Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ILl JÎHIF. 4.] EBRILL, 18 5 1. [OYF. XIV. B E T H E L (£ta*t!)o)au. n nANESYDDIABTII ISGETTHTBOL. PENNOD XIÍ. Yn. oedd o Beerseba, yn neheudir Canaan, i Haran, yn Mesopotamia, efallai 500 milldir o ffordd, llawer o wlad anial i'w theîthio, a mynydd- oedd uchel Libanus ao Anti-Iibanus i'w croesi, ac ymddengys nad óedd gan Jacob neb yn gwmni ond ei ffon, yn yr holl daith hirfaith. Rhyfeddy gwahaniaeth sydd rhwng arferion ein hoes a'n gwlad ni ag arferion yr oesoedd cyntefig hyny ; edrychai yn ddyeithr . i ŵr boneddig o gyffelyb feddiannau ag ydoedd Isaac, ac yn meddu ugein- iau lawer, os nad cannoedd o weision, i anfon ei fab ar ei draed ac wrtho ei hunan i daith o 500 mill- dir o ffordd, a hyny y rhan fwyaf o honi trwy wlad ddiffaeth ac anial; ond y fath ocdd arferion yr oes a'r wlad hono. Mae Jacob un noswaith, yr ail wedi cyohwyn oddicartref efallai, yn cyrhaedd cvf. xiv. 7 Bethel, oddeutu 60 milldir o Beerseba. Mae yn gwneyd ei wely dros y nos dan yr awyr agored ac ëang, a chaí'eg yn lle gobenydd o dan ei ben, ao yma y mae yn cael y weledigaeth nodedig o ysgol yn oyrhaedd o'r ddaear i'r nef, ac angelion y nef yn esgyn a disgyn ar hyd-ddi, a'r Arglwydd ei hun yn sefyll arni, ac am y waith gyntaf yn cadarn- hau iddo addewidion mawrion Abraham. O hyn allan mae Jacob. megys yn cymeryd lle ei dad Isaac, fel gwrthddrych gofal rhagluniaeth arbenig Duw. Efe bellach sydd yn derbyn ymweliadau personol y Duwdod, ac y mae cyfammod Abra- ham yn cael ei gadarnhau y naill dro ar ol y llall iddo. O hyn allan, hefyd, ond craffu yn fanwl, gellir' canfod cyfnewidiad er gwell yn Jacob ei hunan ; nid oes dim o'r castiau dichellgar ac isel i'w gweled ynddo mwy ; ond yn wyneb yr holl brofedigaethau a'i cyfarfu, (ac hid ychydig oedd- entychwaith,) o hyn hyd ddiwedd ei oes, maeyn ymddwyn yn gyfiawn ac yn onest, fel gwr yn ofni yr Arglwydd yn fawr. Yr oedd yr ysgol a welodd Jacob, yn ddiau yn ddarlun bywiog iddo ef ei hun ao i dduwiolion eraill ar ei ol, o berson