Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYF. XV. MAWBTH, 1852. EHIF. 171. •ftuHIjiiìutt. YR HANESYDDIAETII YSGRYTnYROL, PENNOD XX. ANIALWCH SINAI. (EX. XIX. 1, 2.) ^, ANIALWCH Sin maent yn symud eu gwersyll i ^lephidim, wrth odreu mynydd Horeb. Lle tost oedd hwn eto, debyg- em, oblegid nid oedd yma ddyferyn o ddwfr i'r holl fyrddiynau, a'u hanifeiüaid, i'w yfed—prof- edigaeth llawer mwy chwerw, ond odid, nag a gyfarfu â neb o ddarllenwyr y " Cyfaill" ar eu hymdaith. Mae yr anialwch dychrynllyd hwn yr un eto ag ydoedd yn nyddiau Moses, a'r un gofidiau yn cyfarfod teithwyr y dyddiau hyn, ag oedd yn cyfarfod yr Israeliaid gerllaw pedair mil o flynyddoedd yn ol; ac o bob anffawd ag sydd yn gorddiwes y rhai sydd yn llwybro yr anialwch, diflỳg dwfr ydyw y tostaf o bobpeth. Yr elfen ddwfr ydyw prif gynnalydd bywyd yn y diffaeth- wch; cyfrifir tri galwyn y dydd yn angenrheid- iolar gyfer pob dyn, a phan y bydd y deheuwynt poeth yn chwythu, bydd y cwpan wrth y genau bron bob mynud, gymaint ydyw yr awydd am ei chynnwysiad. Anaml ydyw y ftynnonau yn an- ialwch Arabia, ac wedi mawr ymdrech, y teith- iwr, bron ar ddarfod am dano gan syched, am gyrhaedd y flỳnnon, mynych mynych y bydd yn ei chael wedi ei chau i fyny gan dywod yr an- ialwch, neu yr hyn Bydd lawn mor siomedig, bydd CYF. XT. 5 ei dyfroedd yn siomedig fel dyfroedd Marah—y fath siomedigaeth ! y syched llosgedig yn cael ei ychwanegu fwyfwy gan belydrau tanbaid yr haul uwchben, a'r tywod brwd o dan draed, nes peri fod yr arteithiau bron yn annyoddefol, bydd y croen dros yr holl gorff yn crebychu, y lìygaid yn edrych fel peleni o waed yn y pen, y clyw yn pallu, y tafod a'r gwcfusau yn chwyddo ac yn caledu, a'r poen mwyaf arteithiol yn y gwddf, fel nad all y dyoddefydd siarad gair. Tn y fath am- gylchiadau, cynnygiryn fynych symiau anhygoel oarian am ddracht o ddwfr i oeri y tafod, ond ni bydd i'w gael am arian na'u gwerth, oblegid byddai y neb fyddai yn meddu ychydig o hono, wrth ei werthu yn gwerthu ei fywyd ei hunan. Pan fyddo teithydd yn methu gan syched, ni bydd gan ei gymdeithion ddim i'w wneyd ond ei adael i ymdaro drosto ei hun, a phrysuro yn mlaen am eu bywyd. Y fath gyflwr tor-calonus!—yn nghanol y diffaethwch gwyllt, heb neb yn agos i gyd-ymofidio âg ef nag i'w gysuro ! Breudd- wydia ei fod yn elywed swn ffrydiau dwfr, ac yn rhodiana ar eu glanau ; ond wrth wneyd ym- drech i'w cyrhaedd, deffry i weled echryslon- rwydd ei sefyllfa. Dyma gyflwr Ismael gynt pan yrwyd ef allan o dý ei dad, a llawer mil o rai mwy anffodus nag ef ar ei ol. Ond rhoddai hau- es rhai yn y cyfryw amgylchiadau lawer gwell drychfeddwl i'r darllenydd nag un desgrifiad cy- I ffredinol a ellid wneyd. Dywed J. L. Burk- hardt, gwr a fu trwy anialwch Arabia, fod cwm- ni o bump o fasnachwyr a deg-ar-hugain o weis- ion, pan oedd efe yn y wlad hono, yn teithio o Berber i'r Aipht. Clywentfod haid o williaid yn eu dysgwyl wrth ffynnon oedd ar eu ffordd, pryd maent yn dewis arweinydd cyfarwydd â'r anial- wch, ac yn cilio o'u llwybr, heibio i ffynnon arall, yn fwy i'r dwyrain; ond yn fuan maent yn colli eu ffordd, ac am bum' diwrnod yn crwydro yn yr anialwch, heb wybod pa le yr oeddent; erbyn hyn yr oedd eu dwfr wedi darfod; yna maent yn cyfeirio eu traed tua machludiad haul, gan ob- eithio gallu cyrhaedd y Nilus. Wedi dyoddef arteithiau syched am ddau ddiwrnod yn rhagor^ , mae dau o'r masnachwyr a phymtheg o'r gweia. , ion yn cael eu gadael ar ol i drengu. Yna mae