Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Rbif. XXXVI. BHAŴFTR, 184©. Cyf. III. iSttcpraetpîraetî), COFIANT AMRAI GYMRY 0 WAED0LIA ETH, ARWTDDWYR DAD- GANIAD ANNIBYNIAETH YR UNOL DALEITHAU. (Parhad o du dal. 322.) GAN DANIEL L. JONES, C. N. XIII. ARTHITR MIDDLETON. Ganwyd Arthur Middleton ar y 26ain o Fehefin, 1743, yn nhŷ ei dad Henry Middle- ton, yn mhalas Middleton, ar lan yr afon Ash- ley, Carolina Ddeheuol. Yr oedd ei hendaid, Edward Middleton, yn Gymro genedigol, a bu yn Faer ar dref Caerfyrddin, dan y Fren- hines Elizabeth, yn y flwyddyn 1582-3. Daeth ef a'i fab Arthur, taid gwrthddrych y Cofiant hwn, i America, a sefydlasant yn y Dalaeth uchod. Maent o'r un teulu a'r ath- ronydd enwog Syr Hugh Middleton, Cymro o swydd Ddinbych, yr hwn a ddygodd yr Afon Newydd i Lundain, ar yr hon y mae wyth gant o bontydd. Yr oedd mam gwrth- ddrych yCofiant hwn hefyd ynGymraes, unig blentyn rhîeni Cymreig cyfoethog o'r enw Williams. Cafodd A. M. ei ddysgeidiaeth yn Westminster a Chaergrawnt,lle y graddiwyd ef yn Wyryf yn y Celfyddydau; ac wedi teithio trwy Loegr a Chyrnru, dychwelodd i'w Dalaith frodorawl, a phriododd ferch Walter Izzard, Ysw., a bu iddynt wyth o blant.—Bu ei fab hynaf yn Lly wiawdwr y Dalaith ddywededig o 1811 i 1820.—Dewis- wyd ef i'r Eisteddfod Gyfandirawl dros ei Dalaith yn nhymor yr ymdrechfa am ryddid; a gwelirei enw ar y freinnlen a dòrodd yr iau Prydeinig.—Wedi llenwi llawer o swyddau uchel, hunodd yn yr angeu ar y laf o Ionawr, 1787. XIV. BÜTTON GWINNETT, Cymro o enedigaeth yn gystal a gwaedoliaeth. Ganwyd B. Gwinnett yn agos i Fargam, swydd Forganwg, Cymru, ar y 14eg o Fai, 1732. Yr oedd o deulu cyfoethog iawn. Daeth ei frawd i feddiant o Hen Gastell Penllîn trwy ei wraig.—Gwrthddrych ein Cofiant, wedi priodi, a symudodd i Gaerodor, {Bristol), ac oddiyno, yn mhen rhai blynyddoedd, ymfud- odd i America, ac a ymsefydlodd yn Charles- ton, Carolina Ddeheuol. Yn mhen dwy flyn- edd ymadawodd oddiyno, a phrynodd ddam fawr o dir yn Nhalaith Georgia; a thros y Dalaith yma yr oedd yn gynnrychiolydd pan y cafodd y cytle a'r anrhydedd o osod ei enw wrth y Dadganiad.—Bu yn llenwi amrai o swyddi uchel hyd ei farwolaeth, yr hyn, mae yn ddrwg genyf hysbysu, a gymerodd le mewn canlyniad i glwyf a gafodd pan yn ymladd ornest (dueí).—Bu farw Mai 27ain, 1777. . 1 YGwir YN erbyn y Byd."—Wrth ganfod bod 14 o G^ymry, neu eu disgynyddion, allan o'r56 ag oedd yn gwneyd ifynyy corph anrhydeddus a gyfansoddorld Eisteddfod 1776, yrwyfyn teimlo yn orlónus, gan feddwl i Gymru gael ei chynnrychioli yn enwog, ar yr achlysur bythol-gof hwnw, a roes fodoliaeth i'r wlad hon fel Tir Rhyddid. D. L. J. DAH&ANIAD O AWNIBYNÎAETH: Yn yr Eisteddfod, Gorph. 47dd, 1776. DADGANIAD UNFRYDAWL V TAIR-AR-DDEG TALEITHAU UNAWL AMERICA. Pan mewn cylch o ddygwyddíadau dynol, y delo yn anghenreidiol i un bobl ddattod y rhwymau gwladwr- iaethol, apharaiy cyssyütwyd hwy ag eraill, ac i argymeryd yn mhlith galluoedd y ddaeary sefyllfa wahan- edig a chydraddawl, i ba un y mae deddfau auian, a Duw anian, yn rhoddi hawl iddynt, mae parch gweddaidd i dybiaa dyuolryw yn gofyn iddynt ddadgan yr achosion a'iî gyrodd i'r ymwahaniad.------Yr ydym yn dal fod y gwirioneddau hynyn hunan-dystiawl—Fod pawb o ddynion wedi eucreu yn gydradd : Eubod wedi eucyn- nysgaeddu gan eu Crëawdwr ag atnryw o ddefon (rights) anaraliadwy, yn mha rai y cynnwysir bywyd, rhyddid a dilyniad dedwyddwch : Mai er diogelu y defon hyn y sefydlir llywodraethau yn mblith dynion, yn derbyneu hawdurdöd yn uniawn trwy gydsyniad y rhai'a lywodraethir; pa bryd bynag y delo unrhywr ffurf o lywodraetb yn ddinystriol i'r dybenion hyn, mai hawlfraint y bobl ydyw ei chyfnewid neu ei dyddimu, a sefydlu llywodraeth newydd, gan osod ei sylfaen ar y cyfryw egwyddorion, a threfau ei galluoedd yn y Cyf. III. 45