Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYF. XV. BHAGFTB, 1852. BHIF. 180, AILOR YB AHOGLDARTH. €xütlỳnì&u. YR HANESYDDÜETH YSGRYTnYROL. PENNOD XXVII. ^R oedd un o lwythau Israel, sef llwyth Lefi, heb un rhan iddynt yn ngwlad Canaan, dim ond dinasoedd i drigo ynddynt, yn nghydag ychydig dir pori, a gerddi yn unig. Pan oedd y genedl yn yr anialwch, mae yr Arglwydd yn gorchymyn neillduo y llwyth hwn at y gwasanaeth orefyddol ; y rhai hyn oeddent weision Duw, fel brenin Israel, i weinyddu yn ac cyf. xv. 23 o amgylch ei balas, sef y Tabernacl. Mae un tylwyth, sef tý Aaron, yn cael ei ddewis o fysg tylwythau ereill Lefi, i fod yn offeiriaid, a'r cynt- af-anedig yn y teulu hwn yn olynol trwy yr holl oesoedd, i fod yn Archoffeiriad dros ei oes, a phan fyddai farw dilynid ef yn ei swydd gan ei fab hynaf. Tr oedd dau beth na oddefid i neb ond yr Archoffeiriad yn unigeu cyflawni,sef gweinyddu yn y cysegr sancteiddiolaf ar ddydd mawr y cymmod, ac ymofyn â Duw dros y bobl; gallai yr offeiriaid cyffredin fyned trwy yr holl wasan- aeth ond y ddau beth hyn. Gwaith yr offeiriaicL cyffredin oedd offrymu yr ebyrth, gweini yn ac o amgylch y tabernacl, esbonio cyfraith yr Ar- glwydd i'r bobl, a myned gyda'r milwyr i faes y rhyfel. Tr oedd fod offeiriaid yr Arglwydd yn,