Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL Rhif. XLV.] M E D I, 18 4 1. [Oyf. IV. COFIANT RICIIARD ROBERTS JONES, ARERDAROf. (Parhad o du dalen 226.) Yn fuan ar ol ei ddyfodiad i Lerpwll, rhai Cwyllyswyr da a ŵnaethant ymgais am ei ddodi at ryw waith cyfaddas ; ac wedi tacluso ei ddi- wyg, gofynwyd iddo pa orchwyl oedd fwyaf cynnefin iddo, i'r hyn yr atebodd rnai llifio.— Cafwyd lle iddo i'r perwyl; ond ymddangosai yn ebrwydd na wyddai ddim' oddiwrth y gwaith, yr hyn a eglurodd efe trwy fynegi na fuasai erioed yn arfer dim yn ychwaneg na thraws-liûo ambell bren a dórid yn nghoedwigoedd Cymru., Felly, gan nad oedd fawr obaith y gellid ei ddysgu na'i ddenu i ddilyn un alwedigaeth laf- uriol, gadâwyd iddo gahlyn ei dueddiad ieith- yddol y faint a fynai; a thrwy gydroddion rhyw bersonau elusengar, gwnaed darbodaeth am ei gynnaliaeth, yr hÿn, am ei fod yn dra diwastraff, nid ydoedd mo 'r llawer o draul. Eithr gan flino ar yr amgylchiad hwîrŵ dra- chefn yn mhen tuà hanner blwyddyn, chwen- nychodd ymweled eto â'i le genedigol; felly casglwyd iddo swm bychan o arian tuag at draul «i daith, ac ymaith âg ef tua sîr Gaernarfon, a'i amrywiol lyfrau gydag ef. Cafodd groesawiad go lew gan ei dëulu tra y parhâodd ei dipyn arian; ond gwedi eu darfód, gwelodd yn fuan nad oedd yno ddim heddwch ynhwy ; fellyym- adawodd drachefn, a chafodd achles dros ryw dymhor gyda'r Parch. Benjamin Jones, gwein- idog Ymneíllduwyr yn Mhwllheli. Wedi hyny cyfeiriodd eto i Lerpwll, lle ni chyfarfu à chys- tal swcwr ag a gawsai y troion o'r blaen ; ac felly cymaint fu ei gyfyngder, fel y gorfu arno werthu Beibl Hebraeg a fawr hoffai, ar ol pa un yr oedd ei alar mór fawr fel y penderfynodd gy- meryd taith i Lundain i chwilio am un arall, ac ■ar yr un pryd i ymofyn am ychydig o gyfar- wyddyd yn y Galdaeg a'r Syriaeg. I'r dyben hwn cychwynodd tua 'r brif ddinas yn hâf y fl. 1807, ' A'i gôd a'i gyfoeth gydag efo,' * phastwn mawr yn ei law. Ond fel y bu Cyr. IV. 33 gwaethaf ei hap, ni Iwyddodd yn un o'î am- canion ; ac i chwane'gu ei drychineb, meth- odd gael na gorchwyl nac echwyn mewn un rnodd nac o un math. O Lundain cyfeiriodd ei dreigl tua Dover, gyda rhyw ledfryd arn fyned drosodd i'r Gyfandir, os hap a gaffai. Ond yn Nover, cafodd y ffawd o gael rhyw orchwyl yn llong-weithfa (doch-yard) y brenin, a'r arolygwr a ganiatâodd iddo ei foreu-bryd a choffr i gadw ei lyfrau, yn nghyda chyflog o 2s. 4c. yny dydd. Drwy yr elw hwn gallodd, heblaw talu am ei luniaeth, hebgor rhyw wobrwyad i'r Rabbi Na- than, yr hyglod ddysgawdr Plebreig, am ei hy- fforddi yn yr iaith" hono. Yma y tariòdd yn agos i dair blynedd : yr yspaid dedwyddaf a fu- asai erioed dros ei ben. Ỳn y fl. 1810, dychwelodd i Lundain, Ile y cynnygiwyd ef i sylw y ' Gymdeithas er taenü Cristionogrwydd yn mysg yr luddewon ;' eithr gan fethu o hono gyd-ddwyn â'r sefyllfa hono, cynnorthwywyd ef gan Gymdeithas y Cymmro- dorion i ddychwelyd mewn llong i Gymru ; ac wedi tirio yn yr Abermaw, cymerodd ei daith i Fangor, lle y bu am tua chwe' mis dan nodded yr hynaws ddiwéddar Barch. Richard Davies, a thra yno, copiodd yr holì eiriau Hebraeg o Eir- lyfr Lladin Littleton, gydag amryw ddiwygiad- au, ar annogaeth ei gymmwynaswr. Ac ar ol darfod hyny, cydgyfranodd Mr. Davies a'r Parch. Samuel Rice i dalu cost ei daith i Lerpwll dra- chefn, lle y cynnygiodd ei hun eto unwaith i dosturi ei hen ymgeleddwyr, y rhai, gan ei ys- tyried bellach yn gryn ysgolhaig, a amcanasant wneyd argraffÿdd o hono ; eithr ar ol ychydig o brawf, deallwyd ei fod yn rhy anhylaw at gel- fyddyd mór fanylaidd.—Bellach penderfynwyd nad oedd dim i'w wneyd o hono ond ei adael i ddilyn ei unig athrylith o chwilio ieithoedd, gan nad oedd ceisio ei ysgaru oddiwrth hyny ddim ond cyffelyb i geisio meithrin pysgod ar y sych- dir.