Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Rhif. XXXVIII.] CHWEFROR, 184 1. [Cyf. IV. Butoítt£*rîíta*t$j SYLWEDD PBEftElHí A draddodwyd gan y Parch. Daniel Jones, Llanllechyd, yn Nghymdeithasfa. Llanerchymedd, Môn, yr hon a gynnaliwyd ar y 18fed a'r'Weg o> Feheftn diweddaf. 2 COR. V. 1.—' Canys ni a wyddom os ein daearol dy oWbabett hon a ddattodir,fod i ni adeilad' gan Dduio, sef ty, nid o waìth llaw, tragywyddol yn y nefoedd.' Y mae wedi troi yn dda ar y rhai hyn hyth, de- bygwn i. Gweinidogion yr efengyl oedd y rhai hyn. Yr oeddynt yn cael tywydd mawr. Yroedd pobl yn byw yn nyddiau yr Apostolion, ag oedd yn gas iawn, yn dyweyd celwyddau mawr arnynt. Ond yr oeddynt yn gwaeddi allan,' Ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol, ac yn gweith- redu tragywyddol bwys gogoniant i ni.' Fe â y dymhestl drosoddyn mhen ychydig. ' Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir.' ' Canys ni a.wyddom;ì clywed l clywed! na, y mae wedimyned'yn mhellach na chlywed,' ni a wyddom,' nid peth hahesiol ae ar- wynebol yw y wybodaeth honj ond gwybodaeth wedi ei chael oddiuchod. Mynwch gael crefydd, a gwybod ynddi. Wel, onid ydym yn gwybod pethau anghyffredin ? onid ydym yngwybod llyfr yr egwyddorion ? Wel, da iawn ; ond y mae eisiau gwybod oddifewn. A ydych yn gwybod ei bod yn dda rhyngoch a'r nefoedd ? A ydycb yn gwybod, pe baech yn myned i farw heno, föd gen- ych dŷ yn y nefoedd ?—' Os ein daearol dŷ.' Y corph yma yw hwnw. Pridd ýdyw; ond pridd wedi ei wneyd yn hardd iawn. Nid oedd ddim yn rhyfedd i'r Salmydd ddywedyd, ' Ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed !' ' Daearol dŷ. Tŷ wedi ei wneud o'r ddaear; tŷ yn cael ei gynnal o'r ddaear: a thŷ aiíf i'r ddaear. Y mae hwíi i gael ei ddattod. Trwm meddwl am yr annuwiol a'i dŷ o bridd yn myned i lawr heb yr un tŷ arall. Beth a wnewch, bobl! Rhaid i chwi fod allan yn y ddryc-hin fawr, os heb yr un tŷ ar ol murw. Beth bynag sydd yn y maglau tân a brwmstan— yn y cleddyf wedi ei hogi, chwi a gewch- wybod, os byddwch heb y tŷ tragywyddol yma. Hebddo yr ydym wedi háeddu bod i gyd. O ! y mae yma lawer wedi buildio, a chanddynt lease ar eu tai hefyd. Ond nid hyny ydwyf fi yn ei feddwl, a oes genyt ti dŷ yn y nefoedd pan yr âi di i farw ? I Ai tybed mai marw heb Grisù a wnai di ? Cyf. IV. 5 ' A ddattodir? Y mae Uaw'er yn gwrahdò ag y bydd eu daearol dŷ wedi ei ddattod' cyn y bydd yr uir Gymanfa- yn Llanerch-y-medd eto. Ond cyn i chwi fÿned ai- dân, cyn i'r çorwynt gaelgaf- ael arnoch, y mae yn dda genyf gael dyweyd, Y maè drŵs y tŷ heb ei gau. Y mao Duw yn ail- eni heddyw—mae yn cymmodi heb gyfrif heddyw —ymae yn maddeui'r amlaf ei bechodau—ymae yn golchi y duaf—mae yn diogelu dynion rhag y llid a fydd. Y mae medd cael gafael ar dŷ erbyn y dymhestl.- ' Ty nid o toaiîh llawJ Dyma dŷ braf. Y mae tri, a- thri yn un, wedi bod yn ei blanio, y Tadj y Mab, a'r Ysbryd Glan. ' Tragywyddol yn y nefoedd.' A ddarfu i chwi feddwl, bobl, mai rhai tragywyddol ydych ? Bachgen tragywyddol, geneth dragywyddol, gwr tragywyddol, gwraig dragywyddol'; ond dyiolch, dyma dŷ tragywyddol. Fe ddeil hwn yn y Fam heb gracio. Nis gwn pa beth-a ddaw o'r tai, a'r trefydd yma—ond fe ddeil hwn yn ddigryn. ' A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymhestl a rhag gwlaw.' A ddowch chwi yrwan wrth íÿned adref, gyfeillion I)ach, i ymofyn am dŷ newydd ? Ni thaí yr hen dŷ ddim byd; ond y mae tŷ newydd i'w gael. Ymofynwn am dano. Amen.—Drysorfa* Yít HEN WR AT WYRES-. (Parhad o du dal. 6.) 'Yr hwn sydd yn crcdu yn Nghrist,' atebai yr Hen Wr, fel un wedi ei achub oddiwrth ei holl bechodau, (Act. x. 43) ; fel un yr hwn sydd yn berffaith gyfiawn ger bron Duw yn nghyíiawnder un arall, (Rhuf. iii. 22) ; fel un a chanddo fywyd tragywyddol, (Ioan iii. 36,) nis gellir ei gymhell yn rhy daer i gyflawniad pob gweithred dda, (Tií„.