Symud i'r prif gynnwys

Y CERDDOR.—Ionawr iaf, 1890. gar; ac er ei fod yn ffafryn yn y cylchoedd cerddorol uchaf, ni throdd erioed glust fyddar at apeliadau ei frodyr cerddor- ol llai ffortunus. ao nis annghofiodd ychwaith ino'r hen "wlad a'i maccodd." Hwyrach mai cystal sylwi yma, mai yr unig un o'i deulu a'i goroesodd oedd ei fab John Orlando Parry, neu " John Parry, Junr.," fel agei gelwid nnwaith ; a'r hwn yn ddiau oedd yn adnabyddus i aml i un o'ndarllenwyrhenach, mewn cysylìtiad â difyr-gyngherddau Mr. a Mrs. German Reed. Daeth allan yn gyntaf fel Isalawydd tra addawol mewn gweithiau a chaneuon o'r radd flaenaf, ond aeth yn raddol, ac yn y pen draw yn llwyr, at y rhan ddigrifol a äynwared- ol o'r gelfyddyd. Ganwyd ef yn Llundain, Ionawr 3, 1810, bu farw yn East Moulsey, Surrey, yn 1879, pan yn ei 69 mlwydd oed. Duorak* a Boito. Diatj mai y ddau enw ag sydd flaenaf ar wefusau pawb pan yn siarad am gerddorion y dydd, ydyw y rhai a ffurfiant benawd y sylwadau hyn, sef eiddô Antonin Dvorák ac Arrigo Boito, a chan fod yn nghysylltiad â bywyd y naill fel y llall ffeithiau a fyddant o ddyddordeb, ac a allant fod o les, i'n cerddorion ieuaingc yn Nghymru, yr ydym yn rhoddi braslun o honynt yma. Ganwyd Dvorák yn Bohemia, ar yr 8fed e Fedi, 1841 ; cigydd oedd ei dad wrth alwedigaeth,. gan ychwanegu at hyny y swydd o gadw tafarndy, ac at y gorehwyl cyntaf y bwriadwyd Antonin; ond dadebrwyd ei dueddiad naturiol at gerddoriaeth yn fuan gan yr offerynwyr teithiol oeddent yn mynychu y gwestdy, fel na wnai ddim o'r tro ond fod yn rhaid iddo gael gwersi mewn lleisiadaeth a chwareu'r Grythen gan ysgolfeistr y pentref. Cynyddodd gymaint fel ag yr ymddiriedwyd unawdau iddo yn achlysurol yn yr eglwys, ac yn fuan symudwyd ef i ysgol uwch, pryd y cafodd fanteision cerddorol ychwanegol; un tro dychwelodd adref â dawns-dôn yn ei logell er mwyn synu ei "gyfeillion, ond pan yr amcanwyd ei chwareu gan yr offerynwyr cyn- yrchwyd y sŵn mwyaf annaearol, o herwydd yr oedd y cerddor, druan, heb ddysgu gwybod nad gwiw ysgrifenu ond mewn dull neillduol i offerynau trawsddodol—yr oedd ei boll ranau ef fel ag yr oeddent i seinio! Pa fodd bynag, llwyddwyd i gael caniatâd y tad yn y diwedd ar fod i'r bachgen fyned i Prague i astudio cerddoriaeth, gyda'r am- can o ddyfod yn organydd; gan mai ond ychydig gynorth- wy a dderbyniai oddicartref, bu yn lled galed arno yno, a gorfod iddo er mwyn cael y " ddau ben yn nghyd " ymuno âg un o seindyrf y dref, fel chwareuydd viola, a bu wrth y cyfryw waith am dair híynedd: nid sefyllfa foddus i gerddor, ond un a drôdd allan yn fanteisiol iddo ef yn y pen draw, pan yn ysgrifenu i'r gerddorfa. Wed'yn dewiswyd ef fel ehwareuydd yn ngherddorfa y Chwareudy Cenhedlaethol yn y ddinas hono, ac er ei fod yn rhy dlawd i bwrcasu na phiano na score, eto gweithiai'n mlaen yn ddiwyd gyda chyfan- soddiadaeth, gan dreio ei law ar wahanol ffurfiau. Nid oedd heb gyfeillion serch hyny, ac yn 1873 penodwyd ef yn organ- ydd i un o eglwysi y ddinas; galluogodd hyn ef i roddi fyny ei swydd yn y chwareudy, ac er mai digon isel oedd ei am- gylchiadau hyd yn nod yn awr, teimlai'n ddigon hyderus i gymeryd ato ei hun wraig. Tua'r adeg hon y daeth allan gyntaf yn gyhoeddus fel cyfansoddwr, gyda'i gantawd " Etifeddion y mynydd gwỳn," yr hon a ddilynwyd gan amryw ddarnau offerynol i gerdd- orfa, ac opera ar " Y Brenin a'r Glöwr," y rhai a brofasant fod yn yr awdwr gyfansoddwr o'r dosbarth blaenaf. Tua'r adeg hon derbyniodd dâl blynyddol o 50p. o'r Kultusmin- isterium yn Vienna, ac yn 1878 gwnaeth cyhoeddiad ei Ddawns-dônau Slafonaidd ef yn un o'r cyfansoddwyrmwy- af poblogaidd yn yr oll o'r Almaen. Y darnau hyn hefyd a'i dygodd ef i syíw gyntaf yn Lloegr, lle y perfformiwyd hwy yn y Palas Grisial y flwyddyn ddyfodol; ond y gwaith a'i cododd i'r ris uchaf yn ein plith oeiid y " Stabat Mater," yr hwn a roddwyd yn y brif-ddinas, Mawrth, 1883, er ei fod wedi ei gyfansoddi cyn belled yn ol ag 1876 ; a pherfform- iwyd ef eilwaith yn ystod yr un mis 0 dan arweiuiad y cyf- • Y mae yr r yn yr enw i'w seinio rywbeth yn debyg iẃy Deheuwyr (" shwt y'ch ch'i), ond ni chwerthina neb deallua ar ben y Cymro a eilw yr enw Vorak, íel ag y gwneir yn gyffredin yn Lloegr. ansoddwr yn Neuadd Albert. Oddiar yr ndeg hono mae yr Ofleren hon wedi dyfod yn dra adnabyddus, ac wedi ei pherôbrmio yn ngwyliau y tri chôr yn Nghaerwrangon, Henffordd.&c, ac nid yn fuan y dilêir yr effaith gafodd arnom pan yn ei chlywed am y tro cyntaf yn y lle olaf—mor newydd, mor naturiol, a mor ddiorchest, a mor llawn o ddefosiwn! Gyferbyn a gŵyl deir-blwyddol Birmingham ysgrifenodd y " Spectrës Ëride;" llwyddiant arall di- gymysg; ac yn ngŵyl Leeds, 1886, dygwyd allan ei oratorio " St. Ludmilla." Yma cyfarfyddodd â siomiant i gryn raddau. Yn y gweithiau addygasant Dvorák benaf i sylw —y DawnB-dônau, y Deuawdau, y darnau otferynol, y " Stabat Mater," y " Spectre's Bride." y cyfansoddwr o Bohemia a neb arall sydd yno—y maent yn "racy of the soil" ac os weithiau parth cynllun yn dangos 61 y bywyd " Bohemiaidd " f u raid iddo ei ddilyn pan yn ieuangc, y maent serch hyny yn feddianol ar rhyw swyn ag sydd yn cario pob peth o'i flaen. Rywsut yn nglŷn â'r-oratorio i Leeds, yn lle bod yn ffyddlawn iddo ef ei hun, ac ysgrifenu yn unol â'i anianawd arbenig, tueddwyd ef i astudio chwaeth dybiedig y Saeson drwy ddilyn arddull Handel a Mendel- ssohn ; ond ni fu erioed fwy o gamgyfrifiad, o herwydd yr oedd Handel a Mendelssohn ganddynt eisioes yn eu gogon- iant, ac eisieu Dvorák oedd yn awr! Pa fodd bynag, tebyg fod y tipyn diflasdod hwnw wedi diflanu erbyn hyn, ac y cawn brif waith oddiwrtho eto cyn bo hir; y mae o dymher hynaws ac yn hoff o Brydain, yn mha le y mae wedi cael llawer o groesaw—ac oarian; yn lle gwerthu cîg, y mae bellach yn byw ar ei ystâd hyfryd ei hun, a gall cyfansoddwyr Cymru (druain o honynt!) freudd- wydio am ystâd gyffelyb, o leiaf! Dỳg Boito ni 0 Bohemia i'r " Sunny South," yn mha le y gwelodd oleuni dydd y 24ain o Chwef ror, 1842, yn Padua; felly y mae ryw ychydig fisoedd yn ieuengach na Dvorák. Ond er ei fod wedi ei eni yn yr Eidal, ac yn Eidalwr o du ei dad, eto boneddiges o Poland oedd ei fam, ac efallai y ceir yn hynyna y rheswm am y cydblethiad happus o'r teithi ar- benig a ystyrir fel yn ddynodol o'r ddau bwynt a'r ddwy hmsawdd—de a gogledd—ydynt yn amlwg yn ei gyfansodd- iadau barddonol a cherddorol; o herwydd y mae Boito yn fardd ac yu gerddor, a mwy na phosibl, pe bâiyn llai o fardd y byddai yn fwy o gerddor. Yn ei 14 mlwydd oed aeth y bachgen i astudio i'r Con- servatorio, yn Milan, ae ymddengys ei fod mor anaddawol yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, fel y buasai wedi ei droi allan onibai fod ei athraw uniongyrchol, Mazzucato, mor ddiysgog o'i ochr. Ar ei ymadawiad a'r athrofa, cydunodd Boito â Franco Faccio, cydysgolhaig iddo, i gynyrchu can- tawd rhyngddynt (yn ol arfer y rhai mwyaf llwyddianus o'r efrydwyr pan yn ymadael), ac enw y darn oedd " Le Sorelle d' ítalia," y farddoniaeth a'r rhan olaf o'r gerddoriaeth gan Boito, y rhan gyntaf gan Faccio. Gymaint oedd llwyddiant y darn, fel y darfu i'r llywodraeth, yn ychwanegol at y bathodau aur, roddi iddynt swm o arian digonol i'w galluogi i dreulio dwy flynedd yn mhrif ddinasoedd Ewrop. Rhan- odd Boito ei amser rhwng prif-ddinas Ffraingc a r Almaen, ac yma daeth i gydnabyddiaeth gyntaf â gweithiau Richard "Wagner; ond ni chollodd " ei ben" yn hyna o fater— edmyga Wagner, a diamheu ei fod wedi dysgu rhywbeth oddiwrtho, ond nid yw yn ei ddilyn a'i ddynwaredu mewn dull gwasaidd ac annynol; cafodd ei wreiddio yn rhy ddwfn yn ysgol Sebastian Bach o un tu, a Beethoven o'r tu arall, i hyny gymeryd lle. Cyn ymadael a'r Conservatorio yr oedd yn wybyddus fod Boito wedi ysgrifenu y farddoniaeth, a chyfansoddi y gerdd- oriaeth i amryw rifynau o opera wedi ei seilio ar " Faust," yr oedd hyn wedi bod ar ei feddwl am flynyddau, ac ani flynyddau cyn i Gounod gyfansoddi ei " Faust;" ond pan gynyrchwyd yr olaf, a hyny gyda'r fath lwyddiant, ac yntau yn teimlo nas gallai byth ddarostwng ei hun i roddi i'w un ef yr unig ffurf a fyddai'n dderbyniol i'r opera Eidalaidd, taflodd yr oll o'r neilldu, a thrôdd ei feddwl at lenyddiaeth. Dyma'r adeg yr ysgrifenodd ei brif delynegion (1861—7)» a'i nofel " L' Alfier Meno;" ymunodd âg eraill i gychwyn newyddiadur, ac yr oedd yn ysgrifenydd mynych a phybyrog i'r cylchgronau, yn gymaint felly (o ran pybyrwch) fel y gorfu iddo ymladd gornest am erthygl ar " Mendelssohn yn yr Eidal," yr hon oedd yn bur llaw-drwm ar yr Eidalwýr. Nid yw yn anmhosibl na fydd raid ymladd gornestion yn Nghymru hefyd—ond nid â chleddyfau na gỳnau!—o du y gŵr nas gallai ddygymod â'r bôdau oeddent yn torsythu, mewn ystyr gerddorol, ar adeg ei ymweliad ef à Rhufain.