Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Rhif. XXXII. AWST, 184©. ' Cyf. III. îSucpr artíjoîí aetíj, COFIANT WILLIAM WILLIAMS : CYMRO 0 WAEDOLIAETH : UN O ARWYDDWYR DAD- GANIAD ANNIBYNIAETH Y TALEITHAU UNAWL, &c. GAN DANIEl, L. JONES, G. N. Ganwyd gwrthddrych y Cofiant hwn yn Lebanon, swydd Windham, Connecticut, ar yr 8fed o Ebrill, 1731. Disgynai o deulu Cymreig enwog, canghen o'r hwn a ymfudodd i America yn y flwyddyn 1630, ac a sefydlas- ant yn Roxbury, Mass. Ymddengys i'w hendaid fudo yma o swydd Forganwg, Cym- ru, yn nghyfeillach Thomas Hopltins, (y gwr hwn a briododd ferch Mr. Benedict Ar- nold, Llywiawdwr cyntaf Ynys Rhode,) o Gaerdydd, yn yr un Sîr. Yr oedd ei daid, William Williams, yn Weinidog yn Hatfíield, swydd Hamps, Mass., a'i dad, y Parch. Solo- mon Williams, D. D., a fu am yr yspaid maith o 54 mlynedd, yn fugail ar y Gymdeith- as Gymiulleidfaol gyntaf yn Lebanon. Yr oedd efe yn ddyn o synhwyr a dysgeidiaeth, a thra chymeradwy gan ei gyfoedion. Efe a briododd Mary Porter, o Hadley, Mass., merch y Milw. Porter, yr hwn oedd ar yr amser yn sîrydd swydd Hamps. Yr oedd ei deulu yn fawr, yn cynnwys pump o feibion a thair o ferched, y rhai gan fwyaf a gyr- haeddasant oedran mawr. Cafodd ei feibion fanteision dysg awdurol: pedwar o honynt yn Ngholeg Yale, a gwrthddrych y Cofiant yma, yr hwn oedd ei bedwerydd mab, yn Ngholeg Harvard. Daethant oll yn ddynion cyfrifol a defnyddiol. Bu farw Solomon, yr ftynaf, yn ieuangc: 'bu Elephalet yn Weinidog yr Efengyl yn Hartffbrd Ddwyreiniol am tua 50 mlyaedd: bu Ezekiel yn sirydd swydd Hartfford am fwy na 30 mlynedd, ac yr oedd yn nodedig am ei ymdrech a'i fywiogrwydd y» ystod y rhyfel chwildröadawl: ac a adaw- °<ìd deulu lluosog. Yr oedd Thomas, y mab leuengaf, yn feddyg yn Lebanon, teilwng a Cyf.III. 29 pharchu3 yn mhlith ei holl geraint a'i gydnab- yddiaeth.* Ond i ddychwelyd at William Williams,— fel y crybwyllwyd, derbyniodd ei ddysg yn Ngholeg Harvard. Aeth yno pan yn 16 ml. oed, ac a ddarnododd ei hun mewn diwyd- rwydd, ac, ar yr amser priodol, cafodd ei raddoli {graduate) yn anrhydeddus. Wedi dychwelyd adref, ymgyflwynodd dros gryn amser at fyfyrdodau duwinyddaẅl,dangyf- arwyddyd eidad. Yn Medi, 1755, wrth ben Llyn Siôr, ym- laddwyd brwydr enwog rhwng y byddinoedd Trefedigaethawl, yn cael eu cynnorthwyo gan gorph o Indiaid, a chorph o Ganadiaid Ffrangcaidd ac Indiaid. Yr amser hwn, yr oedd y Milw. Ephraim Williams,tperthynas i wrthddrych ein Cofiant, yn llywyddu byddin o'r Trefedigaethwyr, gyda pha rai yr oedd yn gweithredu yn y frwydr uchod, a Williams yn un o'i brif swyddwyr. Yr oedd y Milw. Wilhams. yma yn swyddog cyfrifol iawn. Pan ar ei daith trwy Albany i'r frwydr uchod, gwnaeth ei ewyllys, trwy yr hyn y sefydlwyd Coleg rhydd ar ei enw yn Massachusetts, sef Coleg Williams. Saethwyd ef yn y frwydr hono trwy ei ben gan Indiad fel y bu farw. Yn fuan ar ol marwolaeth y Milw. Wil- liams, dychwelodd gwrthddrych ein Cofiant i Lebanon, Ue y penderfynai gartrefu. Yn 1756, pan yn 25 oed, dewiswyd ef yn ysgrifenydd tref Lebanon, yn yr hon swydd y gweinyddai am 45 mlynedd, Tua'r un am- ser, neillduwyd ef i gynnrychioli y dref yn Nghynnulliad Cy&cà.mo\{General Assembly) Connecticut. Yn y swydd olaf, gweinai am flynyddoedd lawer yn ol-yn-ol, a Uenwai, nid yn anfynych, a phob ams«r gyda bri ac an- rhydedd, gadair y Cymhedrolwr. * See History of Massachusets, and Historical Col- lection of Connecticnt; aíso, Saunderson's Biography of Signers of the Declaration of Independence, vol. iv.p. 87. í Colonel Ephraim Williams, founder of Williams' College, at Williamstown, in Massaehusetts. From him the College and the Town iboth derive their names.—See College and Town Records.