Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYF. XV. MEDI, 1852. IRHIF. 177. JERICO HEN DIWEDDAR CrnBtjinîíaii. YR HANESYDDIAETH YSGRYTHYROL. PENNO D XXIV. jAFODD y wyrth hon, (Gwahaniad yr Iorddonen.) yr hon a gyflawnwyd yn eu hymyl, ac o flaen eu llygaid, effaitli ryfeddol ar drigolion Jericho a'r wlad o amgylch; yr oedd eu dychryn a'u hofnau yn fawr o'r blaen, ac er- byn hyn mae eu calonau yn toddi o'u mewn, a'u dwylaw yn myned yn rhy ddîafael i ddal y cledd- yf, ac yn lle dod yn mlaen, fel Sehon, i fesur eu nerth gyda Josuah ar faes y frwydr, maeut yn cau eu hunain yn eu dinasoedd caerog i ddys- gwyl ycanlyniad. Mae hyn yn rhoddi pob man- tai» a hamdden i Josuah i barotoi i oresgyn y wlad. Mae y fyddin fawr yn symud yn mlaen i cyjt. xv. 17 Gilgal, o gylch tair milldir oddiwrth yr Iorddon- en, ac oddeutu yr un faint oddiwrth ddinas Jeri- cho, ac yn gwersyllu yno. Yma mae y genedl yn cartrefu mwy nes iddynt oresgyn yr holl wlad. Pan gyrhaeddasant yma, mae y manna yn darfod, oblegid nad oedd mwy achos am dano ; yr oedd bellach ddigon o ýd i'w gael. Tebygid fod holl gnwd y ddaear, yn gystal a'r tir ei hun- an, yn dod yn feddiant cyfreithlon iddynt oddi- wrlh yr Arglwydd, y fynud y dodasant eu traed ar dir Canaan. Ymddengys nad oedd y ddwy ordinhâd grefyddol, sef y Pasg a'r Enwaediad, wedi cael eu cadw i fyny yn yr anialwch ; y rhes- wm dros hyn oedd anghyfleusdra y diffaethwch at hyny. Yr oedd llonyddwch perffaith yn ang- enrheidiol er gwella yr archoll poenus a wne'id gan gyllell yr enwaediad, a chan na wyddent pa fynud y symudai y golofn ao y byddai raid idd- ynt hwythau gychwyn i'w taith, buasai cyflawni y ddyledswydd grefyddol hon yn peryglu bywyd y dyoddefydd. Yr un wedd y Pasg, hefyd ; gell- id meddwl y buasai yn anhawdd, os nid yn an-