Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gyf. XX. M AI, 18 5 7 Rhif. 233. €îmlì}ŵün u límrapttii. YR MNESYDMAETÌÍ YSGRYTflYEOL, PENNOD LXIII. [Parliad o du dal. 181.] YN fuan mae byddinoedd Israel a Judah yn cael eu casglu yn nghyd, a'u harwain gan eu breninoedd dros yr Iorddonen tua Hamoth Gilead. Mae Áhab, debygid, yn dir- gel ofni geiriau Micheah, ac yn newid ei wisg rhag i'r gelyn adnabod mai y brenin ydoedd, a'i wneyd yn nod i'w saethu, ond yr oedd Jehosaphat yn ymladd yn ei wisg freninol. Cyn i'r gad gyfarfod, mae Benhadad yn gor- chymyn i'w ddynion gyfeirio eu nerth yn er- byn brenin Israel yn unig. Maent hwythau, ar y dechreu, yn camgymeryd Jehosaphat am Ahab, wrth ei weled mewn gwisg freninol. Mae Jehosaphat, yn ei gyfyngder yn gweddio ar yr Arglwydd ei Dduw. Mae y Syriaid yn y man yn deall pwy ydoedd, ac yn troi ym- aith i geisio Ahab, ac y mae un o'r milwyr yn ^ollwng saeth oddiar ei fwa ar antur, ac yn taro Ahab rhwng cysylltiadau ei lurig, gan roddi archoll angeuol iddo. Yna mae yn gorchymyn i'w gerbydwr droi tuag adref, ond yr oedd yn gorff marw cyn cyrhaedd ei brif ddinas. Fel hyn y cyflawnwyd gair yr Arglwydd trwy ergyd ar|antur. "Wrth farchogaeth yn ei gerbyd, yr oedd ei waed yn llifo o archoll y saeth yn barhaus, a daeth ei weision a'r cer- byd at lyn o ddwfr, ar lan yr hwn y llabydd- ìasai Naboth ychydig cyn hyny, ac yn y man hwn y mae y cwn yn llyfu ei waed, yn ol gair Elias. Felly y bu farw yn druenus y dyn drygionus hwn, a gadawodd ar ei ol enw sydd yn swnio yn gas yn nghlustiau y byd ar ol hyn. Mae mab iddo o'r enw Ahasiah yn esgyn yr orsedd wag yn ei le. Fel yr oedd Jehosaphat, brenin Judah, yn dychwelyd adref o'r rhyfel gwarthus hwn, mae Jehu, mab Hanani, y prophwyd, yn croesi ei lwybr, ac yn ei geryddu yn Uym am gyn- northwyo brenin annuwiol Israel. Mae yn y cerydd yn ostyngedig ac addfwyn, ac wedi cyrhaedd adref yn ymroddi o newydd i ddi- wygio ei wlad. Mae yn myned yn bersonol trwy ei deyrnas fechan o ben-bwygilydd, ac yn annog ei ddeiliaid i geisio yr Arglwydd ac ymlynu wrtho. Mae yn trefnu barnwyr yn y dinasoedd, gan eu siarsio yn ddifrifol i farnu yn gyfìawn, a pheidio derbyn wyneb un dyn byw. Yna mae yn gosod Uchel-lys yn Jerusa- lem i farnu pethau rhy uchel i farnwyr unigol y dinasoedd, ac yn tyngedu y prif farnwyr hyn yn enw yr Arglwydd i fod yn onest a chyf- iawn. Wedi trefnu ei deyrnas yn y modd rhagorol hwn, mae brenin Judah yn troi ei sylw at farsiandiaeth, ac yn adeiladu llongau yn Esi- ongaber, ar lan y Môr Coch, yn gyfranog âgAhasiah, mab Ahab, brenin Israel; ond y mae y llongau yn cael eu dryllio gan gorwynt gydag iddynt yn brin hwylio allan o'r porth- ladd. Mae drachefn yn rhoddi ail gynnyg arni ar ei draul ei hun, ond ymddengys nad oedd y fasnach yn ol ewyllys yr Arglwydd nag iddi ddwyn nemawr o elw nag enw i'r marsiandwr, ac yn fuan mae yntau yn i"hoddi yr anturiaeth i fyny. Mae y darllenydd yn cofìo, ond odid, fod gwlad Moab wedi ei dwyn o dan warogaeth i Israel yn amser Dafydd, ac yn amser mab Nebat, syrthioddy Dalaeth i ran Israel yn naturiol, gan ei bod yn ffínio ar lwyth Reuben, tu hwnt i'r Iorddonen. Ar farwol-