Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Rhif. XXIX. MAI, 1840. Cyf. III. Bucpraftîjoîiaet^, COPIANT FPRANCIS LEWIS, CYMRO O GYMRU : UN 0 ARWYDDWYR DADGANIAD ANNIBYNIAETH Y TALEITHAU ÜNAWL. &c. Yr hyn. sydd yn gwneuthur y buchdraeth yma yn anarferol o werthfawr yw, ei fod wedi ei arolygu yn fanwl, a'i gymeradwyo, gan unig fab goroesawg y gwrthddrych, sef y Cadfridog Morgan Lewis—y r hwn hefyd a ysgrifenodd ran fawr o'r hanes, yn yr iaith arall á'i law ei hun; ae a ychwanegodd amrai o sylw- nodau a dygwyddiadau perthynol, na fuont yn argraíF- edig erioed o'r blaen mewn unrhyw iaith, y rhai a gorffolir yn y Cofiant hwn,—Amlygaí y Cadfridog hy- bareh foddhâd mawr wrth weled y ' Cyfaill o'r Hen Wlad ;' ae yn ewyllysgar iawn y rhoddai bob eyn- northwy er rhestru enw a choffadwriaeth ei glodfawr dad yn mhlith yr enwogion Cymreig a addurnant Gyhoeddiad Cymry America. C, N. Daniel L. Jones. Ganwyd Ffrancts Lewis yn Llandâf, swydd Porganwg, Deheu-barth Cymru, yn y flwyddyn 1713. Yr oedd ei dad yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig, yn yr ardal hono. Yr oedd ei fam yn ferch i Dr. Pettìngal, yr hwn hefyd oedd yn offeiriad yn y sefydliad esgobaethawl, ac a drigiannai yn swydd Gaernarfcn, Gogledd Cymru. Efe oedd yr Unig blentyn, a chafodd ei amddifadu o'i rîaint pan yn bedair neu bum' mlwydd oed. Cymer- "Wyd ei ofal o hyny allan gan fodryb iddo o ochr ei fam, merch weddw, o'r enw Llewelyn, yn byw yn swydd Gaernarfon, yr hon a fu yn llafurus i'w addysgu yn iaith briodol ei wlad, sef y Gymraeg. Anfonwyd ef wedi hyny i Scotlaní, líe mewn teulu perthynas, y ^ysgodd iaith brodorion y wlad hono. Oddi- yno trawsfudwyd ef i Ysgol Westminster, gan ewythr iddo, deon Eglwys St. Paul, ac yno y cwblhaodd ei ddysgeidiaeth ; a chafodd y cymeriad anrhydeddus o fod yn ysgolor awdurol da. Gan mai gorchwylion masgnachawl oedd- y^t ei hoffder, glynodd wrth fasgnachydd yn ^lundain, gyda'r hwn, yn mhen ychydig o iynyddoedd, y cyrhaedáodd wybodaeth gym- ^wys i'w alwedigaeth. Pan yn un-mìwydd- Cyp. III. 17 ar-hugain oed, cynnullodd yn nghyd y meddiannau a adawsid iddo gan ei dad, ac wedi eu troi yn ddefnyddiau masgnachawl, arhwyìiodd tua Chaerefrog-Newydd, Ue y tir- iodd ynNgwanwyn y flwyddyn 1735. Wedi gadael rhan o'r däoedd i'w gwerthu yn y ddinas hon, gan Mr. E. Annesley, à'r hwn y ffurfiasai gyssylltiad masgnachawl, dygodd y rhelyw i Philadelphia, o ba le, yn mhen y ddwy flynedd, y dychwelodd i'r ddinas flaen- af: ac yma y dilynodd fasgnach Gartrefol a Phellenig fawr ac ehang. Mehefin 15fed, 1745, ymunodd mewn priod- as âg Elizabeth Annesley,* chwaer y bonedd- ig uchod-—Tarddodd o'r undeb yma saith o blant, pedwar o ba rai a fuant feirw yn ieu- aingc. Bu y tri ieuengaf fyw nes bod yn rhîaint cppil lluosog. Y Cadfridog Morgan Lewist oedd yr ieuengaf o'r tri hyn—a'r unig un sydd yn fyw yn awr. Priododd chwaer iddo âg un G. Robertson, cadben yn y Llynges Brydeinig, yr hwn a fu farw yn Lloegr: y cyfryw o'u heppil ag ydynt fyw yn awr a bre- swyliant gan mwyaf yn Scotland. Enw y lla.ll, sef yr hynaf o'r tri hyn, oedd Ffrancis, yr hwn a fu farw yn y ddinas hon. Ennillodd Mr. Lewisycymeriad o fasgnachydd bywiog * Edward Annesley, a'i chwaer Elizabeth, gwraig Mr. Lewis, a ddaethant yma o swydd Fôn, Gogledd Cymru, yn y fl. 1725, ag oeddynt ddisgynyddion o deulu anrhydeddus Arthur Annesley, Iarll Môn, ac Arglwydd y Gyfiin Sel yn nheyrnasiad Siarles II. (Gwel Camden Britannia, Cyf. II., t. d. 812.) D. L. Jones. f Yr oedd y Cadf. Morgan Lewis yn brif-gadfridog, o ben-cadbeniaid (staff) byddin yr Unol Daleithau, gyda y Cadf. Gates, pan y rhoddwyd i fyny y fyddin Brydeinig gan y Cadf. Burgoyne iddynt yn Saratoga yn 1777, ac efe a dderbyniodd y cleddyf o law Bur- goyne ; darlun o'r hyn a welir yn y Prifle yn Wash- ington. Bu y Cadf. L. hefyd yn Yngnad (Justice) yn y Llys Uchelaf am wyth mlynedd, acyn Brif-Yngnad am bedair blynedd. Gweinyddodd hefyd y swydd o Lywydd Cyffredinol i'r Gymdeithas Cincinnataidd. Wedi hyny dewiswyd ef yn Llywiawdwr Talaith Caerefrog-Newydd, bedair blynedd, sef o 1804 i 1808. Y mae yn bresennol yn Llywydd ar ' Gymdeithas Budd. a Haelionus Dewi Sant,'yn y ddinas yma, ac efelly y mae wedi bod er dechreuad y Gymdeithas hono, yn y flwyddyn 1835. Y mae yn awr yn ei 86 flwyddyn 0'i oedran.