Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL Rhif. LIV.] MEHEFIN, 1842. [Cyf. V. îSticfjîrrattíioîraetf)* BUCHWEDD A MARWOLAETH 7 PARCH. GEORGE WHITPIELD. GYFLWYNWYD l'R CYFAILL GAN G. E. GRIFFITH, TEEKTON. Ganwyd y Parchedig Georgc Whitfield yn Nghaerloyw, Rhagfyr 16, 1714. Tafarnwr oedd ei dad yn y dref hono. Yr oedd iddo chwech o feibion ac un ferch, a George oedd yr ieuangaf, ,a dim ond dwy flwydd oed pan fu farw ei dad. Yn ei ieuengclyd bu gorfod arno gynnorthwyo ei fam yn ei galwedigaeth, a bu hyny yn beth rhwystr iddo fyned rhagddo mewn dysgeidiaeth. Ond yn yr amgylchiad anfan- teisiol hwn, cyfansoddodd amryw bregethau, ac yr oedd neillduol ddifrífwch ynddo yn fore, ac ystyriaethau dwys yn ei feddiannu yn aml am grefydd a mater enaid. Pan oedd ynghylch 17 oed, aeth i dderbyn sacrament swpper yr Ar- glwydd yn y Han, a threuliodd lawer o'i amser yn flaenorol yn darllen, yn gweddiaw, yn myf- yriaw, ac yn ymprydiaw. Pan oedd ynghylch 18 ocd, aeth i Ysgoldy (CoUcge) Penfro, yn Rhydychain. Daeth yno yn gydnabyddus â rhai gwyr ieuaingc difrifol, y rhai, oddiwrth eu dull treínus a rheolaidd o fyw, a gawsent mewn gwawd yr enw Methodistiaìd, sef trefnwyr, neu drefniedyddion, Yn rahiith y rhai hyn yr oedd y ddau frawd, John a Charlcs Wesley ; y rhai, o herwydd ei gydnabydtfiaeth foreuol â hwynt yn Rhydychain, yr oedd ganddo lawer o barch iddynt dros ei holl fywyd, cr eu hamryw- iaeth oddiwrtho wedi hyny yn eu barn ynghylch rhai pyngciau athrawiaethol crefydd. Yr oedd ei ddirwest a'i astudrwydd mór fawr, fel ag yr effeíthiodd yn o ddwfn ar ei iechyd. Aeth er adnewyddiad ei iechyd, i Gaerloyw ; ac yno yr oedd yn dra diwyd yn ymweled â'r carcharoríon, i'w cynghori a gweddiaw gyd a hwynt. Pan yr oedd ynghylch 20 oed, anfonodd Dr. Benson, esgob Caorloyw, am dano, ac a ddywedodd wrfcho, er ei fod gwedi bwriadu peidio urddo neb dan 23 oed, eto ei fod yn ei farnu yn ddyled- swydd arno í ei urddiaw ef pa bryd bynag y ceisiai hyny, Ar hyn, trwy ddymuniad taer ei gyfeülion.ymbarotôdd i gael urddau, Astudiodd Cyf. V. 21 yn ofalus erthyglau Eglẃys Loegr, i gael bodd- lonrwydd eu bod yn gydun â'r ysgrythyrau ; holodd ei hun mewn perthynas i'r cynneddfau a ofynir fod yn ngweinidogion yr efengyl, yn y Testament Newydd, ac wrth y cwestiynau a wyddai a ofynid iddo wrth gael urddau. Y dydd Sadwrn blaenorol, yr oedd lawer mewn gweddi drosto ei hun, a'r rhai oedd i gael urddaugydag ef. Y boreu Sabboth y cafodd ei ordeiniaw, Mehefin 20, 1736, cododd yn fore, a darlîenodd Epistolau Paul at Timothëus, gyda thaer weddi at yr Arglwydd. Gwedi cael ei urddo, aeth i'r cyraun. Y Sabboth canlynol pregethodd i gynnulleidfa luosawg, yn yr eglwys y cafodd ei fedyddio ynddi, am y lles a'r anghenrheidrwydd o gymdeithas grefyddol. Rhai a'i gwawdiasant; ond y rhan fwyaf, drosyr amserhwnw, oeddynt wedi synu yn fawr. Achwynwyd arno wrth yr esgob, ci fod wedi gyru pymtheg yn wallgof y bregeth gyntaf. Yr esgob a atebodd, Ei fod yn gobeithio na byddai y gwallgofrwydd wedi ei anghofio cyn y Sabboth canlynol. Yr wythnos ganlynol,dychwelodd iRhydych- ain a graddíwyd ef yn A. B. Yn mhlilh y tlodion a'r carcharorion y bu yn brysur yn eu cynghori, ac yn gweddiaw gyda hwynt, tra bu yn Rhydychain. Cafodd ei wahodd yn fuan i Lundain, i wasanaethu dros gyfailì ocdd \ni myned i"r wlad. Bu yn llctŷa yn y Tŵr dros ddau fis, ac yn darllen y gwasatmeth yn y capel ddwywaith yn yr wythnos, caticeìsio a phregethu unwaith, heblaw ymweled a'r milwyr yn eu lluestỳau a'r clâfdy bob dydd. Yr oedd hefyd yn darllen y gwasanaeth yn Nghapel Wapping bob prydnawn; a phob dydd Mawrth, yn ngharchar I^udgate. Tra yr oedd yma caibdd lythyrau oddìwrth y Wesleys, ac Ingham, yn Georgia, yr hyna barodd iddo chwenyeh myned i America a'u cynnorthwyo. Ond heb weled ei alwad yn eghir, ar yr amser gosodedig dychwel- tKÌd yn ol i Rhydychain: cyfarfyddai amryw wyr