Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DARLLENA, COFIA, YSTYRIA. A Welsh Newspaper. | Edited by W. ROWLANDS, Píew.York. < Pbice One Dollar a year \ payable in adyance- Rhif. 7.] GORPHEN AF, 1845. [Cyf. VIII. € r efgìrîrol. CBTNODEB o'r pregethau a draddodwyd yn nghymanfa ddi- weddar y methodistiaid calfinaidd yn liver- pool, mewn llythyr at mr. daniel roberts, caerefrog-newydd. Lẁerpool, Mai lòfed, 1845. Garedig Gyfaill :— ***** " Nid wyf yn bresennol am nodi nemawr o ddim ond ychydig o hanes ein Associaiion, yr hon a gyn- naliasom y Sabboth diweddaf, a'r dyddiau amgylch- ynol i'r Sabboth. Nos Wener, yn Rose Place, pregethodd y Brawd John Hughes, Pont Robert, oddiar Rhuf." iii. 25. ' Yr hwn a osododd Duw yn iaion? óçc. Sylwyd fod Iawn yn anghenreidiol—er cymodi Duw â phech- adur, ac er cael ffordd gyfiawn i faddeu i drosedd- wr. Nid oes eisiau Iawn i lywodraethu y byd, nac i gosbi gwrthryfelwyr. Rhaid bod hefyd ddrwg mawr anfeidrol mewn pechod, gan nad oedd iawn i'w gael heb i Fab Duw gael ei osod yn Iawn. Nid yw mawredd drwg pechod i'w farnu wrtli y gwrth- ddrych a'i cyflawnodd, ond mawredd y gwrthddrych y pechwyd yn ei erbyn. Fod anghybawnder^ech- od a chyfiawnder natur Duw yn dangos a phrofì fod cosb yn ddyledus am bechcd, ac nad oes modd cỳ- modi na maddeu heb iawn. O'i ewyllys da ei hun y meddyliodd Duw am ffordd i achub dyn: ac yr oedd hyn (fel pob peth arall) yn ei feddwl mawr ef erioed. Ond sylwyd ar y pethau canlynol oddiwrth y testyn:— I. Y person a nodir—' Yr Hwn.' II. Gosodiad y person yma gan Dduw Dad—' Yr hwn a osododd Duw.' III. Yr hyn ydyw y person yma yn ol y gosodiad —'lawn.' IV. Y moddion er dygiad y pechadur i afael â threfn Duw yn cymodi, ac i dderbyn maddeuant pechodau—' Trwy ffydd yn ei waed ef.' Nos Sadwrn, yn Pall Mall, pregethodd y Brawd John Jones, Llanbedr, oddiar Tit. ii. 11,12. * Can- ys ymddangosodd gras Duw? tSçc. Wrth ras Duw yma y meddylir yr Efengyl yn y cyhoeddiad o honi. I. Priodol galw yr Efengyl yn ras Duw, o blegyd yn 1. Fod ei tharddiad o ras penarglwyddiol, heb i neb na dim fod yn un cymhelliad, allan o hono ei hun. 2. Am ei bod yn amlygiad hynod o ras Duw. Yr Efengyl yw y drych sydd yn dangos anfeidrol- deb o gariad a graslonrwydd natur Duw. 3. Priod- ol ei galw yn ras, am ei bod fel moddion ac yn offer- yn yn llaw Ysbryd Duw i wneyd gwaith grasol ar galonau pechaduriaid. II. Y mae yr Efengyl yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn—pob graddau a sefyllíaoedd y mae dynion ynddynt, fel y nodir yn mlaen-llaw yn yr Epistol— gweision a meistriaid, &c 1. Mae yn dwyn iach- awdwriaeth i bob dyn, trwy ddatguddio i ddyn ei gyflwr colledig wrth natur. 2. Trwy ei bod yn amlygu pa le y mae iachawdwriaeth i ddyn colledig i'w chael. ' Nid oes (meddai) iachawdwriaeth yn neb arall' ond yn Nghrist. Mae yn troi wyneb yr euog at Grist croeshoeliedig am ei fywyd. 3. Mae yr Efengyl yn briodol i'w galw yn ras am ei bod yn dangos y modd y mae i bechadur ddyfod i fedd- iant â bywyd tragywyddol. ' Yr hwn sydd yn credu yn y Mab y mae ganddo fywyd tragywydd- ol.' ' Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadw- edig a fyddi.' 4. Y mae hi hefyd yn ras o blegyd ei bod yn amlygu y tymhor a'r adeg i gael gras, &c. ' Wele yn awr (meddai hi) yw yr amser cymeradwy, wele yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.' III. Nid gras yw yr Efengyl rn harwain i ben- ryddid. Na, y mae gwersi ganddi i'w dysgu i bawb a ufyddhânt iddi: megys, yn 1. Ymwadu âg annuwioldeb. ' Cilia (meddai) oddiwrth ddrwg, a gwna dda.' ' Ganro'i heibio bob drygioni.' ' Gad- awed y drygionus ei ffordd,' &c, &c. Fel hyn y mae hi yn gwahardd plant dynion i'r hyn sydd ddrwg. 2. Mae yn eu dysgu trwy ddatgan iddynt am farnedigaethau Duw a syrthiant ar rai am fyw mewn drygioni: boddi yr hen íÿd â dwfr dylif—■ Uosgi Sodom a Gomorrah—dinystr y genedl Iuddew- ig, &c, &c 3. Y mae hefyd yn gosod esiamplau y duwiotíon o'u blaen er eu cymhell i ddilyn ôl traed y praidd—Job yn ẃr cyfiawn, yn cilio oddiwrth ddrygioni; Joseph—' Pa fodd y gwnai y mawrddrwg hwnw, a phechu yn erbyn Duw !' ac ya- benaf oll, esiampl berffàith Iesu Grist, 'Yr hwn ni wjiaeth bechod,' &c Aed yn mlaen dros y gwersi ereill— byw yn sobr, yn gyjiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awrhon. Am 6£ foreu y Sabboth, yn Pall Mall, pre- gethodd y Brawd John Owens, Gwindŷ, oddiar Mat. xvii. 5. ' Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd: gwrandewch arno ef—Yr oedd Moses yn was, ac yn was flỳddlon, îe, yn yr holl Dŷ. Ond yma, Hwn ywfy anwyl Fab. Yr oedd y llef yma yn cael ei rhoddi i'r dyben o gadarnhau meddyliau y tri dysgybl mai eu Hathraw oedd y gwir Fessîah. « Hwn yw fy anwyl Fab,' nid Moses ac nid Elias. Rhyw gyfarfod ac enwogrwydd yn