Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CYFAILL Rhif. LXII.] CHWEFROR, 1843. [Cyf. VI. BttUííttgîiîrtaetf)- ERLEDI6AETH. Gan y diweddar Barch. J. P. Dayies, gweinidog y Bedyddwyr yn Nhredegar, sicydd Fynwy. Erledigaeth sydd groes i hynawsedd a chymedroldeb, ac yn cynnwys tueddiadau ma- leisus yn erbyn y neb a wahaniaetho oddiwrth- ynt raewn barn grefyddol, fel eu tuedder i dal- fyru ein rhyddid, niweidio ein cymeriad, atal ein defnyddioldeb, cymeryd ein meddiannau, ac yn oíaf, i boeni a üadd y corph. Nid oes gan rai dynion ond digon o grefydd i gasâu, mae ganddynt ry fach i garu ereill. Eto, nid crefydd sydd yn gwneuthur hyn, ond diffyg o honi, fel y maent yn ei cham-ddefnydd- io i amddiffyn cyfeiliornad, oblegyd mao ysbryd cyfeiliorni ac ysbryd erlid, gan amlaf, yn an- neddu yn yr un fynwes. Mae dyoddefgarwch yn fwy cyffredin yn awr nag y bu gynt. Bu yn enbyd i neb wahan- iaethu yn y Gwybodaethau a'r Celfyddydau. Galileo, pan y mynegodd ei feddyliau am gy- ffrôad y ddaear, a garcharwyd yn y Chwil-lýs. Yr enwog Ddr. Harvey, pan y cyhoeddes gylchdroad y gwaed trwy y corph, a fwriwyd allan o fod yn aelod yn Ngholeg y Meddygon. Fel y mae gwybodaeth yn amlhau, mae'r ys- bryd hyn yn diflanu, ac wedi encilio yn hollol oddiwrth y Celfyddydau, ac wedi cymeryd ei orsaf anghyfiawn, eto olaf, ar Grefydd a Gwlad- wriaeth. Mae annoddefgarwch yn anfuddiol a diles, hyd yn nod i'r erlidiwr ei hun. Gwna hyn i'r synwyrol ddrwgdybio daliadau, a dybenion, ac ysbrydoedd y cyfryw rài annoddefus. Gwna hyn yr ofnus i ragrühio. Ac fel y dywedodd yr enwog Mr. Locìíe, ' Crefydd hyfryd yw hono sydd yh gwneyd i ragrithio, a dywedyd celwydd dros gadwedigaeth eneidiau dynion.' Eithr yr unig grefydd dderbyniol gan Dduw, yw un ddi- dwyll; «Rhaid i'r rhai a addolant y Tad, ei addoli ef mewn ysbryd a gwirionedd.' Mae y fath ymddygiad am syniadau crefyddol yn afrcsymol, Cystal y gallai un erlìd a chosbi y llall am nad ydyw yn blasio yr un bwyd, afe yr nn ddiod ag ef; neu, am nad yw pawb o'r un oedran, o'r un lliw, o'r un fath, ag o'r un faint ag ef. Fel y brenin gynt, a dórai ymaith draed y cyfry w ddeiliaid a fyddent hẁy nag ef, ac a ddirdynau ereül a fyddai yn fyrrach nag ef, fel y byddai pawb o'r un faíntiolaeth ag ef ei hun. Mae yr anoddefus fel Nebuchodonozor. Os nad ymgryma pawb i'r ddelw a osoda efe fyny yn ei gredo, teifl y cyfryw anufyddwyr i ffwrnes danllyd ei ddigofaint. Poeni y corph Cyf. VI. 3 fel y goleuer y meddwl sydd mór resymol ag i un gymeryd arno wellhau clwyf corphorol drwy ymresymiad. Ac yr hwn sydd am hy- fforddi barnau trwy dóri eu hesgeiriau, a allant gynnyg eu gosod yn eu lle drachefn trwy wneyd traethawd ar Resymaeg, (Logic.) Heblaw fod y fath ymddygiad fel y dywed- wyd uchod yn afresymol, y mae hefyd yn bech- adurus. Mae diafol yn ei nodweddiad ei hun yn rhy atgas i fedru temtio, am hyny ymddeng- ys ar rith angel y goleuni. Ac y mae erled- igaeth, dan ei enw ei hun, yn ffiaidd gan ddyn synwyrol; rhaid i'r weithred greulawn fyned dan enw mwy hudolus,—' Sêl dros y gwirion- edd,—Cariad at eneidiau dynion,' &c. Mae ymddygiad Paul yn dangos perffaith nodwedd- iad erlidiwr crefyddol. 'Eithr Saul oedd yn anrhciíhio yr eglwys, gan fyned i mewn i bob tŷ, a üusgo aílan wỳr a gwragedd, efe a'n ihoddcs yn ngharchar. Act. viii. 3. Pa olwg oedd ganddo ar ei ymddygiad! A ymhyfrydai efe yn y cyfryw weithred, gan ei hystyried )n sêl dros y gwirionedd 1 Yn hollol yn y gwrth- wyneb. Cafodd olwg ffiaidd dros ben ary cyf- ryw sél, fel y darfu iddo olygu hyny dros ei holl fywyd yn ei erbyn, ac hyny a fu yr achlysur iddo synied ei fod ef y penaf o bechaduriaid,— y lleiaf o'r holl saint,—yn annheilwng i gael ei alw yn apostol. Paham y llefarai ef fel hyn, a'r apostolion ereill heb arfer y fath iaith un amser! Am iddo ef fod yn erlidiwr, a hwythau heb fod. 'Am i mi erlid eglwys Dow.' Dyna ei reswm ef am fod dros ei fywyd yn y llwch. Tybiodd rhai crefyddwyr, heblaw Pa- ganiaid, y gwnaent les i'r enaid wrth ladd y corph ; crogent chwi o gariad at eich enaid, a rhostient chwi er gogoniant i Dduw. Er nad yw yn gyfleus i'r eglwys wneyd hyn yn yr oes hon, oherwydd y wladwriaeth; nac i grefydd- wyr wneyd hyn â'u gilydd, oherwydd y byd; eto, mae yr hyn a ellir yn cael ei wneuthur. Mae erledigaeth yn wahanol yn ei raddau oddi- wrth y Chwü-lys, a Maes-y-gôf, ond nid ydyw mewn rhywiogaeth ond yr un; oblegyd nis gwyr neb pa belled yr â ysbryd erlid pe cania- teid iddo. Dichon i ddynion o'r fath ysbryd brofi henafiaeth eu sect, ac olrhain eu hachau hyd ddyddiau Cain, yr hwn a laddodd eifrawd. Pahaml Am fod gweitnredoedd ei frawd y» dda, a'r eiddo yntef yn ddrwg. 1 Ioan iü. 12. Llawer a ddywedant am hynawsedd at ddal-