Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

116 Y OERDDOB. [Hydref 2il, 1899. jí n Jtt t m g xinm ♦ Mr. NIGHOLAS BENNETT, Y.H., Glanyrafon, Maeldwyn. Fel y crybwyllwyd yn fyr genym yn ein rhifyn blaenorol, y mae'r boneddwr gwladgar a llengar ucbod wedi ein gad- ael—wedi " croesi'r bar," er y 18fed o Awst. Yr oedd wedi bod yn dihoeni er ys rhai wythnosau, ac ofnem oddiwrth lythyr dderbyniasom oddiwrth ei nai, Mr. Bennett Owen, Machynlleth, adeg Eisteddfod Caer- dydd, nad oedd y diwedd yn mhell. Cyrhaeddodd yr oedran têg o 76 mlwydd, ond nid ymddangosai cyn hyned o gryn dipyn; y tro diweddaf y gwelsom ef edrychai fel pe y byddai fyw am fiynyddau yn ychwaneg : ychydig arwydd henaint oedd ar ei gorph lluniaidd, a thybiem fod ei lais mor glir, a'i gerddediad mor hoyw, tra yn sicr yr oedd ei wynebpryd mor siriol â'r tro cyntaf y cyfarfuom â'n gilydd ar lánau yr Hafren, flwyddi maith yn ol bellach. Yr oedd yn batrwn têg o'r boneddwr, ac o foneddwr Cymreig y Gymru sydd wedi neu sydd ar basio heibio. Ymhyfrydai mewn helwriaeth, ac yn mywyd agored y wlad. Yr oedd yn Eglwyswr o ran credo, ac yn Geidwadwr o ran ei ddaliadau gwleidyddol, er nad byth yn eithafol nac annghymodlawn. Yr oedd yn gyfeillgar â phawb, a pherchid ef gan bawb : gwreng a boneddig, cyd- ffurfiwr ac annghydffurfiwr. Carai ei wlad : ei hiaith a'i hanes, ei cherdd a'i chân, â chariad pur a diysgog. Yn ngeiriau ei hen gyfaill Ceiriog am dano ei hun, priodol iawn fyddai dweyd am dano yntau : — " Carodd eiriau cerddorol—carodd feirdd, Carodd fyw'n naturiol; Carodd gerdd yn angerddol." Yr oedd yn gyf aill mynwesol i Ceiriog, Mynyddog, ac eraill o feirdd, llenorion, a cherddorion ei wlad. Yn ei Ganeuon (llyfr laf) cana Mynyddog " Gywydd Diolchgarwch" iddo am ff on: — " Fy llonwych gyfaill union Wnaeth harddaf, hoffusaf ffon I Mynyddog;—mae'n haeddu Am y rhodd fad, ganiad gu," &c. Barddonai hefyd ei hun, ryw gymaint, er na chyhoeddodd ond ychydig. Cyhoeddwyd un gân o'i eiddo yn y colofnau hyn, a cheir un arall yn Songs of the Four Nations (Boul- tona Somervell). Ei brif hyfrydwch llenyddol oedd casglu ac efrydu gweithiau hanesyddol, barddonol, a cherddorol a ddal- ient gysylltiad â'r hen wlad, a gadawodd ar ei ol lyfr- gell dra gwerthfawr. Ond yn ddiau cedwir ei enw ar gôf a chadw yn benaf, drwy y casgliad o alawon Cymreig a gyhoeddodd yn 1896; "Alawon fy Ngwlad" (Lays ofmy Land). Cynwysa y casgliad hwn 500 o alawon, na chyhoeddwyd ond ychydig o honynt o'r blaen, a'r ychydig hyny mewn cyfrolau ydynt bellach yn brin, neu allan o ar- graff. Yn ystod blynyddau yr oedd wedi dwyn yn nghyd tua 700, neu 800 o alawon, o ba rai y dewiswydac y trefnwyd y nifer uchod gan ysgrifenydd y llinallau hyn. Cynwysa y casgliad hefyd nifer o ddariuniau a bywgrafiìadau o'r hen delynorion, a chanwyr pennillion; yn nghyd â nodiadau eglurhaol ac engreifftiau cerddorol o'r dull o ganu gyda'r tannau. Dygwyd y gwaith pwysig hwn allan yn gyntaf mewn dwy gyfrol hardd, a chyhoeddwyd argraffiad diwedd- arach mewn un gyfrol, ac am ychydig llai o bris. Gadaw- odd hefyd, mewn llawysgrif a barotowyd yn hynod gel- fydd gan Mr. Bennett Owen, draethawd gwerthfawr ar arf-beisiau Tywysogion Cymreig, yn nghyd â darluniau o'r cyfryw arwyddluniau. Dodwyd ein hen gyfaill dyddan a thrylwyr i orwedd yn mynwent Eglwys St. Michael, Trefeglwys, Awst 21ain. D. E. E. Eisteddfodau, Cyngherddau, Cymanfaoedd Canu, &c. [*** Rhaid i ni alw sylw neillduol ein gohebwyr at yr angenrheidrwydd o anfon eu hanesion yn union ar ol dyddìad y cyfarfodydd, ac mor fyr ag sydd bosibl, gan roddi enwau y darnau a'u hawdwyr.—Go-L.] Aberteifi. — Cynhaliwyd eisteddfod yn y lle hwn Awst 23ain, pryd y gwasanaethwyd fel beirniaid cerddorol gan Mri. John Henry Roberts, Mus. Bac. (Cantab.), a D. W. Lewis, F.T.S.C, ac yn y rhagbrawfion gan Mr. David Hughes, R.A.M. Y buddugwyr oeddent —y brif gystadleuaeth — " Worthy is the Lamb"; côr Llanelü (Mr. J. Thomas); ail oreu, côr Llan- pumsaint (Mr. T. Evans). Côrau meibion, " Wŷr Philistia" (D. Jenkins); Llanelli. Côrau merched, " Telyn fy Ngwlad"í(D. W. Lewis); Cemmaes (Mr. Harris). Cynhaliwyd cyngherdd yn yr hwyr pryd y gwasanaethwyd gan Mrs. John Thomas, Llanelli; Miss Gertrude Drinkwater; Mrs. Ceinwen Jones-Williams; Mr. W. Trevor Evans, a Mr. David Hughes. Rhuthyn.—Cynhaliwyd cymanfa ganu Wesleyaid y Dosbarth, Awst 17eg. Mr. Wilfrid Jones, Gwrecsam yn arwain. Canwyd tônau o'r Llyfr Tônau Wesleyaidd, a'r rhangan " O fy Iesu " (Pughe-Evans), gyda'r hon y caf- wyd hwyl neiJlduol. Cyfeilwyr, Mri. Robert Davies, Din- bych, ac R. Jones, Clocaenog. Cynorthwyoddd Mr. Moore, Gwrecsam, hefyd ar y eornet. Pwllheli.—Awst 31ain, cynhaliwydd cyngherdd yn yr Assembly Hoom. Chwareuwyd darnau ar y berdoneg gan Misses W. Jones, M. E. Jones, a S. J. Richards. Canodd Miss S. M.^Glynne Lewis, Dyffryn Nedd," Entreat me not" (Gounod), "Sing, sweet bird" (Ganz), " The Gift" (Behrend), yn dderbyniol iawn; a chafwyd " Dear Home- land" (Slaughter), " Summe/ Shower" (Marzials), ac "Y bachgen ffarweliodd û'i wlad" (Hughes), gan Miss Winnie Stephens, St. Clears, yn dra rhagorol; rhodd- wyd "HofF wlad fy ngenedigaeth" (Dr. Jos. Parry), " Star of Bethlehem " (S. Adams), a " Queen of the earth " (Pinsuti), yn rhagorol, ac yn benaf felly yr olaf, gan Mr. Richard Thomas, Llanelli; yn gyffelyb felly hefyd Mr. Emlyn Davies, A.R.C.M., yr hwn a roddodd " The Sailor's Grave" (Sullivan), " Who carries the gun" (Needham), a " Lead, Kindly Light" (Pughe-Evans), fel arfer yn neillduol o dda. Cafwyd dwyawdau a phedr- awd hefyd gan y parti. Cyngherdd lwyddianus iawn yn mhob ystyr. Bwrdd y Golygwyr. JDerbyniwyd:—Beirniadaeth Eisteddfod Corris ; hefyd ys- grif A. G. E. Yn ein nesaf. Cynwysiad. TÜDAL. Ein Cerddorion (Rhif 42). Mr. Ben Davies ... 105 Adgorìon am Gwilym Gwent ... ... ... 107 Ehedgan . ............... 108 Beirniadaethau ... ... ... ... ... 110 Gŵyl y Seindyrf Pres yn Manchester ... ... 112 Coleg Aberystwyth ... ... ... ... 112 Adolygiadau ... .. ... ... ... 113 Amrywion ... ... ... ... ... 114 Y Messiah ... ... ... ... ... 115 Mozart ... ... . ... ... ... 115 In Memoriam ... ... ... ... ... 116 Eisteddfodau, Cyngherddau, Cymanfaoedd Canu, &c. 116 Bwrdd y Golygwyr ... ... ... ... 116 Cerddoriaeth:— Iesu, Cyfaill f'enaid cu" {Jesu, Lover of my soul)— Rhangan—J. Owen-Jones, Gwrecsam. Boreu Oes "—Rhangan Gysegredig i Blant—T. Vincent Davies, Llundain. Argraffwyd a Chyhoeädwyd gan Hughesa'iFab, Gwrecsam.