Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ctf. XX. MYHEFIN, 185 7 Rhif. 234. Cmíjjiiìufl u 1 íítfrrpint. ÎR HANESYMAETH YSGRYTfiilOI. PENNOD LXIV. [ParJiad o du dal. 171.] R farwolaeth Ahasiah, am nad oedd iddo fab, mae ei frawd Jehoram yu dyfod yn rheolaidd i'r orsedd yn ei le. Yn 2 Bren. i 17, dywedir i Jehoram ddechreu teyrnasu yn yr ail fiwydd i Jehoram, fab Jehosaphat, bren- ia Judah, ond cawn Jehosaphat ei hun yn fyw ac yn teyrnasu hefyd fìynyddoedd ar ol hyn. Tebygol felly fod Jehosaphat wedi codi ei fab i gyd-deyrnasu âg ef ei hun amryw flynyddoedd cyn ei farwolaeth. Yr oedd gwaith Elias bellach ar ben, ac amser ei ym- adawiad â'r byd yn nesau. Yn hysbys o hyn mae yn cymeryd cylchdaith i ymweled âg ysgolion y prophwydi i'w cynghori a'u ben- dithio cyn eu gadael. Yr oedd Eliseus, er pan feneiniasid ef gan Elias, yn glynu yu glos wrtbo, ac nid ymadawai ag ef er dim. Ym- ddengys fod y ddau gyda'u gilydd yn yr ym- weliad âg ysgolion y prophwydi, ac wedi gor- phea y gorchwyl hwnw, maent yn myned tua'r Iorddonen. Wedi dyfod at ei glan, gan »ad allent ei chroesi, mae yr hen brophwyd am y waith olaf, yn gwneyd defnydd o'i ddawn wyrthiol i agor dyfroedd yr afon, ac i wneyd llwybr sych iddo ef ac Eliseus fyned trwodd. Yn fuan wedi hyn, mae un o'r gol- ygfeydd mwyaf mawreddus ac ofnadwy a welwyd ar ein daear erioed, yn cymeryd lle. Mae 11« o angelion, ar wedd cerbyd o dân, yn cymeryd Eliasgorff ac eDaid fel yr oeddj ac yn CYF. xx!. 27 ei gario i fyny o'r golwg i'r drydedd nef. Mae Eliseus, yn ei alar ar ol ei gyfaill hoff, yn. rhwygo ei ddillad, ac yn llefain, " O fy nhad, cerbyd Israel a'i farchogion !" Llawer gwell amddiffyn ydoedd Elias i'w genedl na'u holl feirch a'u cerbydau rhyfel. Tafiodd Elias ei wisg uchaf heibio wrth gamu i'w gerbyd ys- plenydd, a disgynodd yn naturiol i feddiant Eliseus. Yr un dilledyn ydoedd, mae yn' de- byg, ag a dafiwyd drosto gan Elias pan yn ei alw i'r swydd brophwydol, ac a hon y cyf- lawnodd ei wyríh olaf; a chafodd Eliseus bi yn wystl y byddai i ysbryd a nerth Eh'as arog ai"no ef o hyn allan. Mae Eliseus, bellach, ya dychwelyd yn ol tua glan yr Iorddonen, ac yn taro dyfroedd yr afon â mantell Elias, gaa ddywedyd, " Pa le mae Arglwydd Dduw Elias?" a dyma yr hen Iorddonen yn troi yn ol fel y gwnelsai ychydig oriau cyn hyn ar archiad ei hen feistr. Dyma iddo y sicrwydd mwyaf dymunol y byddai i'r Arglwydd ei arddel ef beliach, yn lle Elias. Tebygol fod nifer o fechgyn ysgol y prophwydi o Jericho neu Gilgal wedi dilyn y ddau ,brophwyd hyd lan yr afon, ae yn llygad dystion o'r ddwy wyrth. Yr oeddent wedi clywed rliyw son fod Elias i gael ei gymeryd i fyny i'r nef,- ond ni ddeallent, ac ni choelient fod y fath beth yn bosibl; ac wrth weled Eliseus ei hunan heb ei feistr gydag ef, mynent fyned i chwilio am dano. Darfu i Eliseus yn dra anfoddlon ganiatau; ond aeth eu trafferth yn ofer—nid ydoedd i'w gael ar y ddaear mwy. CjTmerwn yma gyfle i roddi gair i mewn am ysgolion y prophwydi y sonir cymaint am danynt yn y cyfnod hwn. Yr ydym yn cofio yn dda y syniadau dyeithr oeddent yn gwasgu ar draws eu gilydd i'n meddwl ieuanc pan ya darllen llyfrau Samuel a'r Breninoedd y waith gyntaf. Yr ocdd gwekd hanes ysgol i ddysgu