Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. XX. TACHWEDD, 1 8 5 î Rhif. 237. Cntitjmìnu u ẅpapm YR HANESYDDIAETH YSGRYTHYROL. PENNOD LXVir. [Parhad o du dal. 371.] YR oedâ yr Edomiaid wedi bod dan warog- aeth i Juda er ys amser maith; ond yn awr wedi gwrthryfela, a sefyll am eu hanni- byniaeth. Mae Jehoram yn arwain byddin tua'u gwlad i'w darostwng yn ol o dan ei iau. Darfu i Libna hefyd, un o ddinasoedd Juda gerllaw Hebron, wrthod ei lywodraeth, o her- 'W'ydd iddo ef wrthod yr Arglwydd. Yr oedd bon yn un o ddinasoedd yr offeiriaid, a llawer 0 ddynion da ynddi, mae yn debyg. Yr oedd gan Jehosaphat dduwiol luaws o feibion eraill, y rhai a osodasai eu tad yn ei ddydd i lywodraethu y dinasoedd caerog; ac y mae gwaith Jehoram waedlyd yn llofruddio ei frodyr yn ddiachos yn peri i drigolion y dinasoedd hyn ei gasau. Hefyd, hebîaw yr belbulon hyn, mae y Philistiaid ar un ochr, a'r Arabiaid o'r ochr arall, yn ymosod ar ei wlad, yu anrheithio ei balas brenìnol, ac yn cario ymaith ei wragedd a'i feibion i gaethiwed, ond «bas, ei fáb ieuangef. Ac i ychwanegu y trueni a'r blinfyd a ddygasai arno ei hun, o «erwydd ei ddrygioni, mae yn derbyn Uythyr ^edi ei ysgrifenu gan Elias, yn cyhoeddi y oarnau mwyaf arswydlawn arno. Yr oedd ^edi ei symud yn mhell cyn hyn; ond ysgrif- eöasid y llythyr gaaddo cyn ei ymadawiad, oyf. xx. ' 48 gan ei ymddiried i Eliseus a meibion y pro- phwydi i'w anfon yn yr amser priodol. Cawn fod Elias, fel y crybwyllwyd, yn an- ialdir Sinai ar ffo rhag Jezebel, wedi derbyn comisiwn i eneinio Hazael yn frenin ar Syria, Jehu yn frenin ar Israel, ac Eliseus yn brophwyd yn ei le ef ei hun. Ond ni chyflawnodd ond yr olaf yn unig o'r psthau hyn eihunan; eithr tebygol eu bod yn cael eu cadw gyda phethau eraill ar goflyfr yn un o ysgoldai y prpphwydi ì'w cyhoeddi yn eu hamser priodol, ac felly y Uythyr hwn hefyd. Yn mhen dwy flynedd ar ol hyn bu Jehoram farw yn druenus, a gwrthodedig gan bawb, o glefyd poenus a ffiaidd. Mewn gwirionedd, mae "ffordd yr annuwiol yn galed." Yna. mae Ahaziah yn dyfod i'r orsedd, a dim ond un flwyddyn fer fu hyd ei deyrnasiad. Gwrth- ododd yr Arglwydd, a dewisodd dduwiau tý Abab i fod yn amddiffynwyr iddo. Yr oedd ef a brenin Israel yn berthynasau agos, ac y maent yn ymuno â'u gilydd i ryfela â Hazael, yr hwn erbyn hyn oedd ar orsedd Syria yn lle Benhadad, ac wedi meddiannu Ramoth Gil- ead, un o ddinasoedd Israel tu hwnt i'r Ior- ddonen. Mae brenin Isi'ael yn myned drosodd gyda'r byddinoedd, ac yn cael eiglwyfomewn brwydr; ac yna yn dychwelyd i Jezreel, lle yr oedd gan y teulu balas i ymiachau. Pan glywodd ei gâr, brenin Juda, mae yn myned yno o Jerusalem i ymweled ag ef. Y pryd hyn mae gwrthryfel Jehu yn tori allan. Mae un o feibion y prophwydi yn cael ei anfon gan Eliseus gyda'r comisiwn a dder- byniasai Elias yn Horeb, i Ramoth Gilead, i eneinio Jehu, blaenor y milwyr, yn frenin ar Israel yn lle Jehoram mab Ahab. Wedi tywallt yr olew sanotiaidd ar ben y