Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

t '"' .' ■V RHIF. I.] IONAWR, 1851 [CYF. XIV. ABRAHAM A ' R TRI ANGEL tctetljofrctü. YR HANESYDDIAETII YSGRYTHYROL. PENNOD IX. Tr oedd Abram (Abraham bellach,) trwy yr holl flynyddoedd hyn, am a wyddom, yn byw yn Mamre. Tn fuan, debygid, wedi iddo ef a'i deulu wella o archoll yr enwaediad, pan oedd un diwrnod yn eistedd yn nrws ei babell yn ngwres y dydd, mae tri gwr dyeithr oymddangosiadbon- eddigaidd i'w gweled gyda eu gilydd yn neshau tuag ato. Mae yntau yn ol arfer brydferth ei oes a'i wlad yn cyfodi i'w cyfarfod, yn eu cyfarch yn barchus, ac yn eu gwahodd yn gyfeillgar iawn i'w babell ac at ei fwrdd. Mae y gwyr yn derbyn y gwahoddiad yn dirion, yn myned i mewn aydag ef, ac yn fuan gellid meddwl, yn rhoddi ar ddeall iddo eu bod yn perthyn i natur uwch na dynol. Mae un o honynt, y.r hwn yn ddiau oedd yr Ar- crr. xiv. 1 glwydd Iesu Grist ei hun ar wedd ddynol, ya nodi allan yn fanwl yr amser y genìd mab i Sarah. Wedi darfod y wledd a barotoisai Abraham, maent yn cyfodi i ymadael, ac yn cyfeirio eu hwynebau tua Sodoma, yr hon oedd o 15 i 20 milldir o Mamre lle y pabellai Abraham. Mas un o'r tri angel, yr^hwn yn ddiau oedd angel y cyfammod, yn aros ar ol, ac yn anfon ei ddan was, yr engj'l eraill,yn mlaen tua Sodom. Wedi i'r rhai hyny fyned o'r clyw, mae y gwr mawr megys yn meth'u celu oddiwrth ei gyfaill Abra- ham y neges arswydus yr oedd ef a'i weision wedi disgyn o'r nef i'w chyflawni, sef dinystrio Sodom, Gomorrah á dinasoed'd eraill y gwastad- edd â thàn, o'r nef. Mae rhywbeth nodedig o ardderchog a mawreddig yn y gostyngeidd- rwydd a ddangosir gan yr ail Berson yn y Drin- dod, yn goddef i Abraham ddadleu ger ei fron, am yr anghyfiawnder ymddangosiadol o ddinystrio y eyfiawn a allai fod yn y dinasoedd gyda y dryg- ionus. " A ddinystri diy ddinas er mwyn deg- a-deugain, pump-a-deugain, deugain, deg-ar- hugain, ugain, deg?" ''Os oes yno ddeg, ar-