Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. XX. GORPHENAF, 1857 Rhif. 23ŵ f IttìfytÌMl U iTOHfîtflît* CYSORDEB Y FFYDD. \_Parliad o du dal. 214.] YMAE yn debyg fod amry w erbyn liyn yn barod i ofyn, Pa angenrheidrwydd a aUasai fod yn y natur ddwyfol i gael iawn er niwyn arbed pechaduriaid ? Y mae yn ddigon o atebiad i ni ddyweyd, fod y Dadguddiad dw 5 fol yn dangos yn amlwg fod hyny yn bod; ond rhyfyg yw dysgwyl y deuwn ni byth yn alluog i amgyffred priodoliaethau yr Anfeidrol. Yr ydym yn gwybod fod deddf o sugn-dyniad yn y greadigaeth weledig; ond pe gofynid Beth all fod mewn un rhan o'r greadigaeth yn sugn-dynu y rhan arall ? nid oes geuym ond cyfaddef ein hanwybodaeth; ac nid yw yn un cywilyddi ni wneuíhur hyny. Ond os yw deddfau y byd gweledig mor anolrheinadwy, pa faint mwy felly yw y ddeddf hono sydd yn rheoli gweithredoedd a theimladau ysbrydoedd. Ar yr Un pryd, er fod yma ddirgelwch nas gall- wn ei amgyffred, eto os ystyriwn y mater yn fanwl a phwyllog, ac os caiff ffydd a rheswm eu He priodol mewn cydweithrediad tangnef- eddus, nid yw yn anmhosibl i ni gael digon o °leuni i foddloni pob meddwl diragfarn. Yr un peth ydy w gofyn/paham yr oedd ang- eûrheidrwydd am iawn, a phe gofynid, paham yr oedd angenrheidrwydd am gosbi pechod. f-r ün peth ydyw hyny eto a phe gofynid pa- ham yr oedd pechod yn ddrwg: a sancteidd- wydd yn dda. Y mae yr un dirgelwch yn y n: y maent yn gysylltiedig â'u gilydd, ac yn ymddibynu ar ei gilydd. Os oes gwahaniaeth üanfodol rhwng drwg a da, y mae yn hawdd ctf. xx. 32 gweled fod yr Arglwydd o angenrheidrwydd natur yn sicr o ymddwyn mewn modd gwa- hanol tuag atynt. Osnad oedd modd newid drwg yn dda, nid oedd modd peidio ei gosbi; ac os nad oedd modd peidio ei gosbi, yna nid oedd modd ei faddeu heb iawn. Pan ofynir, pa- ham yr oedd cyfiaATnder yn gofyn iawn, cyn y gellid maddeu pechod—y mae yr ateb yn barod mai oblegid ei fod yn rhwym o gosbi am bech- od: nea paham yn rhwym o gosbi am bech- od, gellir ateb drachefn, mai oblegid fod gwa- haniaeth hanfodol rhwng drwg a da. Os yw yr olaf yn wir. y mae lleill yn wir hefyd. Dylem gymeryd yn ganiatâol am y rhai sydd wedi gadael y gwirionedd hwn allan o'u cyfundraeth, mai o ddybenion daionus y gwnaethant felly: ac y mae yn debyg mai un o'r dybenion hyny oedd ennill y SosÌDÌaid i dderbyn yr athrawiaeth. Wrth ddarlunio y llywodraeth ddwyfol yu debyg i lywodraeth ddynol, a gosod yr angenrheidrwydd atn iawn yn ei effeithiau ar feddyliau y deiliaid, yr oedd yn naturiol iddynt feddwl eu bod yn gwneuthur yr athrawiaeth yn fwy dealladwy ac yn fwy derbyniol. Ond nis gallwn Ini na meddwl eu bod trwy hyny wedi syrthio i ganol anghysonderau,wedi gadael allan yr hyn sydd yn gwneyd i fynu hanfod yr iawn, ac wedi gildio yr unig dir cadara ar yr hwn y gellir cyfarfod y Sosiniaid, gyda phob math c wrthddadleuwr. Tra y cadwn mewn golwg fod gwahaniaeth anghyfnewidiol rhwng drwg a da, abod pob drwg moesol ynddo ei hun, fel y ma« yn bechod yn erbyn Duw, yn haeddu cosb, y mae yn hawdd profi fod yn rhaid cael iawn mewn trefn i faddeu; ae ar y tir hwn yn unig y gellir profi fod yr iawn yn wir angen- rheidiol. Os gofynir eto, paham y mae pech- od yn ddrwg, a phaham y mae san«teidd-