Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

R.HIF. 12.1 RHAGFYR, 1849. [Cyp. XII. J O A N A It C . Mae y ddynes ryfeddol hon wedi cyrhaedd ©nwogrwydd nodedig mewn hanesyddiaeth. Yr oedd yn byw yn Ffraingc, yn y rhan foreuol o'r bymthegfed ganrif. Tua'r amser y cyrhaeddodd oed benywaidd yr oedd rhyfel ffyrnig rhwng Lloegr a Ffraiugc. Gwreiddyn y rhyfel yma oedd hòniad hawl breninoedd Lloegr i lywodraeth Ffraingc, mewn canlyn- iad i feddiant Gwilym y Concwerwr o Nor- mandy, o ba le y daethai drosodd i Brydain Fawr. Ymddengys fod yr eneth yma wedi ystyried ei hun yn cael anfoniad dwyfol i dòri yr iau yma, a sefydlu awdurdod Ffraingc. Pan yn ddim ond pedair ar ddeg oed, yn ol ei hanes, dechreuai gael breuddwydion nodedig a gwel- edigaethau dyeithr. Dywedai iddi, pan yn eistedd un diwrnod yn ngardd ei thad, weled goleuni dysglaer yn nghyfeiriad yr eglwys, a chlywed Ilais yn cyhoeddi mai llais Michael yr Archangel ydoedd. Dywedai i'r angel draddodi rhyw eiriau dirgelaidd, yn rho'i ar Cyf. xii. 23 ddeall mai trwyddi hi y caffai Ffraingc ei gwaredu. Efelly cymerodd adduned i beidio a phriodi, ac i gyfiwyno ei hün yn hollol at y gwasanaeth o ddwyn gwaredigaeth i'w gwlad. Bu yn hir cyn cael neb o'r swyddogion i gredu ei chwedl, ond cafodd wrandawiad yn y man; ac nid rhyfedd, gan fod cyffredinol- rwydd y byd y pryd hwnw yn credu mewn gweledigaethau, drychiolaethau a dewiniaid Cydnabyddwyd ei hóniadau, ac yn 1428 ca'dd ei lle yn y fyddin fel swyddog o radd uchel Ystyrid hi yn brophwydes. Orleans, yn ffydd- lon i Ffraingc, y pryd hyny a warchaeid gan y Saeson. Ei hamcan cyntaf oedd codi y gwarchae. I'r dyben hyn penderfynodd fynu gweled Charles, etifedd coron Ffraingc, yn ol barn Joan a'i phlaid, tad yr hwn oedd newydd farw. Gwisgodd ei hun mewn dillad dyn, a chyda gwas neu ddau, cafodd fyued i bres- euno'deb Charles. Pan yr aeth i'r ystafell lle yr oedd, adnabyddodd ef oddiwrth y Ileill,