Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. XIX. TACHWEDD, 1856 Rhip. 227. €riutlínìtait m BaiuspaaJ YR HANESYDDIAETH YSIÍRYTHYROL. P Ë N N 0 D L V 111. [Parftadodu dal. 249.] YR oedd Ahab yn tra rbagori mewn dryg. ioni ar bawb a fnasai o'i flaen ; ac y inae ef a'i araserau yn hynod yn yr hanesyddiaeth Ysgrythyrol. Mae yn cyraeryd iddo yn wraig Jezebel, merch Ethbaal, brenìn Sidon— ei- eilunaddol-wraig o waed ac egwyddor, ac i foddio hon y mae yn adeiladu teml i Baal ae Asteroth yn ei ddinas freninol. Kid oedd mab Nebat, er gwaethed ydoedd, wedi gwrth- od yr Arglwydd yn hollol, ond yn ei addoli mewn dull gwaharddedig; ond am yr Ahab drygionus hwn, mae ar annogaeth ei wraig, waeth nag ef ei hunan, yn gwrthod yr Ar- glwydd yn gyhoeddus, ac yn dewis Baal yn dduw iddo ef yn ei le. Yr oedd y pryd hyn amryw brophwydi yn Israel, y rhai oeddent yn derchafu eu llef yn erbyn yr ynfydrwydd. Mae eu gwaith yn dyweyd yn isel am Baal, ac yn derchafu Duw Israel, yn cynhyrfu Jeze- bel, ac yn ei chreuloni yn erbyn y prophwydi. Mae yn lladd amryw o honynt, ac eraill yn cilio o'r wlad, a chawn i wr duwiol o'r enw Obadia, ag oedd yn oruchwyliwr yn nhŷ y brenin, guddio cant o honynt meWn ogof, a gofalu am eu porthi yn y lle dirgelaidd hwnw. Yn yr adeg hon y mae un o'r dynion hynotaf yn holl hanesyddiaeth y byd yn dyfod yn ddyBymwth i'r golwg, sef Elias y Thesbiad. Brodor ydoedd o Thesbia, yn llwyth Gad, tu hwnt i'r Iorddoneu. Mac yn ymddangos o OYF. XIX. 52 fiaen Ahab yn llawn ysbryd a nerth, mewn lle cyhoeddus, ac wyl eilunaddolgar, debygid, ac yn cyhoeddi lle clywai pawb: " Fel mae byw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoe^d hyn na gwlith na gwlaw, oüd yn ol fy ngair i." Wedi cylioeddi y farn arswydlawn hon o flaen y brenin a'i wyr llys nes yr oedd eu clustiau yn merwino wrth eu clywed, mae yn cilio o'r golwg mor dd}rsj7mwth ag yr oedd wedi ymddangos. Nis gallwn lai na sefyli yn syn uwchben hanes y dyn rhyfeddol hwn. Mae mawredd goruchnaturiol bron. yn ei holl nodweddiad, yr hyn a ychwanegir trwy yr aneglurder a defiir dros ei hanes fel dyn ac aelod o gym- deithas. Mae yn ymddangos fel negesydd o fyd arall i gyhoeddi barnau Duw am bechod, nes yr oedd y penadur balch yn crynu ac yn arswydo wrth yr olwg arno. Yr oedd ei ëon- dra yn cyhoeddi bỳgythion, a'i sêl danllyd dros ogoniant Duw, ei hollol ddibrisdod o esmwythder a moethau, yn gystal a thlodi ac eisiau 3-n ei nodi allan fel dj-n yn llawn o ysbryd yr Arglwydd. Galluogwyd ef i gyf- lawni llawer o wyrthiau er dangos i\v gyd- genedl eilunaddolgar hollalluogrwydd Duw Israel, a'i ragoriaeth ar eilunod mudion. Yr oedd ei ymddangosiad ar wahanol droion fel cennad y goruchaf Dduw, mor fawreddig ag ydoedd ei esgyniad yn ei gerbyd tanllyd i'r nef yn niwedd ei dymhor. "Wedi cyhoeddi bygythion Duw ar Ahab a'i ddeiliaid, mae yn cael gorchymyn gan yr Ar- glwydd i fyned ac ymguddio wrth afon Cerith, ac y byddai i'r cigfrain ei borthi ef yno â chig a bara. Tybir fod yr afonig hon yn ymarllwys i'r Iorddonen trwy geunant dwfn ychydig uwchlaw Jericho. Mae 3' gymydogaeth yn anial ac uuigol i'r pen, ac i lawer dyu buasai