Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL. Rhif. XLI.] M A 1, 18 4 1. [Cyf. IV. Wutÿì$vutt%ù'®Utt§. C 0 F I A N T DIWEDDAR BARCH. WILLIAM Gweinidog y Bedyddwyr yn Indicma. ORGAN, Ar yr 2il o Ionawr, 1840, bu farw yn ei dŷ ei nun, yn swydd Dearborn, Indiana, y Parcb. Wm. MoRGAN,ffyddlon weinidog Eglwys Ebenezer, yn y 66 flwyddyn o'i oedran, gan adael gwraig a merch, ac amryw o berthynasau i alaru ar ei ol. Ganwyd ef yn swydd Frecheiniog, Cymru, yn 1774. Ei Gof-ysgrif ei hun yw yr hon. a ganlyn : Gan fod fy rhieni yn ddigrefydd, ni chefais fy meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd megys y cafodd i'hai, fel y mae yn alarus adrodd; °nd yn hollol i'r gwrthwyneb. Yr oedd fy nbad, Nicholas Morgan, yn trin tyddyn tra mawr—yn cadw dwy forwyn, pedwar gwas, ac yn achlysurol weithiwr; ac oll heb grefydd. Yr oedd yn natur- ml i ni fyw yn annuwiol iawn, gan fod y gwasan- aeth-ddynion oll yn llawn gwagedd, a geiriau cableddus. Gan mai myfi oedd yr hynaf o saith 0 blant, gwelais fod llygredigaeth y natur ddynol yn fawr, pan y dysgem gablu yn gyntaf o ddim. Felly yr oedd annuwioldeb filltiroedd o'n cwmpas ; yr unig le o addoliad oedd eglwys y i">lwyf, lle y deuai offeiriad oedranus i bregethu ar droion. Yr oedd fynhad a'm mam yn myned â rhai o'r plant yno weithiau: a thybient hyny yn ddigon o iawn am yr holl bechodau a aethent heibio, a pheth dros ben. Pan yr oeddwn tuag 11 ml. oed, Duw, yn ei ddoeth ragluniaeth, a dueddodd fy rhieni i symud 1 dyddyn oedd tua milltir o dref Abergafenni, swydd Fynwy, Ue y cawsom lawnder o freintiau Syda'r enwad crefyddol a fynem, y rhai a ddef- nyddiasom er mwyn gweled a chael ein gweled. '-yffrôid ein meddyliau i ddifyrwch, gan dduîl y STWeinidogion a'u pobl, ar y pryd; a phan aem adref, yn enwedig pan, gan wylo, y cyfaddefent eu pechodau, ac y gweddient am drugaredd, ^eddyliem mai y gwaethaf o bawb oedd- ynt- yn s;cr eu ^0(j yn euQ^ Q |a(j^ neu ryW eth o'r fath ; ond tybiem am danom ein hunain, y glanaf o bawb (white lily all over), ac na chy- merem lawer er rhagrithio fel y rhai hyny. * Hyfrydwch mawr oedd genym erlid crefydd- wyr, mor belled ag y gwyddem y ffordd ; ac er cymhorth i hyny, aem yno i'w gwrandaw a'u gweled i gael pethau newydd i'w gwawdio, ond tarawai y weinidogaeth fy nghalon fel gordd, ar ambell dro. Ar ol cael amrai o ergydion o'r fath gan air Duw, nes oeddwn yn dychrynu, cyf- newidiwyd fy meddwl am grefyddwyr—eubodyn bobl odiaeth o dda—fy mod inau yn benaf o'r rhai drwg. Penderfynais nad awn mwy yn agos atynt rhag fy nal yn eu rhwyd—ac ymunais â rhai oedd yn myned i'r ddawns, a phob chwareu- leoedd o'r fath, hyd yn nod ar y Sabboth, nes yr oedd yr argraphiadau o'r blaen bron a'm gadael yn hollol, yrhyn oedd fy amcan.. Pan oeddwn tua 23 oed, yr un modd tueddwyd fy rhieni i symud i dyddyn arall, yn mhlwyf Llan- wenarth, ac o fewn chwarter milltir i eglwys lu- osog o Fedyddwyr, o dan ofal y Parch. James Lewis, pryd y d'echreuais eilwarth fyned i'r oed- fauon, gan fy mod mor nesed iddynt, a chefais yr un modd effeithiau y gair, nes y deallwyd gartref, fel y chwarddwyd am fy mhen, gan fy ngalw yn ' Sant Ffol,' yr hyn oedd yn o galed genyf i'w ddyoddef. Penderfynais gael diangc rhag yr ysgraff hyn eto, trwy beidio myned i'r cwrdd. Ond yn fuan datîth y newydd fod rhyw bregethwr dyeithr, a'r rowyaf yn Nghymru, i bregethu yn nhŷ Marchnad y dref a ragddywedwyd, y Sab- both canlynol. Y Parch. Ebenezer Morris ydoedd y pregethwr dyeithr hwnw, yn perthyn i'r Trefnyddion Calfin- aidd,yrliwn oedd o gorpholaeth mawr a hardd— ei lais fel udgorn arian. Fel yr oedd y tŷ yn rhy fach, a'r dyrfa yn afi êolaidd ar yr heol, pender- fynwyd cael Capel y Bedyddwyr; a chan gynted ag y cyhoeddwyd hyny, rhedodd llawer, a minau gyda'r blaenaf, er cael lle i wrandaw, i'r faingc flaenaf o'r oriel. Cyn pen y pum' mynyd, yr oedd y tŷ yn llawn—y cyntedd hefyd, yr hwn a gynnwysai tua mil—ac ar yr heol gannoedd yn ychwaneg, fel y cafodd y pregethwr, a'i gyfeillion waith mawr dyfod yn mlaen i'r ffenestr, Ue y saf- odd i bregethu.