Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Rhif. XXX. lEHEFIN, 1840. Cyf. 112. îSttcpraetíjoîraetì), COFIANT LEWIS MORRIS, O Morrisania, O. iY., CYMRO O WAEDOLIAETH : UN 0 ARWYDDWYR DAD- GANIAD ANNÌBYNIAETH Y TALEITHAU UNAWL, &c. GAN DANIEL L. JONES, C. N. Yr oedd teulu gwrthddryeh y Coíìant hwn, yn dra enwog yn rhandir Caerefrog-Newydd trwy amrai génedlaethau; nid yn unig oblegid eu meddiannaumawrion,ondhefyd, oherwydd y rhan a gymerent meWn achosion y Cyffredin, â'u dawn, a'u cymeriad anrhydeddus yn cyf- îenwi sefyllfaoedd uchel. Ychydig o ddynion yn y wlad yma sydd yn ^ieithrin hysbysrwydd achawl, nac yn teimlo °nd chwilfrydedd bychan o barthed eu hyn- afiaid. Dygwyddai, er hyny, i'r teùlu yma Çadw hanesyddiaeth gyflawn o'u hachwedd, {pedìgree,) trwy yr hyn yr olrheinir eu dis- gyniad yn brofedig i hynafiaid o hyglodedd ■ttawr, yn mhlith yr Hen Gymry. Yr enw Morris, nid annghyfFredin yr\ awr, sydd lygriad, mae yn debyg, o Maẅf-Rhýs, enw a roddwyd i Rhys Fitzgerald, yr hwn öedd yn flaenor Cymröaidd,* yn yr ymosodiad ar yr Iwerddon, yn nheyrnasiad Harri II. Y ^fenhin, wedi galw Rhys oddiwrth ei ores- Syniadau yn yr íwerddon, a chymeryd medd- lant o honynt ei hun, a rhoddodd iddo ef yn *le hyny etifeddiaeth ehang yn Nghymru, lle yblagurodd y teulu droslawero genedlaethau, ^edi gadael heibio yr enw Fitzgerald, a chy- ^eryd yr enw Mawr-Rhys, o'r hyn y daeth Morrìs. Yn yr I7eg gannrif, yr ydym yn cael fod ^sgynÿddion R'hys Mawr yn bohl gyfrifol ýn SeeGwilym's Heraldrỳ, and Gibson's Camden Bri- ta*"iia, vol. iie pp. 1321, 1333—35—36, and Brand's Po- pu ar Antiquities, chap. 14., &c, and Saunderson's Bio- Sraphy 0f the Signers of the Declaration of Indepen- ence, vol. ix. p. 120; also, Richàrd Morris, of Morris- ao,*'s Pamily Record. D.L. ^; Cyp. III. 2\. Swydd Fynwy, ac a elwid Maurice, ac weith- iau Morrice. Cymerai rhai o honynt ran yn y rhyfeloedd cartrefol; ac yr oedd un o honynt, Richard Morris, yn flaenor en wog yn myddin- oedd Cromwell. Gan ei fod yn anfoddlawn i sefyllfa pethau tuag amser yr adferiad, daeth oddiyno i Bar- badoes, a chan ymfudo oddiyno yn fuan wedi hyny i Gaerefrog-Newydd, prynodd ddarn fawr o dir, ger Harlaem, o fewn ychydig filltir- oedd i'r ddinas; ac wedi cael caniatâd y Llyw- iawdwr Fletcher, sefydlodd ei etifeddiaeth, o fwy na thair mil o erwau, yn faenawr, dan yr enw Morrisania, wedi ei chynnysgaedduâholl freintiau arferedig maenawr. Bu farw yn y flwyddyn 1673, gan adael unig blentyn a elwid Lewis—baban yr amser hwnw—yr hwn a ddaeth, wedi hyny, yn Brif Ynad Talaith Caerefrog-Newydd, a Llyw- iawdwr Jersey Newydd ; ac i feddiannu dylan- wad mawr, a pharch nid cyffredin yn y ddwy drefedigaeth. Yn yr oes ganlynol yr oedd meibion y Lewis hwn yn llenwi y sefyllfaoedd dyrchafedig o Farnydd yn Llys y Rhag-Iyngeswriaeth, Prif Ynad yn Jersey Newydd, a Rhag-lywiawdr yn Mhennsylvania.—Un o'r rhai hyn, Lewis Morrìs^—y Barnydd—oedd tad y gwladgarwr Americanaidd Buch-draeth yr hwn yr ydwyf wedi ei gymeryd mewn llaw y tro yma. Lewis Morris, gwrthddrych y Cofiant hwn, á anwyd yn Morrisania, yn y flwyddyn 1728, ac yr óedd yn hynaf o dri o frodyr, o ba rai, un, Staats, ydòedd yn gadfridogyn y gwasan- aeth Prydeinig, ac yn aelod o'r Seneddr; yr oedd Richard yn Farnydd yn y Môr-lys á Phrif-Ynad Talaith Caerefrog-Newydd: a'i hanner brawd, Gouverneur, a enwogodd ei hun fel areithiwr, ac fel Aelod o'r Eisteddfod, (Congress.) Cafodd Lewis y ddysgeidiaeth arferol i feibion boneddigion, yn yr oes hono, yn ìeu- angc. A phan yn 16 ml. oed, anfonwyd ef i Goleg Yále, lle, dari ofal y dysgedig a'r duw- iol Dr. Clap,y dysgodd yr ieithoedd gwreidd- iöl, yn nghydâ Rhifyddiaeth; a chynnys- gaeddwyd ei feddwl yn foreu â gwersi o foes- oldeb a chrefydd. Wedi derbyn y gradd o Wyryf yn y Cel- fyddydau, ya 1746, dychwelodd i'w dreftad«