Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Shif. XXVI. CHWEFBOlí, 18 4©. Cyf.HI. 25ttcpraetf)0'îfaetf}. GOPIANT ROGER WILLIAMS, TRA ENWOG SYLFAENYDD TALAITH YNYS EHODE. (Parhad o'r d» dal. 3, Cyf. III.) Ymddengys mai y lle cyntaf y trodd Mr. Williams am gymhorth, wedi ei alltudio,oedd at Ousamequin, neu MassasoiÊ, am yr hwn y soniwyd yn flaenorol; gan yr hwn y derbyn- iodd ddarn o dir, o du dwyreiniol yr afon Pawtucket, (Seekonk yn awr). Yr oedd y rhandir yma o fewn terfynau trefedigaeth Plymouth, eithr ni chyfrifai Mr. W. neb yn wir berchenogion arno ond yr lndiaid trigiannol. Am ei gynhaliaeth mae yn rhaid ei fod yn ym- ddibynu yn hollol ar yr Indiaid y pryd hwnw. Y tymhor hwn nid oedd hela na physgota yn ddichonadwy, pe buasai ganddo offerynau addas at hyny. Yr oedd y ddaear wedi ei gorchuddio â throedfeddi o eira, gan hyny nis gellai chwaith gaelgwreiddiaubwytadwy. I'r fan yma y daeth ato ychydig o'i hen gyfeill- ion, gan obeithio cael mwynhau llonyddwch. Ond dilynodd ysbryd erlidigaeth hwynt—a chynghorwyd Mr. Williams, yn garedig, gan Lywodraethwr Plymouth, i ymfudo i'r tu arall i'r afon, lle yr oedd yr anialwch yn rhydd o'i flaen, rhag ofrí y canlyniadau. Barnwyd yn well gwrandaw ar y cynghor hwn, ac efe,,yn nghyda thri eraill, mewn canoe, a fudasant i lawr yr afon, ac a diriasant yr ochr arall ger aber y Moshassuck. Yma y dechreuwýd sef- ydliad Talaith Ynys Rhode. I'r dref a adeil- adwyd yn y fan hon, rhoddodd Mr. Williams yr enw Providence, (Rhagluniaeth,) mewn coffadwriaeth barchus o dynerwch Rhaglun- iaeth Ddwyfol tuag ato, a'i ymddiried ynte ynddi yn ngwyneb ei amgylchiadau a'i gyf- yngderau. Yr oedd y fan yma o féwn rhandir yr In- diaid Narragansaidd. Cafodd Mr. W. ddarn helaeth o dir ganddynt, fel y gwelir mewn hen weithred o dan arwyddion eu dau benaeth, sef Canonicus a Miantinomo, yn y rhai y dy wedir eu bod yn gwerthu y tir i Mr. W. Y tir yma, Cyf. III. 5 a roddwyd iddo ef, a ranodd yntau rhwng deuddeg o ddynion a'i canlynasent, gangadw iddo ei hun ddim ond yr un faint ag a ganitäai i bob person arall. Ymddengys mai ei ddyben cyntefig wrth ddyfod i blith yr Indiaid, oedd dysgu eu hiaith, er euhaddyägu mewn pethau ysbrydol; ond yn ngwyneb yr amgylchiadau penderfynodd drefnu yr hyn a ennillodd trwy fFafr yr lndiaid, i fod yn ddinas noddfa i dd y nion dan erlidigaethau, ac i ganiatau rhydd- id crefyddol i bawb o bob daliadau. Hawdd iawn fuasai iddo ef arferu Llywodraeth Un- benawl ar ei drefedigaeth—ond efe a'i syl- faenodd ar egwyddorion Gweriniaeth bur, yri Gyíì'redin-lywodraeth, lle y byddai y'r holl allu yn n wylaw y bobl, a Duw ei hun yn unig Lywodraethwr ar gydwybodau y dinasydd- ion. Mae ỳ'n debyg iddo adeiladu ei dŷ ger llaw y fan y tiriodd, lle yr oedd ffynhon yr hon a elwir wrth ei enw hyd y dydd hwn. Yma y cafodd lonyddwch am yspaid. Dyma y lle y cartrefodd dros ddeugain mlynedd—ac yn ymyl ei dŷ y gosodwyd ei gorph i falurio yn llwch y bedd. Rhÿfedd y cyfnewidiad yn yr ardal—yn awr mae dinas fawr yn cynnwys uwchlaw 20,000 o eneidiau, lle nad oedd y pryd hwnw ond ychydig o fythod Indiaidd gwasgaredig. Mewn yspaid dwy flynedd yr ôedd teulu ein gwron wedi lluosogi trwy ddy- fodiad amrai o'i hen gyfeillion o Massachu- setts, ac ymfudwyr o Ewrop; hefyd yr oedd wedi cael ei wraig a'i blant ato erbýn hyn. Er fod Mr. W. yn gochelyd unrhyw gaeth- iwed ar ddaliadau crefyddol ei gyfetllion a'i gyd-drigiannwyr, eto yr oedd yn ofalus am yr heddWch gwladol, fel yr ymddengys yn yr ymrwymiad canlynol, arwyddo pa un oedd yr unig ammod gofynedíg gan ddyfodiaid ne- wyddion: ' Yr ydym ni, y rhai y mae ein henwau isod, gan ein bod yn dewis trigiannu yn nhref Providence, yn addaw darostwng ein hunain mewn ufydd-dod gweithredol neu oddefol, i bob math o drefniadau a phender- fyniadau a wneir er lles cyffredin y corph, mewn modd trefnus,trwy gydsyniad gornifer y trigolion presennol, penau teuluoedd, wedi cydymgorphori yn dref-gordd, a neb eraill a dderbynir i'r cyfryw undeb, mewn pelhau gwîadol ynunig' Dyma yr hedynbychano werin-ly wodraeth a rhyddid crefyddol yn cael