Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. XIX. H Y D R E F, 18 6 6. Rhif. 226. Ŵmtjfttìun ur Wnnttnnuu. EGLWYS CRIST YN SEFYDLIAD CEN- NADOL. — \^ Sylwedd araeth y Parch. Wji. Roberts, Hfrog Newydd, ar yr achlysur o ordeiniad y Parch. E. J. Hughes, yu Nghymanfa y Trefnyddion Calfinaidd, yr hon a gynnaliwyd yn Potts- rnlìe, Pa., Gorphenaf 18—-20fed, 18n6. Esa. xlvi. 13. " Rboddáf hefyd iachawdwriaeth yii Seion, i'm gogoniant yn Israeh" YMAE eglwys Crist yn sefyll yn y cyraer- iad anrhydeddns a phwysig o fod yn weithredydd offcrynol yn nychweliad y byd at Dduw. Y gweithretíydd effeithiol yw yr Ysbryd Glan yn ei ddylanwadau argyhoedd- iadol ac ailenedigol. A dylern gofio fod goruchwyliaeth oferynol yr eglwys, a goruch- wyliaeth effeithiol yr ysbryd, wedi eu cysylltu yu anwahanol â'u gilydd, fel y rnae Cristion- ogion yn gydweithwyr â Duw yn iachawdwr- iaeth y byd. Gofal }• Uafur a orphwys ar yr eglwys; a gofal y llwyddiant a ddib^-na ar Dduw. Perthyn i'r eglwys, trwy ei Phaul a'i Hapolos, y gwaith o blanu a dyfrhau, gyda gofal, diwydrwydd, a dyfalwch ; eithr y cyn- nydd a'r llwyddiant a ddibyna yn gwbi ar fendith Duw. Yr ydym ni yn rhy dueddol i ddysgwyl dychweliad y byd at Dduw trwy orchwyl uniongyrchol ac unigol yr ysbryd ar wahan oddiwrth oruchwyliaeth is yr eglwys: ond ni a allwn fod yn sicr na bydd i fraich yr Arglwydd ddeíîio, a gwisgo ei nerth, hyd nes y byddo i Seion iìcu eglwys Dduw ddeffro a gwisgo ei neilh. Pa nerthî Nerth ei hath- rawiaeth, nerth ei gweddiau, nerth ei hael- frydedd, a nerth ei hesiampl. Yr ydym wedi oyf. xix. 41 bod yn gweddio yn ddirgelaidd, yn deuluaidd ac yu gynnulleidfaol, gan erfyn, " Deffro, deffro, gwisgdy nerth, 0 fraich yr Arglwydd.'» A glywsom ni atebiad Duw i'n gweddiauf Dyma fe, " Dcffro, dcffro, gwisg dy nerth, Seion," yna gelli j'n rliesymol ddysgwyl i'm brach inau ddeffro a gwisgo ei nerth. Yrydym yn gwybod fod Duw wedi ordeinio dychwel- iad y byd. Gwyddom fod GairDuw yn rhag- fynegi hyny. Yr ydym yn gwybod fod ailened- igaeth y byd yn ddyledus iFab Duw amei ym- ostyngiad a'i lafur caled. Eithr yr ydym ya gwybod faefyd fod y moddion wedi eu hordeinio yn gystal a'r dyben—bod yr offeryn wedi ei appwyntio, yn gystal a gorpheniad y gwaith ; a bod y bwriadau Dwyfol mor sefydlog a digyfnewid gyda golwg ar y moddion, yn gystal a'r dyben, Gellir gweled y cysylltiad rhwng y moddiou a'r dyben yn holl foddau cyffredin y Duw mawr o weithi-edu. Er mai Efe yw ffynonell a chymhellydd pob daioni, eto gweitlireda trwy offerynau yn mhob man lle y bodola offerynau cymhwys. Er engraifft, yn y byd naturiol defnyddia ocrni a gwres, yn nghyda'u galluoedd perthynasol, i ddwyn oddiamgylch wahauol dymhorau y flwyddyn, Yn y byd rhagluniaethol, defnyddia y naill ddyn yn offeryn dysgyblaethol ar ddyn arall, trwy weinyddiad gwobr neu gosb. Ac yn y byd moesol gweithir allan yr un egwyddor. Ni acliubwyd neb erioed, ac ni achubir neb byth, mewn oed a synwyr, ond trwy offeryn- oliaeth y gwirionedd. Ac ni ddychwelir y byd at Gristionogaeth hyd nes y byddo i eglwys Dduw ddeffro a gwisgo ei nerth yn. ngwasgariad a chymhwysiad y gwirionedd. Nid wyf yn dywedyd na ddefnyddia Duw oruchwyliaethau ei Ragluniaeth i glirio,ared- ig, a pharotoi y tir i dderbyn yr had ; eithr yr had da a fwrir i'r ddaear, ac a gynnyrcha ffrwyth er gogoniant i Dduw yn ei Air, " '