Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

86 Ÿ CEEDDOÈ. [Awst laf, Ì899. EIN CERDDGRION. (EHIF 41. ) Mr. RHYS EVANS, Aberdar. GANWYD Mehefin Mr. Erans 24ain, 1835. yn Rhydaman, Amanford, Dechreuodd ddysgu canu gyda Mr. William Penry, chwaer yr hwn wedi hyny a Messiah, Judas Maccab&m, &c. Y pryd hyn y daeth i adnabyddiaeth gyntaf â Charadog, a'i frawd John; yr oeddent yn chwareu y grythen yn y gerddorfa; yr oedd y dwymyn ganyddol yn uchel iawn y pryd hyn—1856-67. Symudodd i Lundain, lle y bu am ddwy flynedd; yno daeth i adnabyddiaeth â llawer o gantorion Cymreig yn Fetter Lane a Jewin Crescent. Mr. William Williams oedd blaenor y gân yn Fetter Lane, a Mr. Peters yn Jewin Crescent. Aeth yn ei ol i Rydaman pan ddaeth yr amser i ben, ac ar unwaith ffurfiwyd côr yno, aelod o ba un oedd briododd. Pan yn ddwy-ar-bymtheg oed symudodd i Abertawe, yno ymunodd â dosbai th oedd yn dysgu cy f undrefn Hullah, ac yn ol hono y daeth yn alluog i ddarllen ych- ydig ar gerddoriaeth; a'r cynllun hwn a ddysgodd i eraill. Flynyddau ar ol hyn symudodd i Gwmafon, lle yr oedd y canu côrawl yn lled flodeuog; Asaph Glan Dyfi ac eraiîl oedd y prif gerddorion. Oddiyno symudodd i Gaerdydd, lle'r ymunodd à chôr y diweddar Mr. IlhyB Lewis. Yr oedd hefyd yn aelod o gôr Mr, Righton, yr hwn a berfformiai y y diweddar Mr. Lewis Anthony, o'r America wedi hyny; cydrhyngddynt daeth y côr bach yn enwog, enillent y gwobrwyon braidd yn ddieithriad yn yr ardaloedd cylch- ynol. Priododd a symudodd i Aberdâr yn y flwyddyn 1860. Yn fuan ar ol iddo sefydlu yn y Ue apwyntiwyd ef yn ar- weinydd côr Siloa; ymunodd â chôr undebol dan arwein* iad y diweddar Caradog. Byddai llawer o gôr Siloa (un gynulleidfa) yn aelodau o'r côr undebol, a byddai y ddau