Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYF. XV. CHWEFROR, 1852. RHIF. 170. € t ií î 11; n ìí n n. YR HANESYDDIAETII YSGRYTIIYROL, PENNOD XIX. YR EX0DU6. (EX. XIII. 20-22.) lAE y rhan hyny o Arabia a elwir Arabia Garregog yn gorwedd rhwng yr Aipht a gwlad Canaan ; a gallasai yr Israeliaid, trwy gadw yn lled agos at Fôr y Canoldir, neu y Môr Mawr, fel y gelwir ef yn yr Ysgrythyrau, gyrhaedd o Rameses, yn yr Aipht, i Cades-barnea, ar derfyn deheuol gwíad Canaan, mewn o bymtheg i ugain niwr- nod, pellder o gyleh dau gan' milldir. Ond yn lle hyny maent yn eael eu cadw i grwydro yn yr anialwch am yspaid o ddeugain mlynedd, nes yr oedd yr holl ddynion ag oedd yn ugain mlwydd oed ac uchod yn dod o'r Aipht, yn meirw bob un, ond Caleb a Joshua yn unig. Pan oeddent yn Succoth, eu gwersyllfa gyntaf wedi eu hymadaw- iad o'r Aipht, mae y golofn gwmwl nodedig, y sonir mor fynych am dani, yn disgyn ac yn aros ar y gwersyll. Gellir casglu oddiwrth amryw ymadroddion yn yr hanes am y cwmwl rhyfeddol hwn, fod y rhan uchaf o hono yn debyg i golofn, pryd yr oedd ei odrau yn ymdaenu dros y gwer- syll mawr i gyd. Y dydd, yr oedd yn gysgod dy- munol iddynt, i attal pelydrau tanbaid yr haul, y cyf. XV. 3 rhai oeddent yn taro gyda grym annyoddefol ar yr anial tywodlyd yr oedd yr Israehaid yn ym- lwybro trwyddo. Yr oedd hefyd yn oleuni hyf- ryd iddynt yn nhywyllwch y nos, fel y gallent rodio yn gysurus oddiamgyleh, y nos fel y dydd. Ond y peth mwyaf arbenig mewn perthynas iddo oedd, fod Angel y Cyfammod, yr Arglwydd Iesu Grist, yn preswyüoynddo, i arwain ac amddiffyn | ei bobl; ac nis gadawodd hwy yn llwyr mwyaeh i yn ystod eu holl deithiau yn yr anialwch, nes eu | harwain dros yr Iorddonen i wlad yr addewid. ì Maent yn gadael Suecotli, ac yn gwersyllu yn Eiham, oddeutu ugain milldir yn mlaen, ac yn eychwyn oddiyno draehefn yn unionsyth yn mlaen tua Chanaan, ond cyn iddyut fyned yn mhell oddiyno, mae yr Arglwydd yn gorchymyn iddynt droi o'u llwybr, i lawr i'r dehau, yr oehr nesaf i'r Aipht i'r Mór Coch, a gwersyllu o flaen Piahiroth, rhwng Migdol a'r mór. Sylwed y i darllenydd ieuangc mai y Mór Coeh sydd yn ! gwahanu Affrica ac Asia oddiwrth eu gilydd ; | cangen ydyw o fór mawr yr India yn ymestyn yn llain gul o'r mór hwnw tua'r gogledd, hyd o fewn triugain milldir i fôr y Cauoldir ; y gwddf- ! dir hwn, yr hwn a elwir Suez, sydd yn cydio y i ddau gyfandir mawr â'u gilydd. Yn Affrica, i'r I gorllewin i'r bwlch yma mae yr Aipht, ac i'r dwy- j rain iddo yn Asia mae Arabia Garregog a gwlad | Canaan ; felly trwy yr adwy hon yr oedd llwybr i union yr Hebrëaid o Gosen i wlad Canaan ; nid oedd y Mór Coch ar eu llwybr o gwbl, a myned y ffordd agosaf; ond y mae Duw yn dewis eu harwain trwy y mór er mwyn cael cyfle i roddi ergyd gorphenol ar Pharaoh, ac er dangos i'r byd hefyd trwy yr holl oesoedd dyfodol ei oruchaf- iaeth ar bob gau-dduwiau, ae ar holl elynion ei bobl. Mae trum lled uehel o fryniau yn rhedeg gyda glan y mór, yn nghydag ambell fwlch dwfn ynddynt yn ymagor tua'r mór, yma ac acw. Yn un o'r cymoedd hyn mae plant Israel yn cael gorehymyn i wersyllu; felly yr oedd y mór o'ù blaen, yr hwn oedd yn y fan hyn gerllaw deu- ddeng milldir o led, a bryniau creigiog ar bob llaw, a dim ond un fynedfa i mewn ac allan, a hono tua'r Aipht.