Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DARLLENA, COFIA, YSTYRIA. A Welsh Newsfapeh. ì Rhif. 10.] Bdited by W. BOWLANDS, N'ew.Yorls. HYDREF, 1845. C Peice Onb Dollar a yeab, \ FAYABLE IN ADYANCE- [Cyf. VIII. € v t f g ìr ir o l. 8 V I, W E D D YR HYN A DRADDODWYD GAN JOSEPH E. DAVIES, ST. CLAIRS, AR DDYDD CLADDEDIGAETH MR. THOMAS GRIFFITHS, YN DDIWEDDAR O ST. CLAIRS, GYNT O BOTTSVILLE, FA. ESA. III. 10.—' Dywedwch mai da fydd i'rcyfiawn: canys firwyth eu gweithredoedd a fwynhant.' Mae yr Arglwydd, trwy y jsrophwyd, yn y ben- nod hon yn bygwth y genedl Iuddewig âg amryw farnedigaethau; ond yn y testun mae yn gorchymyn i'r prophwyd gysuro yr ychydig bobl dduwiol oedd yn mhlith y genedl. ' Dywedwch mai da jydd €r cyfiawn? &c, fel pe y dywedasai,' Esaiah, dywed di yn ddi-gryn wrth y cyfiawnion yna sydd genyf fi yn mhlith y genedl, y bydd yn dda arnynt hwy pan fyddo y barnau a nodais wedi dyfod, a goddiwes add- olwyr yr eilunod yna i gyd.' Oddiwrth y testun sylwaf— I. Ar y gwrthddrych a nodir—' Cyflawn.' Wrth y' cyfiawrì yma byddaf yn deall, dyn wedi ei gyfodi gan Dduw yn gymeradwy ger ei fron yn nghyfiawnder Iesu Grist y Cyfryngwr. Dyn wedi ei greu yn Nghrist Iesu i weithredoedd da: dyn wedi ei adnewyddu gan Dduw ar ei ddelw, a'i gyf- odi i sefyllfa o wir ddedwyddwch—i gymdeithas âg ef, ac i fwynhad o hono. Nid oes neb cyfiawn wrth natur, nac oes gymaint ag un, ond pawb ydynt an- nghyfiawn. Salm liii. 1—3; Rhuf. iii. 10. Er hyny, o fawr ddaioni Duw at ddyn, y mae llawer o gyfiawnion yn y byd yn bresennol, ac fe fydd llawer 0 gyfiawnion yn y byd hyd nes y delo y Barnwr ar y cymylau. Y bobl hyny sydd wedi eu cyfiawnhau gan Dduw yn rhad, trwy ei ras ef, trwy y Prynedig- aeth sydd yn Nghrist lesu, ydyw yr unig bobl wir ddedwydd sydd yn y byd. Y mae gan bob Cristion gyfiawnder triphlyg,—cyfiawnder cyfrifol, cyfiawn- der egwyddorol, a chyfiawnder ymarferol. Ond yn 1. Cyfiawnder cyfrifol. Y cyfiawnder hwn yw cyfiawnder Iesu Grist y Mechnîydd, yr hwn gyf- iawnder a gyfrifir iddo gan Dduw Dad fel Barnwr cyfiawn oddiar ei orsedd sanctaidd, pan mae y pechadur yn cael ei godi ganddo i'w hedd a'i fiùfr, ac yn gymeradwy ger ei fron. Defnydd y cyfiawn- der hwn yw sancteiddrwydd gwreiddiol natur ddyn- 01 Crist y Cyfryngwr—ei ufyäd-dod yn ei fywyd, yn nghyda'r iawn a wnaeth yn ei ftirwolaeth. Yn awr, pan y mae Duw yn codi y pechadur yn gymer- adwy ger ei fron, mae yr hyn a wnaed gan Grist fel Mechníydd, yn ei le a throsto, yn cael ei gyfrif mór drwyadl i'r pechadur, megys pe gwneuthuresid ef ganddo yn ei berson ei hun. Pan y mae hyn yn cy- meryd Jle, dyma 'r pryd y mae 'r pechadur tlawd yn cael ei gyfodi o ddyfnderoedd ei drueni i fod yn gy- meradwy ger bron Duw byth. Dyma y cynawnder cyfrifol sydd gan y Cristion. 2. Y mae gan bob Cristion gyfiawnder egwyddor- ol; hyny yw, y mae ganddo gyfiawnder o'i fewn yn egwyddor yn ei enaid. Mae yr egwyddor gyfiawn hon yn cael ei rhoddi yn yr enaid gan yr Ysbryd Glan, pan mae y natur yn cael ei hadnewyddu gan- ddo ar ddelw Duw. Mae yr egwyddor gyfiawn hon •ydd yn yr enaid, yn berfiaith union o ran ei natur a'i dyben; ie, meddaf, mae môr berfíaith uniawn ag ydyw Duw ei hun. Ac nis gall lai na bod felly, o blegyd o Dduw y mae wedi deilliaw, ac efe, trwy ei Ysbryd, sydd wedi ei gosod yn yr enaid. Cymerodd hyn le pan y dodwyd y gyfraith yn y meddwl, ac yr ysgrifenwyd hi yn y galon. Jer. xxxi. 33; Heb. viii. 10. Mae yr egwyddor gyfiawn hon yn dwyn yr enaid i ymhyfrydu yn Nuw fel Duw cyfiawn a sanctaidd, ac yn grasol dueddu yr enaid i weithredu yn gyfiawn tuag at Dduw, ato ei hun, ac at ei gyd- grëaduriaid. 3. Mae gan bob Cristion hefyd gyfiawnder ymar- ferol. Os na bydd y rhyw yma o gyfiawnder gan ddyn, nid oes genym un sail i feddwl fod y dyn hwnw yn gymeradwy ger bron Duw ; oblegyd äywed Duw ei hun, mai yr hwn sydd yn ofni ei enw ef, ac yn gwneuihur cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef. Act. x. 35. Os na fydd y ddau beth neillduof hyn genym yn ein crefydd, (sef ei ofni ef a gwneuihur cyfiawnder,) nid yw ein crefydd ddim gwerth i'w galw yn grefydd. Elo. Yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder sydd gyfiawn. 1 Ioan iii. 7. Hyny y w, yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder sydd yn dangos yn amlwg ei fod wedi cael ei godi ger bron Duw, yn athrwy gyf- iawnder Iesu Grist ei Fab ef. Drachefn. Yn hyn yr amlygir plant Duw a phlant y diafol. ' Pob un àg sydd heb wneuíhur cyfiawnder, nid yw o Dduw. 1 loan iii. 10. Gan nad yw yr hwn sydd heb wneuthur cyfiawnder yn blentyn i Dduw, rhaid ynte mai plentyn i ddiafol ydyw. 1 Ioan iii. 8. Nid yw crefydd pawb ddim ond pen- twr o dwyll a rhagrith, os na bydd y rhyw yma o gyfiawnder ganddynt. Anwyl gynnulleidfa, nid gwiw i chioi na minau feddwl ein bod yn blant i Dduw, wedi ein geni o hono, yn tebygoli iddo, nac yn cymdeithasu âg ef, heb fod ynom ymgais difrifol ì wneuthur cyfiawnder â phawb yn mhob peth. Cyf-