig cithriadau, i'r dynged sydd yn gorddiwes plant- ryfeddodau (child-wonders) y byd fel rheol; pa un a fuasai y plentyn Joseph Hughes hefyd yn eithriad pe