Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. JRbif. XXXI. aOBPHËNAF, 1S40. Cyf.HI. 23ucpraeíî)0îíaeííj, COPIANT WILLIAM FFLOYD, CYMR0 O WAEDOLIAETH : DN 0 ARWYDDWYR DAD- GANIAD ANNIBYNUETH Y TALEITHAU ÜNAWL, &c. GAN DANIEL L. JONES, C. N. William Ffloyd, yr hwn oedd y cynnrych- iolydd cyntaf o Gaerefrog-Newydd, a arwydd- odd Ddadganiad yr Annibyniaeth, a anwyd ar yr Ynys Hir, yr 17eg o Ragfyr, 1734. Enw ei dad oedd Nicoll, a'i daid, Rich. Ffîoyd, yr hwn aymfudodd o Gymru* tua'r fiwyddyn 1680, eithr nid yw yn wybodus o ba barth o Gymru. Yr oedd ei dad yn diriogydd cyfrifol a chyfoethog, yr hwn a fu farw pan nad oedd gwrthddrych y Cofìant hwn ond ieuangc, gan ei adael ef i fwynhau etifeddiaeth ëang a gwerthfawr. Ennillwyd teimladau Mr. Ffloyd yn gynnar o blaid y Trefedigaethau yn achos yr amrafael â Phrydain Fawr; ac etholwyd ef yn gyn- nrychiolydd dros Gaerefrog-Newydd yn yr Eisteddfod Gyfandirawl gyntaf, yr hon a gyf- arfu yn Philadeiphia, Medi 5ed, 1774. De- "Wiswyd ef yn aelod o'r unrhyw gorffanrhyd- eddus y fiwyddyn ganlynol—ac felly a barha- odd hyd Ddatganiad yr Annibyniaeth. Ar yr achlysur hwnw cynnorthwyodd i ddattod y cyìymau oeddent wedi uno y Trefedigaethau â'r Llywodraeth Brydeinig, gyda gwroldeb a brwdfrydedd Cymröaidd. Dyoddefodd, fel amrai eraill, golledion per- sonol mawrion tra yn cyflwyno ei hun at was- anaeth y cyffredin. Pan yr oedd efe oddicar- tref yn Phüadelphia, gorfodogwyd ei deulu i ffoi i Connecticut, a chymerwyd meddiant o'i gartref gan filwyr Prydeinig. Gwnawd ei àỳ yn gynniweirfan i lu o feirchfilwyr dros weddill y rhyfel. Efelly bu Mr. Ffloyd a"i deulu, am yn agos i saith mlynedd, yn fföad- Uriaid o'u hanneddle, ac heb dderbyn dim oddi- "Wrth gynnyrch y tir am yr holl amser. Yn 1777, gwnawd y Cadfridog Fíloyd (yr Çedd wedi derbyn teitl milwraidd yn ei osod- lad i lywyddu milwyr cartrefol yr Ynys Hir ryw bryd cyn hyn) yn SeneddwrdrosDalaith Gwel History ofLong Jsland, and Family Records. Cyf. III. 25 Caerefrog-Newydd, dan y cyfansoddiad new- ydd. Ac o hyny hyd ddiwedd ei oes cafodd ei ddyrchafu i amrai o swyddau uchaf ei dal- aith, y rhai a gyflenwid ganddö gyda bri a chymeradwyaeth cyffredinol. Yn 1784, prynodd ddarn fawr o dir—an- nghyfannedd y pryd hwnw—ger yr afon Mo- hawk,* ac wedi arloesi a diwyllio digon i wneyd tyddyn cysurus, yn y flwyddyn 1803 symudodd yno i drigiannu. Er ei fod y pryd hwn mewn gwth o oedran, eto, o herwydd ei iechyd rhagorol, yr oedd yn meddu ar fywiog- rwydd a nerth m\vy na llawer ieuangach. Mwynliâodd iechyd anarferol o dda hyd o fewn i flwyddyn neu ddwy i'w farwolaeth—a pharháodd cynneddfau ei feddwl yn ddiadfail hyd y diwedd. Ychydig cyn ei farwolaeth, ymosodid arno gan eiddilwch cyffredinol, yr hwn a barhäodd i gynnyddu nes o'r diwedd ddiffodd llusern bywyd naturiol. Cymerodd y dygwyddiad hwn le ar y 4ydd o Awst, 1821, pryd yr oedd wedi cyrhaedd yr oedran annghyffredinol o saith-mlwydd-a-phedwar- ugain. Yn ei berson yr oedd y Cadf. Ffloyd o gorpholaeth cyffredin. Meddai urddas natur- iol, yr hyn a ganfyddid gan unrhyw gyfeill- ach i ba un yr elai. Yr oedd y cynlluniau a gynhygid neu a gefnogid ganddoef yn gyfryw ag y byddai rheswm a barn yn sicr o'u cymer- adwyo; ac ar ol unwaith benderfynu, yn an- fynych y ca'i achos i gyfnewid ei benderfyniad. Yr oedd cymeradwyaeth ei gyfoedion o hono yn amlwg, trwy eu bod wedi ei anrhyd- eddu dros 50 mlynedd â swyddi o ymddiried a chyfrifoldeb. COPIANT Timothy Gripfith, Ysw., Steuben, Simjdâ Oneida, Caerefrog-Newydd. Ar ol ymadawiad ein hanwyl gyfaill, Mr. Timothy Griffith, tybiasom mai da fyddai gan lawer gael ycbydig hanes yn fyr o'i daith ddaearol, mewn cyssylltiad â hysbysiad am amgykhiadau nodedig ei farwolaeth. Yr oedd cylch ei gydnabyddiaeth yn eang, ei berthyn- * Y mae o fewn swydd Oneida. Gelwir y plwyf a'r gymydogaeth ar ei enw, sef Ffloyd. Mae yno yji bre- aenaol ugeiniau o Gyrary, a dau gapel Cyrareig.