Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Hanesion Tramor.. Fenni i Genadwr Llydawaidd Brenhin y Ffrancod, ar ei ymweliad â'r Gylchwyl, 10 o Hydref, 1838." Ar ei ganol, yn llythyrenau Coelbren y Beirdd y raae o Golyddan, bardd o'r 6ed gannrif, " Dybi o Lydaw prydaf y gweithydrì." Yn y gwaelod tu fewn i'r Corn y mae y grisial o Eryri yn ei ddull naturiol, ac yn gerfiedig oddiamgylch iddo, ar yr arian, " Cymru Canieddawc." Gadawyd y cylch arian isaf heb ddim arno, i'r dyben i'r Comte gael ysgrifenu ei enwau a'i ditlau arho. I'r Parch. T. Price (Carnhuanawc) ybu yGymdeithas yn ddyledus am wneuthuriad a chynllun y Corn Hirlas hwn, felydeall- wn. Y trydydd dydd.—Yr oedd y boreu yn oer, a'r cymylau llawnion yn ehedeg dros ben y Fal, gan fynych daenu eu defnynau plyfawg ar hyd y fro. Y cawodydd oerion hyn, yn cael eu gyru gan wynt gogledd- ddwyreiniol llym, a wnai y tywydd yn awchlym iawn, fel yr oedd yn rhaid meddu llawer iawn o gywreinrwydd i yru neb i Westty Sior, tu ol i'r hwn yr oedd yr or- sedd i gael ei chynnal; ac yn fwyaf' nod- edig gan fod pen y lle wrth yr orsedd wedi ei dynu ymaith, yr hyn oedd yn angen- rheidiol er cadw y ddefod yn " ngwydd haul a Hygad goleuni." Oddeutu un-ar- ddeg o'r gloch daeth y Comte de la Vüle- marque, a dau o'i gydwladwyr i mewn i'r lle, y rhai a groesawid gan aríloeddiadau mawrion. Wedi canu â llais ac â thelynau, daeth Cawrdaf yn mlaen a safodd yn nghanoly cylch, yr hwn a wnaethid â deuddeg o gerig bychain, âg un lled fawr yn y canol. Yr oedd efe wedi ei wisgo â gwisg wen laes, ac ymylau ei llewis wedi eu haddurno â rhes o liw porphor, am ei wasg yr oedd gwregys llydan o borphor wedi ei amgylchu â rhidens, a thros ei ysgwyddau y deuai rhimyn llydan o sidan glas, gyda seren euraidd yn crogi wrtho. Ar ci ben y gwis.íjai gap o felfed porphoraidd. a chylch euraidd llydan oddiamgylch iddo, a choron euraidd ar ei gwrr isaf; yr oedd yn nhraed ei hosanau, (canys ni oddefir i neb ddyfod yn ei es^id au i'r cylch cysegredig.) Är y gareg yn y canol y gorphwysai y cleddyf yn ei wain, yr hon a orchuddiasid â rhuban glas. Ymafiodd Cawrdaf yn y cleddyf, ac wedi myned drwy y ddefod angenrheid- iol, gofynodd, " Pwy sydd yma wedi der- byn gradJ Bardd CadeiriawgT' pan y Öaeth Ioan Tegyd a Rhydderch Gwynedd i fewn i'r cylch, pryd y gafaelodd y cyntaf yn ngharn y cleddyf, ac y tynodd y ddau olaf y wain oddiam dano ; yna gafaelodd yn Uafn y cleddyf, agofynodd, " Pwysydd yma y ymofyn gradd bardd yn ol bramt a defod Beirdd Vnys Brydain'?" Yna arweiniwyd y Comte de la Villemarque, Cenadwr Brenhin Ffrainc, i mewn yn ben- noeth ac yn nhraed ei hosanau, a chan fod gan y gorseddogion ddigon o brawf o'i alluoedd barddonol, ni oí'ynasant iddo ne- mawr o ofyniadau. Gafaelodd y prif-fardd yn ei law a'i law chwith, a chan mai yn llafn y cleddyf yr ymaflai, rhoddodd y carn yn llaw yr hwn oedd yn cael ei urddo, a chan ddy weyd os oedd gan neb ddim i'w ddy wedyd yn erbyn i'r Comte de la Viüe- marque dderbyn gradd Bardd, mewn ym- ddygiad, gwybodaeth, neu foes, &c. &c. yr hyn a luddiai iddo fod yn Fardd yn ol braint a defod Beirdd Ynys Brydain, am iddynt fynegu. Wedi aros ychydig am ateb, mynegodd Cawrdaf fod pob un yn unol, ar hyny urddwyd ef yn Fardd yn ol braint a defod Beirdd Ynys Brydain, dan yr enw Bardd Nizon, (Bardd fy Ngwlad,) a thyngedwyd ef i beidio tynu cleddyf i dywallt gwaed ; rhwymodd loan Tegyd a Rhydderch Gwynedd ysnodenlas am ei fraich, athraddodasantenglynioniddo wrth wneyd hyny. Wedi hyny urddwyd Iago Emlyn, Sion Llwyd, (Syllwg,) a Nathan Dyfed, (Jonathan Reynolds,) yn Feirdd ar brawf a holiad yn ngwydd haul ac yn llygad goleuni. Ar ol cyhoeddi gorsedd yn mhen un dydd a blwyddyn, rhoddwyd y cleddyf yn y wain gan y gorseddogion; a daeth y Comte de la Villemarque yn mlaen a gwnaeth yr araith ganlynol yn y Llyd- awaeg, yr hon a ddeallai y rhan fwyaf o'r Cymry oeddynt yn bresennol: " Wrth adael y cylch eyfrinol hwn o geryg, Ue y bu Taliesin, Heng, a Myrddin, yr anfarwol Feirdd, o'm blaen, y lle yr wyf newydd gael fy urddo i'w cyfrinion, nid allaf attal fy nheimlad dwys—math o argraph grefyddol!—nid am fy mod yn ofni y bydd i mi dóri yr adduned a wnaethum ar y cleddyf noeth a ddaliai y prif-fardd yn ei law, na ato Duw ! Dra- chefn, y tyngaf i ymroi i gynnyddu mewn barddoniaeth, i garu fy Nuw, fy ngwlad, a rhyddid, hyd angeu. Hyd farw y bydd i mi goleddu cariad gwresog at ein hen arfer- ion gynt, ac ymdrechaf i'w cynnal a'u hamddiftyn yn erbyn pob ymosodiad. O na, nid oes arnaf un ofn y bydd i mi fradychu adduned y galon, ni fyddai hyny ond bradychu fy hunan; y mae drych- feddwl wedi fy nal a'm llenwi ag ofnau.— Ysbrydion gogoneddusyr hen feirdd a ym- rithiant o flaen fy llygaid, ac yn ddifrifol a ofynant i mi, Pa beth a wnaethum i i deil- yngu gwisgo eu lliw cyssegredìg 1 Och! ni wnaethym ddim hyd yn hyn. Ond yr wyf yn coleddu yn fy enaid fwriad ýr hwn a wna i ysbrydion yr ymadawedig lawenychu, os ydynt eto yn sylwi ar waith marwolion. Myfi eto a adeiladaf deml, o'r hon yr wyf yn barod wedi gosod y sylfaen. Yn Llydaw yr wyf wedi de- chreu cas^lu darnau gwasgaredig yr hen ganau oedd bron wedi eu difa â rhwd an- nghof, a thr , y hyny wneyd barddoniaeth i'w hanrhydedd a'u gogoniant; yr hwn a gyflwynttf i Lydaw, i Gymru, i holl Ew-