Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

J llLa ULa BHIF. 3.] MA WRTH, 1851. [OTF. XIV. P.RESWYLFEYDD CYNTEFIG. 5C t at 11) oîr ct.tt. YR IIANESYDDIAETII YSGRYTIIYROL. PENNO D XI. Mae hanes Isaac, hyd nes yr oedd yn 40 oed, wedi ei ddilyn eisoes yn hanes ei dad ; a daw y •dygwyddiadau yn ei fywyd ar ol hyny i mewnyn I 'hanes ei feibion, Esau á Jacob. Yr oedd Isaac, p íel y mae yn hawdd canfod, yn 75 oed ar far- ' wolaeth Abraham, pryd y mae yn dod i lawn feddiant o gyfoeth tywysogaidd ei dad, ynnghyd- .agolyniad fel penaeth neu frenin ac offeiriad yn yteulumawr a lluosog. Cynnwysai yr olyniad Tiefyd, yr hyn oedd lawer mwy pwysig a gwerth- fawr, sef bod yn gyff cenedl neu hynafiad i'r Messiah yn'ol y cnawd, ac yn drysorfa i'r add- ewidion mawrion am dano. Ymddengys oddi- wrth hanes Isaac ei fod yn ẃr o duedd neilldu- edig, o dymherau tawel a heddychol, yn hoffi llafurio y ddaear, ac aros yn ei unman, yn hyt- rach na symnd o le i le, fel ei dad o'i flaen, a'i feibion ar ei ol. Nid ydyw yr hanes Ysgrytliyr- •ol am Isaac ond byr, er iddo gael oes hwy, a CYF. XIV. 5 mwy o gyfoeth a llwyddiant daearol na'i dad na'i fab. Yr oedd hefyd yn Uawn mor grefyddol, yn fwy gwastad ei rodiad, ac fel hwythau yn wrth- ddrych gofal rhagluniaeth neillduol Duw. Mae llawer llai o lawr ac i fyny yn ei ymdaith ef na'r Patrieirch eraill, ac ni theithiodd y seithfed ran a ddarfu y lleill. Nid oedd ei holl deithiau ag y mae genym hanes am danynt, dros 150 o filldir- oedd, a hyny yn y wlad a ddisgynodd wedi hyny yn rhandir i lwyth Judah. Yn wahanol i'w dad a'i fab, glynodd yn ffyddlon wrth y sefydliad cynt- efig o un wraig, yr hyn yn ddiau a arbedodd iddo lawer o brofedigaetb.au a ddisgynodd i'w rhan hwy o achos amlwreicaeth. Ond ni bu Isaac heb ei brofedigaethau; bu am 20 mlynedd ar ol pri- odi, yn ddiblant; yr oedd hyn yn ofid mawr iddo, ond cafodd hâd yn y diwedd yn atebiad i weddi daer. Cafodd ei yru gan y newyn i wlad y Phil- istiaid, ac yno cyfarfu a'r un brofedigaeth ag a gyfarfuasai ei dad, a syi'lhiodd i'r un pechod ag yntau, trwy ddyweyd anwiredd yn nghylch ei wraig. Bu yn ddall am yn agós i 50 mlynedd yn niwedd ei oes, yr hyn sydd yn un o'r profedig- aethau chwerwaf ag y mae dyn yn ddarostynged- ig iddynt. Ond cyrhaeddodd yr oedran teg o 180, a chladdwyd ef gan ei feibion, Esau a Ja- cob, gyda ei dad a'i fam, yn ogof maes Macpelah.